Fel person cwiar, mae'r Brifysgol wedi bod yn ofod diogel a chefnogol lle rwyf wedi dod o hyd i gynhwysiant ymhlith darlithwyr a fy ngharfan, gan ffurfio cyfeillgarwch gydol oes.
Mae Mis Hanes LHDTC+ yn amser i anrhydeddu'r rhai a gollwyd i droseddau casineb, ddoe a heddiw wrth ddathlu gwytnwch a chyflawniadau ein cymuned. Er enghraifft, roedd lesbiaid, sy'n aml yn cael eu hanwybyddu mewn hanes, yn ganolog yn ystod yr argyfwng AIDS, gan gamu i fyny fel gofalwyr, gweithredwyr a threfnwyr.
Fe wnaeth eu cefnogaeth a'u heiriolaeth ddiflino ail-lunio safbwyntiau'r cyhoedd o'r gymuned LHDTC+ a gwthio datblygiad allweddol yn y frwydr yn erbyn HIV/AIDS. Mae'r hanes cyfoethog hwn yn darparu modelau rôl anhygoel i bobl fel fi sy'n ymuno â'r diwydiant celfyddydau ac iechyd.
CYMRYD RHAN
Os ydych chi’n fyfyriwr neu’n gydweithiwr yn PDC, ac yn dymuno rhannu’r hyn mae Mis Hanes LHDTC+ yn ei olygu i chi, e-bostiwch eich cyfraniadau i
[email protected]