THANIA ACARÓN

Arweinydd Cwrs, MA Ymarfer Celf (Celfyddydau, Iechyd a Lles)

Mis Hanes LHDTC+
penlun o berson â gwallt tocio, yn gwisgo crys glas

Nid dathliad yn unig yw Mis Hanes LHDTC+; mae'n alwad i weithredu. Mae'n ein gwahodd i addysgu ein hunain, anrhydeddu ein gorffennol, a gweithio gyda'n gilydd tuag at ddyfodol lle mae pawb yn rhydd i fod yn nhw eu hunain. Mae croesawu’r mis hwn yn cryfhau ein hymrwymiad i amrywiaeth, tegwch a chynhwysiant yn ein prifysgol a thu hwnt.


Mae Mis Hanes LHDTC+ yn gyfle hanfodol i fyfyrio, addysgu a dathlu profiadau a chyfraniadau amrywiol unigolion LHDTC+ trwy gydol hanes.

I mi, mae’n ein hatgoffa o’r gwytnwch a’r dewrder a ddangoswyd gan y rhai a frwydrodd dros yr hawliau a’r gydnabyddiaeth y mae llawer ohonom yn eu mwynhau heddiw. Mae deall hanes LHDTC+ yn hanfodol i feithrin amgylchedd cynhwysol lle mae pawb yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a'u deall.

Drwy gydnabod yr anawsterau a wynebir gan y gymuned LHDTC+, gallwn werthfawrogi’n well y cynnydd a wnaed a chydnabod y gwaith sydd o’n blaenau o hyd. Mae dathlu Mis Hanes LHDTC+ hefyd yn creu llwyfan ar gyfer deialog am y croestoriadau rhwng hunaniaeth, diwylliant a hanes. Mae'n annog myfyrwyr a chydweithwyr i ymgysylltu â safbwyntiau amrywiol a herio rhagfarnau. Mae’r ymgysylltu hwn yn meithrin ymdeimlad o berthyn ac undod o fewn cymuned ein prifysgol, gan hyrwyddo derbyniad a dealltwriaeth.

Fel aelod o'r gymuned LHDTC+, mae arwyddocâd personol i mi yn y mis hwn. Fel therapydd symudiad dawns sy’n arwain sesiynau symud er lles ac yn dylunio prosiectau celfyddydol a iechyd ar gyfer y gymuned LHDTC+, rwy’n myfyrio’n arbennig ar y rôl y gall y celfyddydau ei chwarae wrth gynnal a thrawsnewid ein hanes a’n cefnogi i deimlo’n llai ynysig, cryfach, mwy gwydn a chysylltiedig.

Mae’r celfyddydau, ac yn fy achos i, dawns/symudiad, yn darparu tystiolaeth o’n gallu i ddod at ein gilydd a symud gyda’n gilydd i adeiladu undod. Mae’n amser i fyfyrio ar fy nhaith a theithiau pobl eraill sydd wedi dod o’m blaen. Mae’n fy atgoffa bod ein hunaniaethau a’n hanes wedi’u plethu ynghyd, gan greu tapestri cryf sy’n cyfoethogi ein naratif torfol.

Nid dathliad yn unig yw Mis Hanes LHDTC+; mae'n alwad i weithredu. Mae'n ein gwahodd i addysgu ein hunain, anrhydeddu ein gorffennol, a gweithio gyda'n gilydd tuag at ddyfodol lle mae pawb yn rhydd i fod yn nhw eu hunain. Mae croesawu’r mis hwn yn cryfhau ein hymrwymiad i amrywiaeth, tegwch a chynhwysiant yn ein prifysgol a thu hwnt.

CYMRYD RHAN

Os ydych chi’n fyfyriwr neu’n gydweithiwr yn PDC, ac yn dymuno rhannu’r hyn mae Mis Hanes LHDTC+ yn ei olygu i chi, e-bostiwch eich cyfraniadau i

[email protected]