Mis Hanes Pobl Dduon
"Mae Mis Hanes Pobl Dduon yn gyfle i ddathlu, rhannu a chydnabod treftadaeth, diwylliant, cyfraniadau a chyflawniadau ein myfyrwyr, cydweithwyr, cyn-fyfyrwyr a chymuned ehangach PDC."
"Er bod y mis hwn yn cynnig cyfle penodol i dynnu sylw at y straeon a'r cyflawniadau hyn, mae'n bwysig nad ydym yn cyfyngu'r gydnabyddiaeth hon i un mis yn unig bob blwyddyn. Dylid dathlu, rhannu a chydnabod hanes, diwylliant a chyfraniadau pobl Dduon bob dydd, gan eu gwneud yn rhan annatod o'n dealltwriaeth o'r gorffennol, y presennol a'r dyfodol."
"Mae hefyd yn gyfle i drafod sut y gallwn ni oll ennill mwy o wybodaeth a dealltwriaeth er mwyn meithrin amgylchedd cynhwysol a gwrth-hiliol yn PDC. Trwy ddysgu, myfyrio a gweithredu trwy gydol y flwyddyn, gallwn barhau i feithrin diwylliant lle mae pawb yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi, eu parchu a'u grymuso i ffynnu."
Vida Greaux, Cadeirydd Rhwydwaith Staff Cydraddoldeb Hiliol a Richie Turner, Cyd-gadeirydd Rhwydwaith Staff Cydraddoldeb Hiliol
Ymcwhil yn PDC
-
Dr Roiyah Saltus, cymdeithasegydd ac ymchwilydd-actifydd, yw prif awdur adroddiad sy’n ymchwilio i’r ffyrdd y mae pobl hŷn o darddiad BME yn byw gyda dementia, a sut maen nhw, a’u teuluoedd, yn ceisio gwybodaeth ystyrlon a llwybrau cymorth.
-
Mae Dr Wendy Booth, arweinydd y cwrs Cymdeithaseg ac ymchwilydd mewn polisi cymdeithasol, yn archwilio sut y gellir dysgu goddefgarwch ac empathi ethnoddiwylliannol mewn ystafelloedd dosbarth dinasyddion ysgolion uwchradd.
-
Mae’r Athro Florence Ayisi, gwneuthurwr ffilmiau dogfen arobryn, yn rhan o gonsortiwm ymchwil gwerth £2.5m sy’n archwilio effaith pandemig Covid-19 ar gymunedau BME, gan greu ffilmiau pwerus i adrodd straeon pobl ledled y DU.
-
Mae Dr Sarah Wallace, Uwch Gymrawd Ymchwil yn Sefydliad Iechyd a Gofal Cymdeithasol Cymru, wedi derbyn dros £300,000 o gyllid i ymchwilio i gymorth i fenywod BME a effeithir gan drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol.
Dathlu cynnydd a phartneriaethau
Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae PDC wedi parhau i wneud cynnydd wrth gyflawni ei hymrwymiadau o dan y Siarter Cydraddoldeb Hiliol, gan helpu i greu amgylchedd mwy cynhwysol a theg i staff a myfyrwyr. Mae cyflawniadau allweddol yn cynnwys:
Diwylliant Cynhwysol
- Ehangu cyfleoedd hyfforddi a datblygu gwrth-hiliaeth i staff.
- Cyflwyno sesiynau myfyrio a thrafod i staff mewn partneriaeth â Urban Circle, fel rhan o’r sesiynau hyfforddi gwrth-hiliaeth.
- Cryfhau llywodraethu cydraddoldeb drwy sefydlu'r Bwrdd Goruchwylio Cydraddoldeb Strategol.
Data a Mewnwelediad
- Parhau i ddatblygu dangosfyrddau Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant (EDI) i wella monitro data cydraddoldeb y gweithlu a chefnogi gwneud penderfyniadau sy'n seiliedig ar dystiolaeth.
- Datblygu gwaith i gryfhau mynediad at ddata cydraddoldeb myfyrwyr a dealltwriaeth ohono.
Llwyddiant Myfyrwyr
- Cefnogi timau academaidd i ymgorffori dulliau gwrth-hiliol a chynhwysol o fewn datblygu'r cwricwlwm.
- Datblygu hyfforddiant ac adnoddau cydraddoldeb hiliol ar gyfer staff academaidd.
- Datblygu gwaith i adolygu arferion asesu a deall yn well y canlyniadau gwahanol i fyfyrwyr.
Ymgysylltu a Phartneriaethau
- Ffurfioli cytundeb partneriaeth gyda Urban Circle i gefnogi cydraddoldeb hiliol, ehangu cyfranogiad ac ymgysylltu â'r gymuned.
- Cyflwyno mentrau gan gynnwys yr Ŵyl Ddiwylliannol Ryngwladol, Cartref i ffwrdd o’ch Cartref, Wythnos Groeso Rhyngwladol a dathliadau Iftar.
- Sefydlu'r fframwaith ar gyfer Rhaglen Llysgenhadon Myfyrwyr Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant, gan greu cyfleoedd cyflogedig i fyfyrwyr gyfrannu at fentrau cydraddoldeb a chynhwysiant.
Datblygu Talent Amrywiol
- Darparu hyfforddiant recriwtio a dethol sy'n ymgorffori gwrth-hiliaeth, rhagfarn ddiarwybod a myfyrio diwylliannol.
- Datblygu gwaith ar gyfleoedd datblygu arweinyddiaeth ar gyfer staff Duon a staff o Leiafrifoedd Ethnig.
- Dechrau datblygu camau gweithredu wedi'u targedu mewn ymateb i ganfyddiadau archwilio cyflog cyfartal.
Uchafbwyntiau eraill
- Prosiect ysgrifennu creadigol myfyrwyr “I Belong”.
- Ail Ŵyl Ddiwylliannol PDC.
- Cefnogaeth i LezDiff.
- Nawdd Gwobr Cyflawniad Academaidd Gwobrau Cenedl Noddfa.
Wrth i ni ddathlu Mis Hanes Pobl Dduon, rydym yn myfyrio gyda balchder ar effaith y cydweithrediadau hyn, ac yn parhau i fod wedi ymrwymo i greu amgylchedd cynhwysol, teg a chefnogol i bawb.