Trosolwg o’r wybodaeth am barcio ceir

Parcio i Fyfyrwyr

Mae parcio'n gyfyngedig iawn ar bob campws, yn enwedig ar ddechrau tymor yr Hydref. Ystyried dewisiadau eraill i yrru lle bo modd, megis trafnidiaeth gyhoeddus neu rannu car.

A side view of a various cars parked in a line in a carpark

Rydym am i’r Brifysgol fod yn rhan werthfawr o’n cymunedau lleol. Cofiwch barcio yn ystyriol ac yn gyfreithlon bob amser.

Mae llawer o fannau parcio ger ein campysau wedi’u cyfyngu i breswylwyr, busnesau penodol neu ddeiliaid trwyddedau arbennig, a dylai myfyrwyr barchu hyn. Os oes angen cymorth ariannol arnoch i dalu am barcio, defnyddiwch y ddolen hon i Dîm Arian Myfyrwyr y Brifysgol.

Campysau Pontypridd

Mae’r maes parcio i fyfyrwyr ac ymwelwyr ar gampws Trefforest gyferbyn â’r brif fynedfa i’r Brifysgol ar Heol Llanilltud. Nid oes unrhyw gyfleusterau parcio i fyfyrwyr (ac eithrio rhai ag anableddau) ar y campws ei hun.

Hoffem atgoffa’r holl fyfyrwyr na all y Brifysgol warantu lle parcio oherwydd nad oes llawer o le ar gael.

Trwydded parcio i fyfyrwyr

Mae System Parcio Ceir Adnabod Plât Rhifau yn Awtomatig ar waith ym meysydd parcio Heol Llanilltud a Glyn-taf. Nid oes angen i chi dynnu tocyn neu ddangos eich cardiau mynediad i fynd i mewn neu adael y maes parcio hwn bellach.

I fyfyrwyr sy’n dymuno prynu trwydded parcio flynyddol ewch i’r  Siop Ar-lein a mynd â’ch derbynneb i Dderbynfa Gwasanaeth Diogelwch Campws Trefforest.

Mae trwydded flynyddol yn costio £180. Gall myfyrwyr hefyd brynu tocynnau tymor ymlaen llaw drwy’r  ap Glide a thalu £15 am 1 mis, £45 am 3 mis, £90 am 6 mis, £135 am 9 mis a £180 am 12 mis. Am ragor o wybodaeth cysylltwch â Phorthdy Diogelwch Trefforest ar 01443 482055 neu e-bostio’r tîm Diogelwch Ystadau.

I’r myfyrwyr hynny nad ydynt yn dymuno prynu trwydded flynyddol, mae modd parcio o hyd yn y maes parcio. Bydd y rheini sy'n defnyddio’r meysydd parcio i fyfyrwyr ac ymwelwyr bob dydd yn talu £1 am barcio hyd at 5 awr a £2 am unrhyw gyfnod dros 5 awr. Gellir talu yn un o’r gorsafoedd talu yn y maes parcio drwy gerdyn credyd, debyd neu gerdyn digyswllt, arian parod neu drwy’r ap Glide newydd.

Caiff trwyddedau parcio i bobl anabl eu rhoi am ddim i fyfyrwyr sy’n cael bathodyn glas (rhaid darparu copi ar eu cyfer) sy'n eu galluogi i barcio ar y campws.

Os oes gennych anabledd dros dro, mae’n bosibl y cewch hefyd wneud cais am barcio i bobl anabl ar gampws. Rhaid darparu tystiolaeth feddygol ategol gyda’ch cais. Efallai y bydd yn rhaid i fyfyrwyr hefyd drafod eu hamgylchiadau unigol gyda Chynghorydd Anabledd gyda phob achos yn cael ei asesu'n unigol.

Os nad oes gennych fathodyn glas, yna bydd angen i chi ddarparu tystiolaeth feddygol ategol gyda’ch Cais am Drwydded Parcio i Bobl Anabl a chodir ffi am y drwydded, y gellir ei thalu ar-lein. I wneud cais am barcio i bobl anabl, llenwch y ffurflen gais am drwydded parcio i bobl anabl a'i dychwelyd at Cymorth anabledd, Gwasanaeth Anabledd (Gwasanaethau Myfyrwyr).

