Nodyn:  Dylai ymwelwyr sy’n teithio i Brifysgol De Cymru nodi bod mannau i barcio ceir yn gyfyngedig iawn ar bob campws, yn enwedig ar ddechrau tymor yr Hydref.

Mae’r Brifysgol yn argymell yn gryf eich bod yn ystyried trefniadau teithio gwahanol i yrru lle bo hynny’n bosibl. Mae’r holl gampysau'n cael eu gwasanaethu gan gysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus rheolaidd ac yn hawdd eu cyrraedd ar y ffordd.

 

A oes angen trwydded barcio arnaf?

Nid oes angen trwydded parcio arnoch i barcio yn y maes parcio cyhoeddus ar waelod campws Trefforest na gampws Glyn-Taf. Mae defnyddwyr dyddiol y maes parcio i fyfyrwyr ac ymwelwyr yn talu £1 am hyd at 5 awr o le parcio a £2 am unrhyw gyfnod dros 5 awr. I gael rhagor o wybodaeth am yrru i ' n campysau, ewch i dudalen lleoliad y Brifysgol

Gall pobl sy’n ymweld yn achlysurol ag adrannau’r Brifysgol gael Trwyddedau Parcio Undydd, sy’n eu galluogi i barcio ym meysydd parcio’r staff. Cysylltwch â’r adran yr ydych yn ymweld â hi i gadarnhau a fyddwch yn cael y drwydded hon.

Noder: Os ydych yn ymweld â’r brifysgol i fynychu cynhadledd, seminar neu ddigwyddiad arbennig arall, mae’n bosib bod yna drefniadau parcio arbennig – gofynnwch i’r trefnydd ynglŷn â hyn

Mae wythnosau cyntaf y flwyddyn academaidd yn arbennig o brysur, gyda llawer o alw am y 2000 o Fannau  parcio ceir sydd ar gael i fyfyrwyr ac ymwelwyr. Yn ystod y tymor, gall yr holl fannau parcio fod yn llawn erbyn 8.45am, felly mae'n rhaid i fyfyrwyr sy'n gyrru yn aml gyrraedd y campws cyn 9am, hyd yn oed os nad yw eu darlithoedd yn dechrau tan 10am neu hwyrach. Mae’r cynnydd mewn traffig hefyd yn rhoi pwysau ar y rhwydwaith ffyrdd lleol, ac yn aml yn achosi oedi hir o fwy na 30 munud i gyrraedd maes parcio’r myfyrwyr. Os oes angen i chi yrru, mae yna feysydd parcio eraill yng nghanol tref Pontypridd.

Gellir dod o hyd i ragor o fannau parcio o amgylch Trefforest. Mae gwefannau fel  Parkopedia ac apiau fel ‘smart parking’ yn ffyrdd gwych o ddod o hyd i leoliadau a chostau meysydd parcio lleol.

Faint ydi parcio i ymwelwyr ar campws yn ei gostio?

Mae defnyddwyr dyddiol y maes parcio i fyfyrwyr ac ymwelwyr yn talu £1 am hyd at 5 awr o le parcio a £2 am unrhyw gyfnod dros 5 awr

Mae System Parcio Ceir Adnabod Plât Rhifau yn Awtomatig (ANPR) ar waith ym meysydd parcio Heol Llanilltud a meysydd parcio Glyn-taf Uchaf a Glyn-taf Isaf. Mae rhagor o wybodaeth am sut y mae hyn yn gweithio i ' w gweld ar ein tudalen parcio ANPR.

Ble gallaf barcio?

Gall ymwelwyr barcio ar waelod campws Trefforest ac ar gampws Glyn-Taf. Prin yw ' r lleoedd parcio yn ein campws yng Casnewydd ac nid oes llefydd parcio i ymwelwyr yn ein campws yng Caerdydd.

Casnewydd:

Mae modd parcio yng nghanol Dinas Casnewydd, er bod y prisiau’n amrywio a gallant fod yn eithaf drud. Y meysydd parcio agosaf at ein campws yng Nghasnewydd yw maes parcio Cyngor Sir Casnewydd, a maes parcio Kingsway. Gallwch weld prisiau, cyfleusterau ac amseroedd agor ar  Parkopedia ac mae apiau fel ‘smart parking’ yn ffyrdd gwych o ddod o hyd i leoliadau a chostau meysydd parcio lleol. 

Mae’r Brifysgol wedi sicrhau gostyngiad o 20% i fyfyrwyr yng Nghanolfan Kingsway. I fod yn gymwys am y gostyngiad hwn, sganiwch eich tocyn wrth ddesg derbynfa’r campws ar y llawr gwaelod.

