Benedicta Ademola
Benedicta yw sylfaenydd Cwmni Buddiant Cymunedol o’r enw Sefydliad Datblygu Benzone, sydd â’r nod o greu cyfleoedd ar gyfer ymyriadau cynnar, diogel a deniadol i helpu plant, pobl ifanc a theuluoedd i gynyddu hyder, cryfhau lles, datblygu cysylltiadau ystyrlon a darganfod eu potensial.
Yn ôl i Fis Hanes Pobl Dduon
Yn ddiweddar, cwblhaodd Benedicta, sy'n aelod o Stiwido Sefydlu PDC yn Nhrefforest, Voices on Paper, prosiect wedi’i ariannu gan y Loteri Genedlaethol, lle roedd pobl ifanc yn Rhondda Cynon Taf yn creu llyfrynnau personol i adlewyrchu eu lleisiau a'u dychymyg fel unigolion. Arweiniodd Benedicta weithdai creadigol, gan helpu pobl ifanc i feddwl am eu profiadau, eu cryfderau a'u dyheadau.
Yn ddiweddar, bu Sefydliad Benzone yn rhan o Gynhadledd Mastering Divesity 2026, yn creu cyfleoedd ar gyfer sgyrsiau am gynhwysiant, hyder a lles. Ym mis Medi, lansiodd ail garfan ei raglen Catch Them Young, gyda Diwrnod Hwyl Creu-Chwarae-Arwain am ddim i blant a phobl ifanc lleol.
Dywedodd Benedicta: "Mae'r Stiwdio Sefydlu wedi bod yn fwy na gweithle i fi. Mae wedi darparu amgylchedd cefnogol lle dwi wedi gallu datblygu syniadau, magu hyder a throi gweledigaeth Benzone yn gyfleoedd ymarferol i blant, pobl ifanc a theuluoedd. Mae'r anogaeth, y cysylltiadau a'r gwelededd sy’n cael eu cynnig gan y Stiwdio wedi chwarae rhan bwysig yn fy nhwf i a thwf y sefydliad."
Gallwch gael gwybod mwy gan ac am Benedicta ar LinkedIn ac Instagram.