Louise Jones
Swyddog Llesiant a Phrofiad Myfyrwyr, Bywyd Myfyrwyr
Diwrnod Rhyngwladol y Menywod Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant
Mae arwain dosbarthiadau DanceFit wythnosol fel rhan o fenter ffitrwydd staff wedi bod yn ffordd i mi roi “Rhoi i Ennill” ar waith.
Fel hyfforddwr dosbarth ar ffurf dilyn-yr-arweinydd, rwy'n creu trefniannau dawns hwyliog, egnïol y gall cyfranogwyr neidio i mewn iddyn nhw a'u mwynhau heb fod angen unrhyw brofiad blaenorol o ddawnsio. Mae fy nosbarthiadau DanceFit ar agor i bawb.
Pan ddechreuais ar fy nhaith ffitrwydd, dechreuodd gyda dosbarthiadau dawns wythnosol dan arweiniad hyfforddwr anhygoel a wnaeth fy ngrymuso i ac eraill i ddawnsio fel pe na bai neb yn gwylio. Fe wnaeth fy hyder godi’n aruthrol ac wrth i amser fynd heibio roeddwn i’n gwybod fy mod i eisiau codi calonnau eraill a darparu profiad ffitrwydd hwyliog a oedd yn cynnwys symud mewn ffordd nad oedd yn rhan o’r profiad mewn campfa draddodiadol.
Daeth yr hyn a ddechreuodd fel cariad at symud i fod yn ofod lle gallai eraill neilltuo amser o'u diwrnod prysur iddyn nhw eu hunain, gan roi hwb i hyder, meithrin cysylltiadau, a chael hwyl.
Wrth roi fy amser, fy anogaeth, a'm hegni cadarnhaol, rydw i wedi cwrdd â menywod gwych yma yn PDC, wedi datblygu fy sgiliau arweinyddiaeth, wedi creu llawer o fy nhrefniannau dawns fy hun, ac wedi gweld gwelliant enfawr yn fy hyder a'm sgiliau rhyngbersonol.
Dechreuodd fy nhaith ffitrwydd bersonol gyda'r hyn rwy nawr ei ddarparu i gymuned PDC. Dyna’r cylch yn gyflawn.