Myfyrwyr ymchwil ôl-raddedig newydd
Rydym ni yma i'ch helpu chi
Ysgol i Raddedigion
Ar ddiwrnod cyntaf eich rhaglen newydd, bydd angen i chi gofrestru'n ffurfiol ar-lein. Byddwch wedyn yn cael eich gosod ar systemau'r Brifysgol a byddwch yn derbyn eich cerdyn adnabod myfyriwr. Mae’r broses yn wahanol i fyfyrwyr rhyngwladol, darllenwch y Gweithdrefnau ar gyfer Ymchwilwyr Ôl-raddedig Rhyngwladol am ragor o wybodaeth.
Fe'ch cyflwynir i reoliadau, polisïau, gweithdrefnau a disgwyliadau graddau ymchwil ôl-raddedig perthnasol. Byddwch hefyd yn derbyn gwybodaeth am Galendr Digwyddiadau Ysgol y Graddedigion i'ch cynorthwyo gyda’ch astudiaethau. Bydd eich Cyfarwyddwr Astudiaethau yn sicrhau eich bod yn cael cyfnod sefydlu lleol ar lefel Cyfadran a Grŵp Ymchwil.
Un o'r pethau cyntaf y bydd angen i chi ei wneud yw cofrestru'ch prosiect trwy PhD Manager. Dylech lwytho eich cynnig ymchwil i'r PhD Manager ar y cam hwn.
Dylech nodi'n glir a ydych yn astudio drwy’r Gymraeg neu'r Saesneg ac os ydych yn astudio ar gyfer PhD, y ffurf y bwriedir ei chyflwyno (h.y traethawd hir, portffolio neu gyhoeddiad). Yn achos y llwybr cyhoeddi, byddwch yn darparu manylion y cyhoeddiadau.
Pan fyddwch yn cofrestru rydych yn cytuno i gadw at Reoliadau Graddau Ymchwil y Brifysgol y dylech fod yn gyfarwydd â hwy ac sydd i'w gweld yma.
Unwaith y byddwch wedi cyflwyno eich cofrestriad caiff ei lofnodi gan eich Cyfarwyddwr Astudiaethau a'i nodi gan Bwyllgor Graddau Ymchwil y Gyfadran.
Mae eich cyfnod cofrestru yn dechrau ar ddyddiad cychwyn eich cwrs. I gael manylion y cyfnodau cofrestru gofynnol, uchaf ac arferol a ddisgwylir ar gyfer pob cwrs, cyfeiriwch at y Rheoliadau Graddau Ymchwil.
Yn eich cyfarfod cyntaf gyda'ch Cyfarwyddwr Astudiaethau dylech wneud dadansoddiad o'ch anghenion sgiliau i weld a oes unrhyw hyfforddiant penodol sydd ei angen arnoch i gefnogi eich astudiaethau. Gallai hyn fod yn hyfforddiant pwnc-benodol, dulliau ymchwil neu hyfforddiant sgiliau generig.
Gallwch ddefnyddio offeryn Fframwaith Datblygu Ymchwilwyr Vitae i helpu gyda hyn.
Yn ogystal â chael tîm goruchwylio ag arbenigedd yn eich pwnc astudio, bydd gan bob myfyriwr:
- Darperir gofod addas sy'n briodol i'ch astudiaethau. e.e cyfleusterau labordy, gofod desg, gofod astudio i ymarferwyr a/neu weithdai pwnc arbenigol.
- Mae'r mannau hyn wedi'u lleoli mor agos â phosibl at y grŵp pwnc perthnasol ar gyfer eich gwaith, a byddant yn cynnwys lle storio personol lle bynnag y bo'n briodol.
- Mynediad i gyfrifiadur neu liniadur, ac i gyfleusterau TG, gan gynnwys cyfrif e-bost y Brifysgol.
- Mynediad priodol i rwydweithiau ffôn mewnol, a lle bo angen ar gyfer y prosiect, allanol.
- Cytunir ar nwyddau traul labordy disgwyliedig ac angenrheidiol, offer gwyddonol, a phecynnau TG arbenigol pwnc cyn cychwyn ar y prosiect. Bydd gofynion ychwanegol rhesymol sy'n codi yn ystod astudiaethau yn cael eu hystyried gan y Gyfadran berthnasol a'u bodloni lle bo'n briodol.
- Ystod o wasanaethau ac adnoddau llyfrgell, e.e benthyciadau rhwng llyfrgelloedd, mynediad i lyfrgelloedd eraill, meddalwedd llyfryddol EndNote, llyfrau, cyfnodolion a chronfeydd data electronig.
- Rhaglen eang o gyfleoedd datblygu sy'n cyd-fynd â Fframwaith Datblygu Ymchwilwyr Vitae.
- Mynediad i Ysgol y Graddedigion yn Nhŷ Crawshay ar Gampws Trefforest, a gofod Ymchwil Ôl-raddedig tebyg priodol ar gampysau eraill; mae'r cyfleusterau'n cynnwys ardaloedd astudio grŵp, mannau cyfarfod y gellir eu harchebu, mannau astudio tawel a mannau cymdeithasol.
- Cyfleoedd i ymarfer cyflwyno eich gwaith, ac i gael adborth ar hyn mewn amgylchedd cefnogol.
Os oes angen cymeradwyaeth foesegol gan y Brifysgol ar eich prosiect, mae'n hanfodol cael hwn cyn casglu data. Bydd eich goruchwylwyr yn gallu rhoi cyngor ar hyn.
Mae yna nifer o adnoddau hanfodol i helpu gyda'ch astudiaethau ac y dylech fod yn gyfarwydd â nhw, yn enwedig y Rheoliadau Graddau Ymchwil a Fframwaith Llywodraethu Ymchwil y Brifysgol.
Disgwylir i chi ddarllen yr adnoddau yn ofalus fel eich bod yn gwybod beth a ddisgwylir gennych o ran eich cynnydd ac o ran arfer da wrth gynnal ymchwil.
Gwyddorau Bywyd ac Addysg:
Jane MacCuish (Swyddog Ysgol i Raddedigion)
E-bost: [email protected]
Rhif ffôn: 01443 482788
Cyfrifiadura, Peirianneg a Gwyddoniaeth:
Llinos Spargo (Swyddog Hyfforddi a Datblygu Ysgol i Raddedigion)
E-bost: [email protected]
Rhif ffôn: 01443 483568
Busnes a Diwydiannau Creadigol:
Alison Crudgington (Swyddog Ysgol i Raddedigion)
E-bost: [email protected]
Rhif ffôn: 01443 654269