Datblygu Campysau
Mae Prifysgol De Cymru yn ymgymryd â rhaglenni buddsoddi gwerth miliynau o bunnoedd yn rheolaidd er mwyn sicrhau bod myfyrwyr yn cael y profiad dysgu gorau posibl.
Ers 2006, mae’r gyfres gyffrous hon o ddatblygiadau wedi bod yn newid siâp ein cyfleusterau i fyfyrwyr a staff yn sylweddol, ar draws y Brifysgol.
Defnyddiwch y dolenni isod i gael gwybod mwy am rai o’n prosiectau datblygu mwyaf trawiadol. Os oes gennych unrhyw ymholiadau, cysylltwch â’r Tîm Prosiectau.
“Mae Prifysgol De Cymru wedi ymrwymo i ddarparu amgylchedd dysgu o’r radd flaenaf sy’n cynnwys defnyddio cyfleusterau dysgu arloesol: amgylchedd dysgu lle mae myfyrwyr yn ffynnu ac yn tyfu, yn academaidd ac yn gymdeithasol.”
Is-Ganghellor, Julie Lydon
Cafodd yr adeilad ATRiwM gwreiddiol ei gwblhau a’i agor yn 2007, gan ddarparu cyfleuster newydd sbon yng nghalon y brifddinas ar gyfer ein myfyrwyr diwydiannau creadigol. Cyhoeddwyd yr ail gam yn natblygiad yr ATRiwM yn gynnar yn 2012. Yn yr un modd ag sy'n digwydd gyda llawer o brosiectau datblygu mawr, fe’i cyflwynwyd yn raddol mewn dau gam, ATRiwM 2A ac ATRiwM 2B.
ATRiwM 2A
Yn ystod ail gam y campws ATRiwM yng Nghaerdydd, codwyd estyniad deulawr i’r gorllewin o’r adeilad gwreiddiol gan ychwanegu bar undeb y myfyrwyr a ffreutur fawr.
Mae’r gwaith ehangu yn darparu ar gyfer y galw cynyddol gan gymuned fusnes Caerdydd, megis angen cynyddol y diwydiannau creadigol am raddedigion ym maes darlledu, animeiddio a’r celfyddydau perfformio. Mae hefyd yn adlewyrchu anghenion cynyddol y sector gwasanaethau ariannol a phroffesiynol yn ardal fenter y ddinas.
Cyflawnwyd y cam hwn ac roedd yn barod i groesawu myfyrwyr ym mis Medi 2014.
ATRiwM 2B
Ychwanegodd prosiect ATRiwM ‘2B’ ofod ychwanegol i gynnal cyfleusterau dysgu ac addysgu o’r radd flaenaf ar gyfer ein myfyrwyr diwydiannau creadigol yng Nghaerdydd.
Fe wnaeth yr adeilad pum llawr ymestyn yr adeilad Atriwm presennol tua’r dwyrain, gan ddefnyddio tir heb ei ddatblygu y mae’r Brifysgol eisoes yn berchen arno. Roedd yn barod i groesawu myfyrwyr ar ddechrau’r flwyddyn academaidd 2016/17.
Datblygwyd cynlluniau ar gyfer defnyddio’r gofod mewnol yn fanwl mewn ymgynghoriad â staff a myfyrwyr drwy weithgor Campws Caerdydd, ac mae’r adeilad yn cynnal cyfleusterau stiwdio dylunio helaeth ar gyfer darlunio, hysbysebu, cyfathrebu graffig, dylunio setiau ffilm a theledu a chynllunio mewnol, yn ogystal â’n tri chwrs ffasiwn.
Roedd dwy stiwdio ddawns, gofodau ymarfer drama a stiwdio ffotograffig sylweddol, gydag adnoddau ychwanegol ar gyfer rhoi gorffeniadau a chipio delweddau hefyd yn rhan o’r cynlluniau. Yn ogystal, mae cyfleusterau gweithdai creu newydd i gefnogi ein cyrsiau cyfryngau, perfformio a dylunio, a chyfleusterau creu modelau ar gyfer maes animeiddio.
