Rwy’n gobeithio am ddyfodol lle na fydd angen diwrnod ‘yn erbyn’ dim byd ond y byddwn yn dathlu trwy gydol y flwyddyn yr amrywiaeth gyfoethog o ffyrdd yr ydym yn mynegi ein hunain ac yn caru ein gilydd.


Cynhaliwyd y Diwrnod Rhyngwladol yn Erbyn Homoffobia cyntaf ar Fai 17, 2005.


Ers sefydlu IDAHOBIT, rydym wedi gweld llawer o gynnydd ym Mhrydain a rhai gwledydd eraill, ond mae llawer o le i wella o hyd.

Mae yna lawer o bobl o hyd sy’n cael eu gwrthod gan eu teuluoedd, cyflogwyr, cymunedau ffydd a chylchoedd eraill oherwydd pwy maen nhw’n ei garu neu sut maen nhw’n uniaethu ar y sbectrwm rhyw. Fel dyn hoyw, rwy’n falch iawn o fod yn rhan o dîm y Gaplaniaeth sy’n gwbl ymroddedig i gymuned lle gall pobl LHDTC+ deimlo’n ddiogel a’u bod yn cael eu gwerthfawrogi.

Roedd y Diwrnod yn rhyngwladol o'r cychwyn cyntaf. Diolch i ymgyrch baratoadol blwyddyn o hyd, ymunodd nifer o sefydliadau a miloedd o bobl ledled y byd â’r diwrnod cyntaf hwnnw yn 2005. Heddiw, mae'r dimensiwn rhyngwladol mor bwysig ag erioed, ac mae newidiadau diweddar yn yr Unol Daleithiau, yn ogystal â deddfau mwy gormesol mewn gwledydd eraill, wedi gwneud y byd yn llai diogel i bobl LHDTC+, yn enwedig y rhai sy'n drawsrywiol, yn anneuaidd neu'n rhyngrywiol.

Mae yna dros 70 o wledydd o hyd lle gall pobl LHDTC+ gael eu carcharu neu hyd yn oed eu dienyddio. Mae llawer o bobl o’r gwledydd hynny yn rhan o’n cymuned yma ym Mhrifysgol De Cymru, ac mae gennym gyfle nid yn unig i gefnogi’r rhai yr effeithir arnynt yn bersonol, ond hefyd i ddylanwadu ar y rhai a fydd yn dod yn arweinwyr meddwl a pholisi yn eu gwledydd eu hunain ac yn helpu i lunio eu diwylliant.

Gall deddfwriaeth atal pobl rhag gwneud y pethau anghywir, ond mae newid agweddau yn llawer anoddach. Mae gennym ni i gyd yr hawl i fod pwy ydyn ni a'r ddyletswydd i roi gwybod am ragfarn a gwahaniaethu pan fyddwn yn ei weld. Ar yr un pryd, rhaid i ni ddysgu adrodd ein stori ein hunain yn onest, gwrando'n amyneddgar ar ein gilydd, ceisio deall safbwynt eraill, a helpu i adeiladu diwylliant mwy agored sy'n parchu'r ddwy ochr.

Rwy’n gobeithio am ddyfodol lle na fydd angen diwrnod ‘yn erbyn’ dim byd, ond y byddwn yn dathlu trwy gydol y flwyddyn yr amrywiaeth gyfoethog o ffyrdd yr ydym yn mynegi ein hunain ac yn caru ein gilydd.

 

Dysgwch Fwy

Mis Hanes LHDT+

Myfyrwyr LHDTC+

Cymorth a Gwybodaeth LHDTC+

SPECTRUM: Rhwydwaith Cydweithwyr Lhdtc+ A Chynghreiriaid