 

Wrth gyrraedd campws Trefforest, bydd angen i yrwyr beiciau modur fynd i’r prif borthdy i gofrestru eu cerbyd a byddant yn cael gwybod ble i barcio. Ni chodir tâl am barcio beic modur yn Nhrefforest. Rhaid cofrestru pob beic modur gyda’r Gwasanaeth Diogelwch.

Mae diogelwch myfyrwyr yn fater hollbwysig ac mae ein holl feysydd parcio yn cael eu monitro 24 awr y dydd gan wasanaeth diogelwch y campws. Gall myfyrwyr sy'n poeni am eu diogelwch ofyn i rywun eu hebrwng at y car o’r ddau gampws. Os ydych am i aelod o staff eich hebrwng, ewch i’r porthdy yng nghampws Trefforest a byddant yn hapus i’ch helpu.

Dim ond y myfyrwyr hynny a gwblhaodd yr adran parcio ceir o'u cais am lety yn Nhrefforest fydd yn cael eu hystyried ar gyfer parcio yn y neuaddau preswyl.

Rhoddir blaenoriaeth i ddeiliaid bathodyn glas (y bydd y drwydded yn rhad ac am ddim iddynt) a myfyrwyr nyrsio/bydwreigiaeth sydd ar leoliad ar ôl cyflwyno tystiolaeth i [email protected]

Bydd pob myfyriwr arall a gyflwynodd eu mynegiant o ddiddordeb ar gyfer parcio yn y neuaddau preswyl yn cael eu cynnwys mewn raffl ar hap, a gynhelir ddiwedd mis Awst neu ddechrau mis Medi.

Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael eu hysbysu trwy e-bost a rhoddir dolen dalu iddynt. Bydd ymgeiswyr aflwyddiannus yn cael eu hychwanegu at restr aros a rhoddir canllawiau iddynt ar sut i archebu'r maes parcio amgen, sydd wedi'i leoli ym mlaen campws Trefforest.

Gallwch barcio yn y maes parcio cyhoeddus ar waelod Campws Trefforest ac yng Nghampws Glyn-taf. Bydd y rheini sy'n defnyddio’r meysydd parcio i fyfyrwyr ac ymwelwyr bob dydd yn talu £1 am barcio hyd at 5 awr a £2 am unrhyw gyfnod dros 5 awr. Am fwy o wybodaeth am yrru i’n campysau, ewch i dudalen Lleoliad Trefforest y Brifysgol.

Mae wythnosau cyntaf y flwyddyn academaidd yn arbennig o brysur, gyda llawer o alw am y mannau parcio ceir sydd ar gael 2000 i fyfyrwyr ac ymwelwyr. Yn ystod y tymor, gall yr holl fannau parcio fod yn llawn erbyn 8.45am, felly mae'n rhaid i fyfyrwyr sy'n gyrru yn aml gyrraedd y campws cyn 9am, hyd yn oed os nad yw eu darlithoedd yn dechrau tan 10am neu hwyrach. Mae’r cynnydd mewn traffig hefyd yn rhoi pwysau ar y rhwydwaith ffyrdd lleol, ac yn aml yn achosi oedi hir o fwy na 30 munud i gyrraedd maes parcio’r myfyrwyr. Os oes angen i chi yrru, mae yna feysydd parcio eraill yng nghanol tref Pontypridd.

Gellir dod o hyd i ragor o fannau parcio o amgylch Trefforest. Mae gwefannau fel Parkopedia ac apiau fel ‘smart parking’ yn ffyrdd gwych o ddod o hyd i leoliadau a chostau meysydd parcio lleol.

Bod yn gymydog da

Rydym yn falch o fod yn rhan o'r gymuned leol ac yn cymryd ein rôl fel cymydog da o ddifrif. Gyda Champws Trefforest wedi'i leoli mewn ardal breswyl yn bennaf, mae'n bwysig ein bod yn lleihau unrhyw effaith negyddol ar y rhai sy'n byw gerllaw.

Cyfyngiadau parcio lleol Trefforest

I barcio yn y rhan fwyaf o strydoedd yn Nhrefforest, mae angen Trwydded Barcio i Breswylwyr. Gall parcio mewn ardal trwydded preswylwyr heb drwydded ddilys arwain at ddirwy o £70.