Mae’r adeilad wedi’i ddylunio i ddarparu cyfleusterau arbenigol a gofod i fyfyrwyr ddatblygu eu gwaith creadigol mewn amgylchedd proffesiynol. Bydd ardaloedd astudio ac ymarfer agored yn cynnig safleoedd i fyfyrwyr o bob un o’n cyrsiau Diwydiannau Creadigol i weithio’n annibynnol neu mewn grwpiau, gan nodweddu’r ffordd gydweithredol y mae’r Diwydiannau Creadigol yn gweithio.
Ym mis Medi 2013, cwblhawyd datblygiad gwerth £5.25m ar Floc B yn Nhrefforest, er mwyn creu wyneb newydd, modern ac amlwg iawn ar gyfer prif gampws y Brifysgol.
O ganlyniad i’r prosiect, trawsffurfiwyd presenoldeb ffisegol y Brifysgol ar Heol Llanilltud o goleg polytechnig hen ffasiwn yr 1980au, i fod yn sefydliad addysg uwch modern ac unigryw.
Roedd y prosiect yn cynnwys dymchwel rhannau o’r adeilad er mwyn gwneud lle i gyfleusterau gwell i fyfyrwyr, gan gynnwys theatr ddarlithio newydd sbon gyda 304 o seddi.
Mae blaen ac ochr yr adeilad, sy’n edrych dros Dŷ Crawshay a Heol Llanilltud, wedi’u trawsnewid yn ardal lobi eang gyda blaen gwydr, y gall y cyhoedd ei weld ac sy’n drawiadol i fyfyrwyr ac ymwelwyr â’r Brifysgol.
Mae gweddill yr adeilad, B2 a B3, wedi’i adnewyddu i greu cyfres o gyfleusterau addysgu amlbwrpas newydd a modern er mwyn gwella’r ddarpariaeth ar ein prif gampws. Darperir swyddfeydd hyblyg a chynllun agored ar gyfer rhai adrannau cymorth.
Mae’r datblygiad hwn yn ffurfio rhan o fuddsoddiad parhaus y Brifysgol yn ei gampysau i greu cyfleusterau modern ar gyfer myfyrwyr a staff.
Agorwyd y prosiect gwerth £28m i foderneiddio ac adnewyddu Llyfrgell a Chanolfan y Myfyrwyr yn Nhrefforest yn swyddogol ym mis Chwefror 2014.
Mae Llyfrgell a Chanolfan y Myfyrwyr yn gartref i ran fwyaf o ddeunyddiau dysgu electronig a phapur y brifysgol, ac yn ganolbwynt allweddol i fyfyrwyr sy’n astudio yn Nhrefforest.
Roedd y cynlluniau’n cynnwys ailgynllunio mynedfa flaen yr adeilad er mwyn creu strwythur modern, trawiadol, a gwell mynediad i’r adeilad i ddefnyddwyr cadeiriau olwyn.
Y tu mewn, mae gwaith adnewyddu sylweddol ar gynllun yr ystafelloedd a’r cyfleusterau wedi sicrhau bod y lle yn cael ei ddefnyddio'n fwy effeithlon. Mae pob gwasanaeth cymorth i fyfyrwyr wedi cael ei ailgartrefu dan un to i greu profiad siop-un-stop i fyfyrwyr sy’n chwilio am gymorth.
Cwblhawyd Cam Dau o ddatblygiad Tŷ Crawshay, ar gampws Trefforest ym mis Medi 2011, gan gyflwyno canolfan ôl-raddedig fodern, newydd sbon, gydag ardaloedd dysgu cymdeithasol cynllun agored, ystafelloedd cyfarfod, derbynfeydd ac ardaloedd astudio.
Wedi’i leoli ar lawr cyntaf Tŷ Crawshay, mae’r Ganolfan Ôl-raddedig yn cynnig gofod cymdeithasol a man gwaith penodol ar gyfer myfyrwyr ôl-raddedig.
