Mae llwybr y traethawd ymchwil yn cynnwys gwneud darn o waith ymchwil gwreiddiol dan oruchwyliaeth a chyflwyno traethawd ymchwil hyd at 100,000 o eiriau.
Mae’r llwybr PhD drwy Bortffolio yn rhoi’r opsiwn i ddefnyddio prosiectau presennol neu flaenorol ac allbynnau cysylltiedig ac ysgrifennu trosolwg beirniadol sy’n dod â’r rhain ynghyd i greu stori gydlynol.
Yn yr un modd â llwybr y traethawd ymchwil, disgwylir i'r portffolio ddangos cyfraniad annibynnol a gwreiddiol at wybodaeth.
Uchafswm o dri phrosiect gydag allbynnau cysylltiedig.
Gellir, gall prosiectau fod yn gysylltiedig ag arfer proffesiynol, a / neu ddeillio o ymchwiliad empirig neu gysyniadol.
- Adroddiadau prosiect / rhaglen
- Deunyddiau prosiect / rhaglen
- Adborth gan noddwyr y prosiect
- Llyfrau cyhoeddedig / penodau / papurau cyfnodolyn
- Trafodion cynadleddau
- Patentau
- Arolygon
- Arddangosfeydd / cynyrchiadau / arteffactau
- CD / DVD / cyflwyniadau fideo / ffilm
- Rhaglenni meddalwedd
- Pecynnau amlgyfrwng
- Dylunio deunyddiau
- Mapiau