Mae’r Gwasanaeth Lles ar gael i’ch helpu gyda’ch iechyd corfforol a meddyliol, lles cymdeithasol, ac i’ch cefnogi tra byddwch yn astudio. Maent yn darparu mynediad i adnoddau ar-lein, gweithdai a chyrsiau byr, yn ogystal â chymorth iechyd meddwl a chwnsela. Gan ddefnyddio’r Ardal Gynghori ar-lein, gall myfyrwyr drefnu apwyntiadau i gael cyngor ar Les, Iechyd ac Anabledd, yn ogystal â gwasanaethau eraill, megis Cyngor Ariannol i Fyfyrwyr.
Rydym wedi llunio nifer o adnoddau ar-lein a fydd yn eich helpu i feddwl am sut yr ydych yn cynnal eich lles. O ganllawiau i leihau straen a phryder, i bodlediadau am reoli teimladau o 'syndrom y ffugiwr', dilynwch y ddolen hon i gael mynediad at ystod o adnoddau y credwn fydd yn cefnogi myfyrwyr sy'n wynebu heriau penodol ymchwil ôl-raddedig i'w lles.
Mae rhai o'n myfyrwyr ymchwil ôl-raddedig wedi rhannu gyda ni beth maen nhw'n ei wneud sy'n eu helpu gyda'u lles. O gerdded yn y mynyddoedd i wylio Netflix, mae'n bwysig i fyfyrwyr gymryd amser i wneud pethau maen nhw'n eu mwynhau y tu allan i'w prosiect ymchwil. Mae cynnal cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith yn hanfodol ar gyfer eich lles. Cliciwch yma i weld beth mae myfyrwyr eraill yn ei wneud i reoli eu lles.
Yn ogystal â digwyddiadau lles cyffredinol a drefnir gan y Gwasanaethau Lles, mae Ysgol y Graddedigion yn cynnal gweithgareddau sydd ar gyfer myfyrwyr ymchwil ôl-raddedig yn unig, fel y Daith Gerdded Lles i gopa Pen y Fan, a'n sesiwn dal i fyny 'Cyri a Sgwrs'. Weithiau gall y daith ymchwil ôl-raddedig fod yn anodd, ac mae’n gyffredin i fyfyrwyr deimlo’n ynysig ac yn unig. Gall creu cysylltiadau â myfyrwyr ymchwil ôl-raddedig eraill helpu i gael effaith gadarnhaol ar eich lles, ac mae'n gyfle da i ddianc o'ch desg am ychydig oriau hefyd! Gweler pa ddigwyddiadau sydd ymlaen yma.
Mae PDC yn gydweithwyr ar y prosiect HEFCW a ariennir, Ymchwilydd Cymru. Pwrpas y prosiect yw creu 'pecyn cymorth' o adnoddau ar gyfer myfyrwyr ymchwil ôl-raddedig a fydd yn cael ei lansio'r flwyddyn nesaf. O adnoddau ar-lein i ddigwyddiadau rhwydweithio, nod y prosiect yw cefnogi myfyrwyr ymchwil ôl-raddedig a'u helpu i reoli eu lles. Os hoffech gyfrannu at y prosiect, cysylltwch â [email protected]
Mae Llesiant Ymchwilydd Cymru (RWC) yn blatfform digidol mynediad agored sy’n darparu pecyn cymorth o adnoddau i helpu i gefnogi astudiaethau Doethurol. Wedi'i wneud gydag ymchwilwyr Doethurol ar gyfer ymchwilwyr Doethurol, mae gan RWC dros 130 o adnoddau ar-lein pwrpasol (mae enghreifftiau'n cynnwys gweithio gyda'ch goruchwylwyr, rheoli'ch amser, a chadw'n llawn cymhelliant), yn ogystal â straeon myfyrwyr, dyddiaduron fideo a blog preswylwyr. Mae PDC yn falch o fod wedi cydweithio â phrifysgolion ledled Cymru i ddatblygu’r platfform hwn.
Gallwch gael mynediad i'r platfform yma: Hafan - Llesiant Ymchwilydd Cymru