Cardiff:

Staff Campws ATRiwM - gostyngiad i Fyfyrwyr ac Ymwelwyr barcio yn NCP Heol Pellett Caerdydd

Mae PDC wedi sicrhau’r fargen ganlynol gyda’r NCP ar gyfer maes parcio Heol Pellett, maes parcio Heol Knox a maes parcio Plas Dumfries. 

Mae rhagor o wybodaeth i ' w chael ar wefan yr NCP ParkPass.

Teithio gyda bws

Teithio ar fws

Yng nghampws Trefforest, mae’r arosfannau bysiau y tu allan i’r prif gampws ar Heol Llanilltud a Stryd Brook. 

Ger campws Glyn-taf, mae’r arosfannau bysiau ar Heol Pentrebach a Heol Caerdydd.

Llwybrau ac amserlenni bysiau

Gellir cael rhagor o fanylion am lwybrau ac amserlenni bysiau gan Traveline Cymru

 

Teithio gyda thrên

Mae gorsaf Trefforest gwta bum munud ar droed o gampysau Trefforest a Glyn-taf.

Ceir rhestr o’r amseroedd diweddaraf ar wefan Trafnidiaeth Cymru

Teithio rhwng campysau
Mae’r Brifysgol wedi trefnu gwasanaeth bws gwennol rhwng safleoedd ein campysau ym Mhontypridd, cliciwch yma i weld yr Amserlen.

 

Beicio neu gerdded

Mae beicio i’r Brifysgol yn hawdd diolch i rwydwaith cynhwysfawr o lwybrau beiciau a cheffylau sy’n cysylltu â Chaerdydd o bob cyfeiriad. I gael manylion llawn y llwybrau Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol ewch i Sustrans

Cysgodfannau a standiau beiciau:
Mae giât y gellir ei chloi ar y cysgodfannau beiciau y tu allan i Floc K a J. I gael mynediad ar gyfer y giât, llenwch Ffurflen Cynllun Cofrestru Beic i ddechrau.  Bydd mynediad yn cael ei ychwanegu at eich cerdyn yn fuan ar ôl i chi lenwi’r ffurflen.

Os ydych yn cael unrhyw broblem, cysylltwch â’r tîm  Diogelwch Ystadau.

Cawodydd a loceri:
Mae loceri ar gael yn y cysgodfannau beiciau ac mae cawodydd am ddim ar gael ym Mloc B, y Ganolfan Chwaraeon a’r Tramshed.

Cerdded

Un o’r newidiadau pwysicaf y gall pawb ei wneud i helpu’r problemau parcio yn y Brifysgol yw cerdded rhwng campysau yn hytrach na gyrru. Dyma’r llwybr mwyaf uniongyrchol o gampws Trefforest i gampws Glyn-taf:-

  • Gadewch gampws Trefforest drwy fynedfa Stryd Brook, a throwch i’r dde i lawr Stryd Brook. 
  • Croeswch y ffordd ac yn y pen trowch i’r chwith fel eich bod yn cerdded tuag at yr orsaf. 
  • Ewch i mewn i’r orsaf a chroesi dros y rheilffordd gan ddefnyddio’r bont i gerddwyr. 
  • Pan fyddwch wedi mynd drwy’r orsaf, croeswch y ffordd a cherdded i lawr Stryd y Castell (stryd ochr gyda Pink Shop ar y gornel). 
  • Ar ôl cyrraedd diwedd y ffordd, croeswch (Rhybudd: Mae trigolion lleol wedi nodi’r groesfan hon fel man lle dylid bod yn ofalus iawn) y stryd a defnyddio’r groesfan i gerddwyr dros Afon Taf. 
  • Ar ôl i chi groesi’r afon, trowch i’r chwith gan ddilyn y llwybr troed wrth ochr yr afon. 
  • Croeswch y ffordd yn y pen, a chadwch ar yr ochr dde er mwyn i chi groesi’r ffyrdd ymadael sydd wedi cau. 
  • Dilynwch y llwybr i fyny drwy ymyl y glaswellt, ac ar ben y bryn bach hwn, croeswch y ffordd, a thoi i’r dde i Heol y Fynwent. 
  • Mae campws Glyn-taf ar yr ochr dde.