Cofiwch:

  • Mae gan Stryd Bertha, Stryd Hilda, Stryd Gwyn, Rhodfa Birchwood a Stryd Oakwood, yn ogystal â'r ffordd uchaf gyfagos, gyfyngiadau "ac eithrio mynediad". Dim ond cerbydau modur y caniateir mynediad i'r strydoedd hyn wrth ymweld ag eiddo neu dir sydd wedi'i leoli yno. Mae Heddlu De Cymru yn patrolio'r ardal a byddant yn rhoi dirwyon i yrwyr nad ydynt yn cydymffurfio.

Drwy ddefnyddio meysydd parcio'r Brifysgol a dilyn cyfyngiadau lleol, gallwn gynnal perthnasoedd cryf â'n cymdogion ac osgoi aflonyddwch i'r gymuned.

Os ydych chi’n byw yn Nhrefforest ac yn parcio eich car ar y stryd y tu allan i’ch tŷ, mae’n bosibl y bydd arnoch angen trwydded parcio preswylydd i wneud hynny. Gall parcio yn Nhrefforest fod yn anodd iawn; gyda phoblogaeth uchel o fyfyrwyr mae gan lawer o aelwydydd fwy nag un car. Felly, mae’n bwysig iawn eich bod yn ystyried hyn yn ofalus cyn penderfynu dod â’ch car gyda chi i’r Brifysgol.

Nid yw rhai strydoedd preswyl yn caniatáu parcio ar y stryd o gwbl felly edrychwch ar hyn pan fyddwch yn chwilio am eiddo rhent posibl. Weithiau mae gan dai rhent fannau parcio neu garejys oddi ar y stryd (er nad yw’r rhain yn gyffredin iawn). Os yw hyn yn wir, holwch y landlord a yw’r garej neu’r lle parcio at ddefnydd tenantiaid yr eiddo cyn i chi lofnodi’r contract (a hefyd a oes unrhyw denantiaid eraill yn bwriadu dod â’u ceir).

Mae angen Trwydded Parcio Preswylwyr i barcio ar y rhan fwyaf o strydoedd yn Nhrefforest. Bydd unrhyw geir nad ydynt yn arddangos trwydded ddilys ac sydd wedi parcio yno yn cael dirwy. Gall parcio mewn ardal trwydded preswylwyr heb drwydded ddilys arwain at ddirwy o £70.

Gwasanaeth Gorfodi Parcio’r Cyngor Lleol (RhCT)

Dylai myfyrwyr sy’n byw ger campws Trefforest fod yn ymwybodol bod Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf yn mynd ati’n rhagweithiol i reoli camau gorfodi sifil ar reoliadau parcio. Mae polisi “dim trugaredd” mewn grym, gyda wardeiniaid traffig yn ymweld ag ardal Trefforest yn aml drwy gydol y tymor. 

Gellir rhoi cosbau hyd at £70. Gall y gost gynyddu'n sylweddol os yw’r car yn cael ei glampio neu ei dowio.

Ffurflen gais am gerdyn parcio i breswylwyr yn unig

Nodyn: Byddwch yn wynebu risg o ddirwy os byddwch yn parcio yno cyn i’ch trwydded gyrraedd.

Gallwch ddod o hyd i wybodaeth am Drwyddedau Parcio Trefforest ar wefan Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf.

Mae’r Brifysgol yn rhedeg gwasanaeth bws gwennol er hwylustod i’r myfyrwyr. Mae’r bysiau gwennol yn teithio yn ôl ac ymlaen rhwng Trefforest, Glyn-taf a Pharc Chwaraeon PDC yn Nhyn-y-Wern. Am ragor o wybodaeth ewch i'n tudalen Bysiau gwennol.

Campysau Caerdydd a Chasnewydd

Caiff trwyddedau parcio i bobl anabl eu rhoi am ddim i fyfyrwyr sy’n cael bathodyn glas (rhaid darparu copi ar eu cyfer) sy'n eu galluogi i barcio ar y campws.

Os oes gennych anabledd dros dro, mae’n bosibl y cewch hefyd wneud cais am barcio i bobl anabl ar gampws. Rhaid darparu tystiolaeth feddygol ategol gyda’ch cais. Efallai y bydd yn rhaid i fyfyrwyr hefyd drafod eu hamgylchiadau unigol gyda Chynghorydd Anabledd gyda phob achos yn cael ei asesu'n unigol.

