Teejay Olakojo
Mae Teejay Olakojo yn wneuthurwr ffilmiau, a raddiodd gydag MA mewn Drama, ac yn aelod o Stiwdio Sefydlu PDC.
Yn ôl i Fis Hanes Pobl Dduon
Yn ddiweddar, fe wnaeth Teejay gynhyrchu a chyfarwyddo'r ffilm Àjọkẹ́, sy'n cael ei dangos ledled De Cymru.
Mae Àjọkẹ́ yn ffilm fer hunangofiannol am hynt a helynt model o Nigeria yn y DU, y mae ei hyder yn cael ei danseilio ar ôl i asiant ffasiwn pwerus wrthod ei chorff, ei harddwch a'i hunaniaeth. Yn wyneb y cyfyngiadau sy’n cael eu gorfodi arni, mae Àjọkẹ́ yn dod i ddeall y boen sy’n deillio o gael eich lleihau a'ch chamddeall. Trwy gael ysbrydoliaeth gan lwyddiannau ei hynafiaid, rheoli ei symudiadau, a chadw ffocws ar ei theimladau mewnol, mae hi'n dod i feddu ar ymdeimlad o harddwch, pŵer a hunaniaeth ar ei thelerau ei hun.
Wedi'i chomisiynu gan y cwmni theatr o Gymru FIO, mae'r ffilm yn cael ei dangos ledled Cymru ar hyn o bryd a bydd yn cael ei dangos mewn gwyliau. O ran gweithio gyda Stiwdio Sefydlu PDC, dywedodd Teejay, "Rhoddodd y Stiwdio Sefydlu le i fi ymarfer, a chreu cynllun cyfarwyddo a chynhyrchu’r ffilm."
Gallwch weld mwy gan ac am Teejay ar Instagram a Spotlight.