Diwrnod Rhyngwladol y Menywod

Anitha Livingstone

Uwch Ddarlithydd mewn Nyrsio Oedolion

Diwrnod Rhyngwladol y Menywod Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant
Anitha Livingstone yn sefyll o flaen ffenestr yn gwenu ar y camera

Sut Rydw i'n Ymgorffori “Rhoi i Ennill”

Drwy gydol fy ngyrfa ar draws India, Saudi Arabia, a'r Deyrnas Unedig, mae "Rhoi i Ennill" wedi bod yn egwyddor arweiniol sy'n llunio sut rwy'n addysgu, yn arwain ac yn cynnal ymchwil. Fel Uwch Ddarlithydd ac arweinydd cwrs ar gyfer y rhaglen Tystysgrif AU Gweithiwr Cymorth Nyrsio, rwy'n ymfalchïo mewn meithrin gweithwyr cymorth gofal iechyd a myfyrwyr nyrsio sy'n aml yn brin o hyder wrth ddechrau ond sy’n datblygu i fod yn weithwyr proffesiynol galluog ac uchelgeisiol. Mae gwylio llawer yn symud ymlaen i rolau nyrsio band 6 a 7 yn un o’r agweddau mwyaf gwerth chweil ar fy ngwaith.

Mae fy ymrwymiad i roi yn ymestyn y tu hwnt i'r ystafell ddosbarth. Mae fy ymchwil gyda theuluoedd plant ifanc yn India yn canolbwyntio ar gryfhau gwytnwch, helpu cymunedau i baratoi ar gyfer heriau bywyd ac adeiladu dyfodol mwy diogel. Yng nghymuned fy eglwys, rwy'n mentora pobl ifanc, yn enwedig merched, gan gefnogi eu datblygiad ysbrydol, seicolegol a chymdeithasol fel y gallan nhw ffynnu fel unigolion cyflawn.

Nid dim ond rhywbeth rwy'n ei wneud yw meithrin eraill; mae'n ganolog i bwy ydw i. Rwy'n sefyll ar ysgwyddau menywod a wnaeth fuddsoddi ynof fi, yn enwedig Carolyn Wallace a Michelle Thomas, y mae eu mentora wedi llunio fy nhwf i fel ymchwilydd. Mae eu haelioni yn fy ysbrydoli i barhau i greu cyfleoedd i eraill, gan wybod bod pob gweithred o roi yn ein cyfoethogi ni i gyd.