Mae adeilad hanesyddol Tŷ Crawshay yn dyddio’n ôl i ddechrau’r 1800au a dyma gyn gartref yr ysgol Mwyngloddiau.
Cymerwch olwg ar ragor o luniau o’r Ganolfan Ôl-raddedig ar Flickr.
Ym mis Medi 2010, agorwyd adeilad Undeb y Myfyrwyr newydd sbon gwerth £5 miliwn ar brif gampws y Brifysgol yn Nhrefforest.
Mae’r cyfleuster modern, eiconig hwn wedi dod yn ganolbwynt cymdeithasol i’r campws, sydd wedi’i gynllunio i ddiwallu holl anghenion ein myfyrwyr, gwasanaethau cymorth tai, digwyddiadau, clybiau, cymdeithasau a phrosiectau cymunedol ac, wrth gwrs, y clwb nos a’r bariau hollbwysig. Ewch ar rith-daith.
Mae Wi-Fi ar gael drwy gydol yr adeilad, ac mae’n cynnwys amrywiaeth o gaffis a bariau lle gallwch brynu coffi, smwddis, brechdanau a salad. Mewn awyrgylch cynnes a chyfeillgar bar yr Undeb, gallwch wylio chwaraeon byw ar y sgrin fawr, mwynhau pryd o fwyd, neu ymlacio ar y teras haul. Os ydych chi’n mwynhau adloniant byw ac uchel, mae digon i’ch cadw’n brysur – o fandiau byw, comedi a sinema i nosweithiau clwb a disgos sentimental.
Cyfleusterau
Llawr gwaelod isaf: Bar Cable; Lleoliad Adloniant The Basement; Clwb Nos; Peiriant Arian Parod; Siop yr Undeb; Salon Gwallt; Ystafell Harddwch; Asiantau Gosod Morgannwg.
Llawr gwaelod: Bar Randy Dragon; Caffi Reflections; Ystafell Ddysgu Myfyrwyr Endsleigh; Lolfa Ddistaw; Teras Tu Allan.
Llawr cyntaf: Swyddfeydd staff a gwasanaethau cymorth; swyddfeydd Clybiau a Chymdeithasau; ystafelloedd cyfarfod y gellir eu harchebu.
Agorodd Undeb y Myfyrwyr pwrpasol newydd ar ein campws yng Nghaerdydd yn 2009. Mae’r cyfleuster newydd hwn yn rhoi bar, caffi, gofod cymdeithasol a lleoliad adloniant i’n myfyrwyr yng Nghaerdydd, yn ogystal â gwasanaethau cymorth i fyfyrwyr.
Cyfleusterau
Bar, Caffi, Gofod Cymdeithasol, Siop, Cymorth i Fyfyrwyr, a Swyddfa Clybiau a Chymdeithasau
Glyn-taf - Campws Iechyd, Chwaraeon a Gwyddoniaeth
Agorodd y cyfleuster wedi’i hadnewyddu gwerth £15m ar gampws Glyn-taf ym mis Medi 2009, gan ddarparu amgylchedd dysgu bywiog, o’r radd flaenaf, i wella’r cyfleusterau addysgu a chymorth ar gyfer cyrsiau Gwyddoniaeth a Chwaraeon.
Mae safle Glyn-taf Uchaf bellach yn cynnwys bloc labordy newydd sbon, Adeilad George Knox, ar gyfer myfyrwyr chwaraeon, cemeg, bioleg, meddygol a gwyddor fforensig, yn ogystal ag ar gyfer myfyrwyr sy'n astudio cyrsiau daearyddiaeth a rhai sy'n ymwneud â’r amgylchedd. Ymhlith y cyfleusterau mae labordai sydd â siambr amgylcheddol i efelychu senarios uchder mawr, pwysedd isel ac ocsigen isel. Mae’r hen ysgol ramadeg rhestredig gradd II sydd wedi'i hadnewyddu, Adeilad Alfred Russell Wallace, yn cynnwys labordai gwyddorau’r ddaear, cyfleusterau chwaraeon, gan gynnwys labordai ffisioleg, ystafelloedd TG, ac amgylchedd dysgu cymdeithasol. Mae’r adeilad hefyd yn cynnwys ystafelloedd ar gyfer safleoedd troseddau arbenigol, gan gynnwys deintyddiaeth fforensig a labordai safle troseddau sy’n edrych dros dŷ Safleoedd Trosedd pwrpasol, Adeilad yr Athro Bernard Knight, tŷ domestig go iawn ar gyfer senarios safleoedd troseddau.
