Dementia a Phoblogaethau DALlE
Yr Athro Roiyah Saltus, Prif Gymrawd Ymchwil ym Mhrifysgol De Cymru (PDC) yw prif awdur adroddiad sy'n ymchwilio i'r ffyrdd y mae pobl hŷn sydd â chefndir Du, Asiaidd a Lleiafrifol Ethnig (DALlE) yn byw gyda dementia, a sut maen nhw a'u teuluoedd yn chwilio am wybodaeth ystyrlon a llwybrau cymorth.
Mis Hanes Pobl Dduon
Mae’r papur, o'r enw ‘Leave no-one behind’, yn archwilio ymchwil sy'n bodoli eisoes ar bobl DALlE yng Nghymru ac yn gwneud argymhellion ar gyfer blaenoriaethau ymchwil dementia yn y dyfodol.
Comisiynwyd yr adroddiad gan y Sefydliad Cydraddoldeb Cenedlaethol, Diverse Cymru, a’i ysgrifennu mewn cydweithrediad â Phrifysgol Caerdydd.
Dementia yw'r term eang a ddefnyddir i ddisgrifio nifer o gyflyrau gwahanol sy'n effeithio ar yr ymennydd, gan gynnwys clefyd Alzheimer, dementia fasgwlaidd, dementia blaen-dalcennol, a mwy. Wedi'i wreiddio yng nghyd-destun ehangach anghydraddoldebau cymdeithasol a gwahaniaethu, mae profiadau pobl o gefndiroedd lleiafrifol sydd â dementia yn aml yn wahanol iawn i gleifion dementia gwyn. Mae arwyddocâd y gwahaniaethau hyn yn cael ei ddwysáu wrth i boblogaeth hŷn y DU fynd yn fwy amrywiol, yn ogystal â'r effaith y mae'r pandemig wedi'i chael ar anghydraddoldebau iechyd.
Mae'r papur yn nodi sut mae pobl DALlE yn y DU yn fwy tebygol o ddatblygu rhai mathau o ddementia nag yw grwpiau ethnig gwyn, ond yn llawer llai tebygol o gael diagnosis a chael cymorth. Maen nhw hefyd yn cael eu tangynrychioli mewn ymchwil dementia.
Daw'r adroddiad i ben drwy nodi deg blaenoriaeth hanfodol ar gyfer ymchwil yn y dyfodol:
- Llwybrau i ddiagnosio pobl DALlE â dementia a'u gofalwyr.
- Casglu profiadau a chanfyddiadau ynghylch rheoli gofal a chymorth, o amrywiaeth o safbwyntiau, gyda ffocws ar y rhai a glywir lleiaf aml fel tystiolaeth ystyrlon.
- Casglu'r gefnogaeth a ddarperir gan sefydliadau'r sector cymunedol a gwirfoddol, gyda ffocws ar grwpiau wedi eu harwain gan bobl DALlE.
- Astudiaethau sy'n canolbwyntio ar fywyd mewn sefydliadau caeedig fel wardiau ysbytai a chartrefi gofal.
- Archwilio dwyieithrwydd mewn gofal dementia.
- Cwmpasu a gwella cymwyseddau gwasanaethau dementia allweddol
- Archwilio'r ffordd orau o ymgorffori a gwerthuso gwasanaethau gofal a chymorth personol sy'n seiliedig ar ddiwylliant e.e., gofal personol, deiet, gweithgareddau iechyd, materion ysbrydol, a gweithgareddau hamdden a chymdeithasol.
- Negeseuon dementia effeithiol i bobl o gefndiroedd DALlE
- Astudiaethau cyfranogol yn canolbwyntio ar gymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr yng Nghymru.
- Astudiaethau sy'n archwilio'r ffordd orau o ddarparu gofal diwedd oes sy'n ddiwylliannol briodol.
‘’Mae'r frwydr dros lwybrau gwybodaeth effeithiol, diagnosis cyflym, a systemau gofal sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn ac sy'n mynd i'r afael â gofynion iechyd yn ogystal â chymorth seicogymdeithasol i bobl â dementia wedi bod yn flaenoriaeth ymchwil, ymarfer a pholisi ers tro byd. Mae angen i ni wella ein dealltwriaeth o'r ffordd orau o wella bywydau pobl sy'n byw gyda dementia a'u teuluoedd a'u gofalwyr. Mae deall sut mae pobl DALlE â dementia a'u gofalwyr yn ceisio gwybodaeth, a sut brofiad yw asesiadau dementia a byw gyda’r cyflwr iddyn nhw, yn gam hollbwysig."
Mae'r adroddiad yn rhan o gydweithrediad hirdymor yn y Sector Cydraddoldebau Prifysgolion; Mae Yr Athro Saltus wedi cynnal astudiaethau ac wedi cyd-ysgrifennu gyda chydweithwyr Diverse Cymru ers bron i ddau ddegawd yn rhan o'i rhaglen ehangach o ymchwil a gwaith cydweithredol ar ystod o bynciau gan gynnwys gwleidyddiaeth mewnfudo, cenhedlaeth Windrush, ac iechyd a lles mewn poblogaethau ymylol a mudol.