Hannah Cord-Jenkins
Rheolwr Prosiect Digidol, Gwasanaethau TG
Diwrnod Rhyngwladol y Menywod Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant
Rhywun rydw i wastad wedi’i hedmygu yw Nathalie Czechowski, ein Prif Swyddog Gwybodaeth.
Fe fyddwn i'n dweud bod dau brif reswm dros hyn (ond gallwn i siarad am gymaint o rai eraill). Yn gyntaf, o fod yn fenyw ifanc sy'n dechrau ar ei gyrfa ym 'myd TG', sy'n cael ei ystyried yn fyd sydd wedi’i ddominyddu gan ddynion, mae'n ysbrydoliaeth fawr gweld Nath yn arwain ein hadran. Mae hi'n arwain gyda chymaint o awdurdod ac mewn ffordd mor benderfynol, a byth yn caniatáu i’w hun gael ei denu i wyro oddi wrth ei gweledigaeth. Ac eto, mae'n sicrhau bod ei thîm yn teimlo ein bod ni i gyd yn rhan o'r weledigaeth honno, bod gennym ni i gyd lais, bod gennym ni i gyd rôl i'w chwarae a'n bod ni i gyd yn bwysig.
Mae hyn yn arwain at fy ail bwynt: mae Nath yn rhoi o’i hamser i chwilio am gyfleoedd i mi, mae'n darparu arweiniad ac adborth gwerthfawr fel y gallaf i barhau i gyflawn ar fy ngorau ac mae wedi dangos caredigrwydd a diddordeb gwirioneddol ym mhopeth rwy'n ei wneud, boed hynny yn y gwaith neu'r tu allan i'r gwaith, er bod ganddi adran i'w rhedeg. Fe fyddaf bob amser yn ddiolchgar am bopeth y mae hi wedi'i wneud i'm helpu i gyrraedd y pwynt rydw i ynddo nawr ac rwy'n edrych ymlaen at barhau i weithio gyda hi yn y dyfodol.
Mae hi wedi bod ac yn parhau i fod yn fentor ac yn fodel rôl gwych - Diolch, Nath!