Mynediad i Adeilad
Rhaid i bob cais am gerdyn/allwedd gael ei wneud drwy’r unigolyn dynodedig yn eich adran (Rheolwr Adnoddau/Derbynnydd ac ati).
Rhaid rhoi gwybod os bydd cerdyn wedi mynd ar goll/wedi'i ddwyn ar unwaith er mwyn rhwystro’r cerdyn a rhoi cerdyn newydd yn ei le. Codir £5 am gardiau newydd a rhaid talu drwy’r Siop Ar-lein
Rhaid i’ch rheolwr adnoddau/rheolwr llinell awdurdodi mynediad ychwanegol hefyd a gwneud cais mewn e-bost i: Diogelwch Ystadau
Rheoli mynediad i adeiladau
Mynediad safonol:
Bydd yr holl staff yn gallu cael mynediad drwy holl ddrysau Mynediad i Staff Cyffredinol, nad ystyrir eu bod yn uchel eu risg, rhwng 07:30 a 21:00 o ddydd Llun i ddydd Gwener. Mae ardaloedd risg uchel yn cynnwys ystafelloedd cyfarpar a bydd rhai adeiladau yn aros wedi cloi oherwydd natur y gweithgareddau sy’n digwydd ynddynt a dim ond i’r rhai sydd â hawliau mynediad wedi’u cymeradwyo y byddant ar gael. Yn yr un modd, bydd yr holl fyfyrwyr yn gallu cael mynediad drwy’r holl brif ddrysau mynediad, nad ystyrir eu bod yn uchel eu risg, rhwng 07:30 a 21:00 o ddydd Llun i ddydd Gwener.
Fel arfer, drws y brif fynedfa yw’r man lle ceir staff ar y dderbynfa, er bod rhai eithriadau i hyn.
Mynediad ansafonol:
Os oes angen mynediad arnoch i adeiladau y tu allan i’r oriau arferol, neu fynediad i ardaloedd risg uchel, nad oes gennych fynediad iddynt eisoes, cysylltwch â’ch rheolwr adnoddau/ysgrifennydd adrannol. Os oes angen mynediad arnoch mewn argyfwng y tu allan i oriau, cysylltwch â’r Ganolfan Rheoli Diogelwch ar (01443) 482057 lle gall staff diogelwch eich hebrwng chi i’ch cyrchfan ac oddi yno (ar yr amod bod ymrwymiadau gweithredol yn caniatáu hynny).
Os oes angen mynediad arnoch i adeilad(au) sydd y tu allan i’ch adran/cyfadran/is-adran, llenwch gais mewn e-bost i Andrew Moore a Chris Beazer iddynt ei gymeradwyo ac ymestyn eich breintiau mynediad.
Diweddaru hawliau rheoli mynediad:
Os ydych chi’n cael problem wrth ddefnyddio eich cerdyn adnabod staff dylech gysylltu â’ch rheolwr adnoddau/ysgrifennydd adrannol.
I ysgogi eich cerdyn dangoswch ef i Ddarllenydd Ar-lein Salto arian, mae’r rhain i’w gweld wrth fynedfeydd holl brif adeiladau’r Brifysgol ac ar rwystrau’r meysydd parcio eu hunain.
- Daliwch eich cerdyn yn erbyn y darllenydd am oddeutu 10 eiliad. Cadwch eich cerdyn yn llonydd.
- Pan fydd cerdyn yn cael ei gyflwyno i ddarllenydd Salto am y tro cyntaf bydd yn dechrau fflachio ' n las wrth i ddata gael ei ddiweddaru ar eich cerdyn. Ar ôl i ' r golau glas stopio fflachio, gall gymryd hyd at 10 eiliad, bydd y lliw yn newid naill ai ' n goch neu ' n wyrdd.
- Os yw ' r golau ' n troi ' n wyrdd, mae eich mynediad wedi ' i neilltuo ' n gywir ac mae ' r system wedi ' i ffurfweddu ' n llawn Os yw ' r golau ' n troi ' n goch Mae hyn yn golygu nad oes gennych y mynediad ar eich cerdyn.
- Bydd y mynediad wedyn yn cynnwys fflach glas byr a fflach gwyrdd neu goch yn dibynnu ar eich hawliau mynediad.