Gideon Ehigimetor
Gideon Ehigimetor yw sylfaenydd Steady, ap tracio arferion sydd â’r nod o helpu defnyddwyr i fod yn gyson, adfyfyrio ar eu cynnydd, ac ymgysylltu ag eraill.
Yn ôl i Fis Hanes Pobl Dduon
Mae Steady yn helpu defnyddwyr i reoli ymddygiad trwy wiriadau dyddiol a chynnig mewnwelediadau wedi'u teilwra ar gyfer unigolion. Mae'r llwyfan yn hyrwyddo cysondeb, hunan-ymwybyddiaeth ac annibyniaeth wrth gysylltu defnyddwyr â chymorth perthnasol pan fo angen.
Dywedodd Gideon, sy’n gweithio o Stiwdio Sefydlu’r Brifysgol yng Nghasnewydd: "Dechreuodd Steady fel syniad: y weledigaeth oedd defnyddio technoleg i gefnogi pobl sy'n cael anawsterau yn sgil heriau dibyniaeth ac ymddygiad. Pan wnes i rannu fy syniad gyda Stiwdio Sefydlu PDC, rhoddodd yr anogaeth a'r derbyniad ges i hyder i fi symud pethau yn eu blaen. Heddiw, mae Steady yn ap symudol byw, a thrwy gefnogaeth barhaus y Stiwdio, dwi wedi cael mynediad at fentora, arweiniad strategol, a chyfleoedd sydd wedi bod yn allweddol yn y daith hon. Dwi'n wirioneddol ddiolchgar i Stiwdio Sefydlu PDC am helpu i droi syniad yn realiti."
Cafodd yr ap ei lansio'n feddal mewn digwyddiad yn Stiwdio Sefydlu’r Brifysgol yng Nghasnewydd ar ddydd Mercher 30 Medi.
Gallwch lawrlwytho'r ap yma, neu ddilyn Steady ar Instagram i gael gwybod mwy.