Fern Thomas

Mae'r artist a'r awdur Fern Thomas newydd ddechrau ei PhD Partneriaeth Ddoethurol Gydweithredol AHRC, sy'n seiliedig ar ymarfer, ym Mhrifysgol De Cymru ac Amgueddfa Cymru.

Diwydiannau Creadigol
Fern Thomas

Mae cael fy lleoli yn y Gyfadran Busnes a Diwydiannau Creadigol yn golygu bod gen i fynediad at yr ymchwil anhygoel sy'n digwydd mewn perfformio, adrodd storïau, a cherddoriaeth ymhlith eraill, sydd i gyd o ddiddordeb i'm gwaith fy hun.


Ffocws yr ymchwil

Rwyf wedi bod yn ymarfer fel artist ers yr ugain mlynedd diwethaf. Fe wnes i gwblhau fy Ngradd Meistr mewn Cerflunwaith Cymdeithasol ddeng mlynedd yn ôl, maes o greadigrwydd trawsddisgyblaethol sy'n canolbwyntio ar lunio cymdeithas ddynol ac ecolegol hyfyw. Yn fwy diweddar, mae fy ymarfer wedi dechrau cwestiynu'r groesffordd rhwng treftadaeth ac ecoleg, gan chwilio am ddealltwriaethau hynafol o'r byd neu gredoau ac arferion sy'n seiliedig ar le, fel ffordd o ddeall beth yw bod yn ddynol mewn cyfnod o argyfwng ecolegol.

Rwyf wedi bod yn ymchwilio i ddefodau a seremonïau yn fy ngwaith ers amser maith, a bydd gweithio gyda chasgliad Oes yr Haearn yn Sain Ffagan yn caniatáu ymchwil fanylach o’r newydd i ddefodau a chredoau. Mae gennyf ddiddordeb hefyd yn yr amgueddfa fel gofod dinesig, a sut y dylai casgliadau’r amgueddfa a'r gwaith y mae'n ei wneud fod yn hygyrch i bob math o gynulleidfaoedd.

Rwyf wedi bod eisiau astudio ar gyfer PhD ers amser maith, a phan welais y cyfle i weithio gyda PDC ac Amgueddfa Cymru, roedd yn gwneud cymaint o synnwyr o ran fy ymarfer a'm meysydd ymchwil. Mae cael fy lleoli yn y Gyfadran Busnes a'r Diwydiannau Creadigol yn golygu bod gen i fynediad at yr ymchwil anhygoel sy'n digwydd mewn perfformio, adrodd storïau, a cherddoriaeth ymhlith pethau eraill, sydd i gyd o ddiddordeb i'm gwaith fy hun. 

Ymchwil ôl-raddedig

RWYF WEDI BOD EISIAU ASTUDIO AR GYFER PHD ERS AMSER MAITH, A PHAN WELAIS Y CYFLE I WEITHIO GYDA PDC AC AMGUEDDFA CYMRU, ROEDD YN GWNEUD CYMAINT O SYNNWYR O RAN FY YMARFER A'M MEYSYDD YMCHWIL.

Fern Thomas

Myfyriwr PhD

Ehangu dealltwriaeth

Mae Partneriaeth Ddoethurol Gydweithredol AHRC yn ffurf arbennig iawn o gydweithio rhwng gwahanol sefydliadau, ac mae fy nhîm goruchwylio yn cynnwys staff o PDC a staff o'r amgueddfa.

Rwy'n edrych ymlaen yn arbennig at dreulio amser gyda'r casgliadau archaeolegol a dod o hyd i ffyrdd newydd o ennyn diddordeb eraill mewn agweddau ar ein hanes cyfunol. Rwy'n hoff iawn o lyfrgelloedd ac roeddwn yn hapus o fod wedi cael fy ychydig lyfrau cyntaf allan ar fy niwrnod cyntaf fel y gallaf ddechrau darllen! Rwyf hefyd yn mwynhau bod yn rhan o gymuned academaidd ac yn edrych ymlaen at ddysgu am ymchwil fy nghyfoedion a chael y cyfle i ddysgu ochr yn ochr â'n gilydd.

Fel dysgwr Cymraeg, rwy'n hapus i gael y cyfle i ddatblygu fy nealltwriaeth o'r iaith trwy gyrsiau dwys a thrwy ymgysylltu ag eraill yn y Gymraeg, er mwyn i mi gynnig perfformiadau, gweithdai a chyfarfyddiadau yn ddwyieithog i wahanol gynulleidfaoedd. Rwy'n edrych ymlaen yn arbennig at ddysgu rhai geiriau archaeolegol newydd yn y Gymraeg! 

student-25

 diddordeb mewn ymchwil ôl-raddedig?

P'un a ydych chi'n dilyn PhD, MPhil, neu radd Meistr trwy Ymchwil, byddwch chi'n cael eich tywys gan arbenigwyr angerddol a blaenllaw, gan wneud effaith gadarnhaol ar unigolion, cymunedau, elusennau, busnesau a llywodraethau ledled y byd.