Mae cyfleusterau ymchwil modern yn cynnwys labordai bioadweithydd sy’n edrych ar gynhyrchu tanwydd amgen, labordai dadansoddol uwch gydag offer o’r radd flaenaf ar gyfer archwilio halogyddion amgylcheddol a labordai penodol ar gyfer bioleg foleciwlaidd a fforensig. Bydd gan y bloc gwyddoniaeth newydd siambr amgylcheddol hefyd i efelychu senarios uchder mawr, pwysedd isel ac ocsigen isel.
Mae ein myfyrwyr a’n staff Gwyddorau’r Heddlu bellach wedi symud i leoliad sydd newydd ei adnewyddu yn Adeilad Elaine Morgan ar gampws Glyn-taf Isaf, sydd hefyd bellach yn gartref i siop cyngor i fyfyrwyr y Gyfadran, cyfleusterau arlwyo newydd sbon, undeb y myfyrwyr, a gofod dysgu gyda therfynellau cyfrifiadurol mynediad agored.
Mae Parc Chwaraeon PDC (a elwid yn Barc Chwaraeon Morgannwg cyn hynny) yn ddatblygiad pwrpasol gwerth £3.7 miliwn i wella’r ddarpariaeth o gyfleusterau chwaraeon academaidd yn y Brifysgol. Fe’i hagorwyd yn swyddogol ar 25 Tachwedd gan y Farwnes Tanni Grey-Thompson. Yn ddiweddar mae timau Rygbi Rhyngwladol wedi hyfforddi yn y cyfleusterau ac mae Academi Ieuenctid Dinas Caerdydd wedi'i lleoli yno.
Mae’r cyfleuster wrth ymyl caeau chwarae presennol y Brifysgol yng nghaeau chwarae awyr agored Tyn y Wern a dyma’r ganolfan chwaraeon gyntaf yn y DU i gael sgôr ardderchog gan BREEAM am ei chyfleusterau, sy’n cynnwys neuadd chwaraeon â chwe chwrt badminton o safon genedlaethol, gyda llawr sbring, ystafell cryfder a chyflyru, cyfleusterau profi mewn labordy, ac ystafelloedd TG, addysgu a hyfforddi.
Gallwch weld mwy o luniau o’r Parc Chwaraeon ar Flickr
Cyfleusterau
Neuadd chwaraeon; Ardal gymdeithasol i’r myfyrwyr; Ystafelloedd cymorth cyntaf; Ystafelloedd newid
Llawr cyntaf: Ystafell cryfder a chyflyru; Labordy gwyddor chwaraeon a mannau profi ffitrwydd; Ystafell dadansoddi nodiannol; Ystafelloedd addysgu/hyfforddi; Orielau gwylio gyda seddi; Ystafell gyfarfod/digwyddiadau
Yn 2010, agorodd Canolfan Cynnal a Chadw Awyrennau gwerth £1.5 miliwn ar gampws Trefforest, ynghyd ag awyren Jetstream 31 maint llawn.
Mae'r Ganolfan Hyfforddi wedi'i hadeiladu i roi'r sgiliau ymarferol y bydd eu hangen ar fyfyrwyr cynnal a chadw awyrennau yn y diwydiant. Mae’r datblygiad hefyd yn darparu mynediad i fyfyrwyr i labordai ac offer awyrofod gan gynnwys injan tyrbin nwy, twnnel gwynt a dynwaredwr hedfan peirianneg MP521 Merlin.