Os nad oes gennych fathodyn glas, yna bydd angen i chi ddarparu tystiolaeth feddygol ategol gyda’ch Cais am Drwydded Parcio i Bobl Anabl a chodir ffi am y drwydded, y gellir ei thalu ar-lein. I wneud cais am barcio i bobl anabl, llenwch y  ffurflen gais  am drwydded parcio i bobl anabl a'i dychwelyd at Kelly Owen-Galeozzie, Gwasanaeth Anabledd (Gwasanaethau Myfyrwyr).

Parcio ceir a rhannu ceir

Mae’r Brifysgol yn argymell yn gryf eich bod yn ystyried trefniadau teithio gwahanol i yrru lle bo hynny’n bosibl. Rydym yn annog pob aelod o staff i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus lle bo hynny’n bosibl. 

Staff Campws ATRiwM - gostyngiad i Fyfyrwyr ac Ymwelwyr barcio yn NCP Heol Pellett Caerdydd

Mae PDC wedi sicrhau’r fargen ganlynol gyda’r NCP ar gyfer maes parcio Heol Pellett, maes parcio Heol Knox a maes parcio Plas Dumfries. 

Sut i gofrestru (mae’n hawdd iawn)

  1. Yn gyntaf, ewch i NCP Park Pass 
  2. Ychwanegwch eich manylion personol
  3. Llenwch fanylion eich cerbyd
  4. Gallwch gofrestru hyd at 4 cerbyd ar un cyfrif, ond dim ond un cerbyd a ganiateir i’w ddefnyddio fesul cyfrif ar unrhyw un adeg.
  5. Dewiswch eich math o gyfrif a dywedwch wrthym sut yr hoffech dalu
  6. Rhowch eich ID Arbedwr a’ch cod cynnau, sef UW6X4CRD
  7. Bydd hyn yn ysgogi eich bargen Arbedwr arbennig. Edrychwch ar eich llythyr NCP ParkPass am fanylion.
  8. Tanysgrifiwch i gael cynigion unigryw i’ch blwch derbyn
  9. Dywedwch wrthym ba rybuddion fydd yn eich helpu i reoli eich cyfrif yn y ffordd orau

Bydd eich cerdyn NCP ParkPass yn cael ei bostio atoch o fewn 6 diwrnod gwaith i chi gofrestru. Fodd bynnag, cofiwch, tan hynny, bydd angen i chi dalu am barcio fel arfer.

Mae’r rhain bellach wedi’u pennu ar gyfer y meysydd parcio canlynol ar brisiau ParkPass presennol:-

  • MAES PARCIO HEOL PELLETT- £5 i barcio am 6 awr, £6 i barcio am 12 awr
  • MAES PARCIO HEOL KNOX - £4 i barcio am 6 awr, £6 i barcio am 12 awr
  • MAES PARCIO PLAS DUMFRIES - £4 i barcio am 6 awr, £6 i barcio am 12 awr

Mae hyn yn golygu y bydd y defnyddiwr yn talu £4/£5 am y 6 awr gyntaf yn y meysydd parcio dan sylw, unwaith y byddant yn mynd y tu hwnt i’r 6 awr bydd yn symud i’r 2il lefel brisio o £6 am 12 awr, eto os arhosir am dros 12 awr yna bydd y pris yn symud i’r byrddau tariff ar bob un o’r meysydd parcio hyn.

Mae modd parcio yng nghanol Dinas Casnewydd, er bod y prisiau’n amrywio a gallant fod yn eithaf drud. Y meysydd parcio agosaf at ein campws yng Nghasnewydd yw maes parcio Cyngor Sir Casnewydd, a maes parcio Kingsway. Gallwch weld prisiau, cyfleusterau ac amseroedd agor ar Parkopedia ac mae apiau fel ‘smart parking’ yn ffyrdd gwych o ddod o hyd i leoliadau a chostau meysydd parcio lleol. 

Mae’r Brifysgol wedi sicrhau gostyngiad o 20% i fyfyrwyr yng Nghanolfan Kingsway. I fod yn gymwys am y gostyngiad hwn, sganiwch eich tocyn wrth ddesg derbynfa’r campws ar y llawr gwaelod.