Mis Hanes Pobl Dduon

Celestine Chinazaekpere Okechukwu a Princess Onyeunusi

Mae Celestine a Princess yn aelodau o Stiwdio Sefydlu PDC yng Nghaerdydd ac yn gyd-sylfaenwyr Diaspora Voices Cymru, a grëwyd i chwyddo lleisiau’r diaspora, meithrin yr ymdeimlad o berthyn, cryfhau lles, a chysylltu profiad byw ag effaith gymdeithasol go iawn.

Yn ôl i Fis Hanes Pobl Dduon
Celestine and Princess.

Astudiodd Celestine MSc Rheoli Adnoddau Dynol yn PDC, cyn cwrdd â'i bartner busnes, yr awdur ac entrepreneur Princess Onyeunusi. Gyda'i gilydd, aethon nhw ati i greu lle diogel ar gyfer newid ystyrlon, cymuned a chynhwysiant, ac maen nhw wedi cyhoeddi llyfr yn ddiweddar.

Mae Diaspora Voices yn gasgliad pwerus a theimladwy iawn o straeon bywyd go iawn sy'n datgelu profiadau oedd heb eu hadrodd cyn hynny, gan bobl sydd wedi croesi ffiniau i chwilio am ddiogelwch, cyfle, urddas ac ymdeimlad o berthyn. Y tu ôl i bob taith mae yna stori ddewr. Y tu ôl i bob acen, mae yna oes o aberth. Y tu ôl i bob tawelwch, mae yna wirionedd sy'n aros i gael ei glywed.

Mae Diaspora Voices yn alwad i wrando'n fwy astud, i arwain gyda mwy o empathi, ac i fynd i’r afael â’r distawrwydd sy'n caniatáu i anghyfiawnder barhau. Mae'n herio darllenwyr i symud y tu hwnt i stereoteipiau, i ddeall yn hytrach na barnu, ac i gydnabod cyfraniad anfesuradwy cymunedau diaspora ledled y byd.

Boed yn rhan o'r diaspora ai peidio, neu os ydych chi’n adnabod rhywun y mae ei fywyd wedi'i siapio gan fudo, neu'n berson yn credu yng ngrym cyfiawnder, cynhwysiant, ac urddas dynol, bydd y llyfr hwn yn cyffwrdd â'ch calon ac yn herio eich safbwyntiau.

Mae rhagor o wybodaeth am lyfr Diaspora Voices yma.