Mis Hanes Pobl Dduon

Ashton Hewitt

Mae Ashton Hewitt, cyn-chwaraewr rygbi proffesiynol a graddedig o PDC, yn sylfaenydd Every Voice Consulting, cwmni sy'n arbenigo ym meysydd Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant, diwylliant y gweithle, a datblygu arweinyddiaeth. Yma, mae'n rhannu gyda ni beth mae Mis Hanes Pobl Dduon yn ei olygu iddo.

Yn ôl i Fis Hanes Pobl Dduon
Ashton Hewitt

A dweud y gwir, mae Mis Hanes Pobl Dduon yn fis rwy'n ei chael hi'n anodd ymdopi ag ef.

Rwy'n dwlu ar weld arloeswyr ar draws pob sector yn cael eu cydnabod am eu cyfraniadau, a'r ffocws ar gynrychiolaeth a chynhwysiant i'r gymuned Ddu. Ond rwyf hefyd yn teimlo rhwystredigaeth bod Mis Hanes Pobl Dduon, mewn llawer o leoedd, yn dal i fod yn gyfle symbolaidd yn unig – yr un mis o'r flwyddyn pan ddethlir a chydnabyddir hunaniaeth Ddu.

Mae'n fis lle rwy'n cael fy llethu gan geisiadau i adrodd fy stori, a straeon fy nghymuned a'm teulu. Boed yn ymwneud â fy mam-gu, cenhedlaeth Windrush a'r cyfan a wnaethant dros y wlad hon, y nifer bach o chwaraewyr Du sydd wedi gwisgo crys Cymru, neu Betty Campbell yn dod yn bennaeth Du cyntaf Cymru – mae'r straeon hyn yn haeddu cael eu dathlu. Byddaf bob amser yn manteisio ar y cyfle, ond ni allaf beidio â dymuno eu bod yn bwysig i bawb trwy gydol y flwyddyn, ym mhob pwnc.

Yr hyn sy'n rhoi'r llawenydd mwyaf i mi, fodd bynnag, yw gweld y bobl sy'n ei ddathlu'n briodol. Y rhai sy'n defnyddio'r achlysur i roi llwyfan i leisiau, ac sydd, wrth edrych yn agosach, yn ymarfer cynhwysiant trwy gydol y flwyddyn, gyda hanes Pobl Dduon wedi'i wreiddio ym mhopeth a wnânt. Dyna sy'n wirioneddol bwysig.

Felly, byddaf yn parhau i gymryd rhan, oherwydd ni fyddaf byth yn colli cyfle i ddathlu pobl sydd wedi gwneud, ac sy'n parhau i wneud, cynnydd sylweddol mewn byd a all fod yn anodd i bobl Dduon ei lywio. Mae Mis Hanes Pobl Dduon yn golygu llawer i mi – ond yr hyn a fyddai'n golygu mwy fyddai byd nad oedd ei angen arno.