Apiau Teithio:
P’un ai a ydych am roi cynnig ar lwybrau newydd, ymdrechu i fod yn gyflymach, eisiau wynebu her, cael gwell dycnwch neu wella ffitrwydd, gall cerddwyr, rhedwyr a beicwyr ddefnyddio nifer o raglenni, gan gynnwys y canlynol:
Mapmywalk
Runkeeper
Cyclingbuddy

Teithio gyda bws

Teithio ar fysiau:

Bws Casnewydd yw prif ddarparwr trafnidiaeth gyhoeddus yng Nghasnewydd. Mae dal y bws i fynd o gwmpas y ddinas ac i Gaerdydd, Cas-Gwent a Chwmbrân nid yn unig yn arbed arian i chi, ond mae ' n dda i ' r amgylchedd hefyd gan ei fod yn helpu i Lleihau nifer y ceir ar y ffordd a lefelau llygredd is. Am fwy o wybodaeth ewch i wefan Bws Casnewydd neu cysylltwch â 01633 670563.

Llwybrau ac amserlenni bysiau:

Gellir cael manylion pellach am lwybrau bysiau ac amserlenni oddi wrth Traveline Cymru

 

Teithio gyda thrên

Mae gorsaf drenau Casnewydd 20 munud ar droed o Gampws Dinas Casnewydd. 

Ceir rhestr o’r amseroedd diweddaraf ar wefan Trafnidiaeth Cymru

 

Beicio neu gerdded

Beicio neu gerdded

Mae beicio i Gampws Dinas Casnewydd yn hawdd diolch i rwydwaith cynhwysfawr o lwybrau beicio Sustrans. Mae llwybr 4 ac 8 Sustrans yn cysylltu Canol Dinas Casnewydd â Chaerdydd ac mae llwybr 88 yn cysylltu Canol Dinas Casnewydd â Chaerllion. I gael manylion llawn y llwybrau Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol ewch i Sustrans

Cysgodfannau a standiau beiciau
Mae cyfleusterau cloi beiciau allanol wrth ymyl y brif fynedfa. 
Mae cawodydd am ddim a loceri sy'n derbyn arian ar gael wrth ymyl y brif fynedfa.

Cerdded:

Mae gorsaf drenau Casnewydd tua 20 munud ar droed o’r Campws. Mae gorsaf fysiau Casnewydd tua 15 munud ar droed o’r Campws. 

Apiau Teithio:

P’un ai a ydych am roi cynnig ar lwybrau newydd, ymdrechu i fod yn gyflymach, eisiau wynebu her, cael gwell dycnwch neu wella ffitrwydd, gall cerddwyr, rhedwyr a beicwyr ddefnyddio nifer o raglenni, gan gynnwys y canlynol:

Mapmywalk
Runkeeper
Cyclingbuddy

Teithio gyda bws

Teithio ar fws:
Yng Nghampws Atriwm mae arhosfan bws union gyferbyn ag Adeilad Atriwm.

Llwybrau ac amserlenni bysiau:
Gellir cael rhagor o fanylion am lwybrau ac amserlenni bysiau gan Traveline Cymru

 

Teithio gyda thrên

Mae Gorsaf Heol y Frenhines Caerdydd ryw 5 munud ar droed o Gampws Atriwm.

Ceir rhestr o’r amseroedd diweddaraf ar wefan Trafnidiaeth Cymru

 

Beicio neu gerdded

Beicio neu gerdded:

Mae beicio i’r Brifysgol yn hawdd diolch i rwydwaith cynhwysfawr o lwybrau beiciau a cheffylau sy’n cysylltu â Chaerdydd o bob cyfeiriad. I gael manylion llawn y llwybrau Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol ewch i Sustrans

Cysgodfannau a standiau beiciau:

Mae giât y gellir ei chloi ar y prif gysgodfan beiciau. I gael mynediad ar gyfer y giât, llenwch Ffurflen Cynllun Cofrestru Beic i ddechrau.  Bydd mynediad yn cael ei ychwanegu at eich cerdyn yn fuan ar ôl i chi lenwi’r ffurflen.

Os cewch unrhyw broblemau, cysylltwch â Desg Derbynfa Atriwm ar 01443 668543. 

Cawodydd a loceri:

Mae loceri ar gael yn y cysgodfannau beiciau ac mae cawodydd am ddim ar gael i feicwyr ar ail lawr adeilad Atriwm.

Cerdded:

Mae cerdded i’r Brifysgol yn hawdd diolch i rwydwaith cynhwysfawr o lwybrau beiciau a cheffylau yn cysylltu â Chaerdydd o bob cyfeiriad. I gael manylion llawn y llwybrau Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol ewch i Sustrans

Apiau Teithio:

P’un ai a ydych am roi cynnig ar lwybrau newydd, ymdrechu i fod yn gyflymach, eisiau wynebu her, cael gwell dycnwch neu wella ffitrwydd, gall cerddwyr, rhedwyr a beicwyr ddefnyddio nifer o raglenni, gan gynnwys y canlynol:

Mapmywalk
Runkeeper
Cyclingbuddy