Cyn Is-Ganghellor PDC, yr Athro Julie Lydon, yn cael ei gwneud yn fonesig yn Rhestr Anrhydeddau Blwyddyn Newydd y Frenhines

Professor Julie Lydon retirement. November 2020

Mae cyn Is-Ganghellor Prifysgol De Cymru, y Fonesig Athro Julie Lydon OBE, wedi ei gwneud yn fonesig yn Rhestr Anrhydeddau Blwyddyn Newydd y Frenhines, am ei gwasanaethau i addysg uwch.

Ymddeolodd y Fonesig Julie o PDC ym mis Medi 2021 ar ôl 15 mlynedd a mwy yn y Brifysgol, gan dreulio'r 11 mlynedd diwethaf yn rôl yr Is-Ganghellor a'r Prif Weithredwr. Dyfarnwyd OBE iddi am ei gwasanaethau i Addysg Uwch yng Nghymru yn Anrhydeddau Pen-blwydd y Frenhines yn 2014.

Yn ystod ei chyfnod yn y swydd, dangosodd y Fonesig Julie arweinyddiaeth academaidd gref, dyluniodd gwricwlwm arloesol, ac roedd yn angerddol dros ehangu mynediad a chreu partneriaethau gyda diwydiant.

Gan gefnogi'r sector Addysg Uwch ehangach, bu'n Gadeirydd Prifysgolion Cymru rhwng 2017 a 2021, a bu ar fyrddau Universities UK, Cynghrair y Prifysgolion a’r Cyngor Prifysgolion a Busnesau Cenedlaethol. Bu’r Fonesig Julie hefyd yn hyrwyddo datblygiadau busnes ac economaidd yn ddiflino o fewn y rhanbarth, gan gynnwys fel aelod o gyngor CBI Cymru, ac aelod o fwrdd Rhwydwaith Economaidd Casnewydd a Phorth y Gorllewin. Chwaraeodd ran flaenllaw yn y gwaith o helpu sector Addysg Uwch Cymru drwy'r pandemig Covid-19 yn 2020 a  2021, a goruchwyliodd y gwaith o greu Prifysgol De Cymru yn 2013 yn dilyn uno hen Brifysgol Morgannwg a Phrifysgol Cymru, Casnewydd.

Dywedodd y Fonesig Julie: "Rwy'n teimlo’n wylaidd iawn wrth dderbyn y wobr hon sy'n deyrnged i holl staff a myfyrwyr PDC.  Mae prifysgolion Cymru wir wedi dod at ei gilydd yn ystod pandemig Covid-19,  rwy'n falch o fy nghyfraniad at yr ymdrech gydweithredol hon. "

Wrth sôn am ei hanrhydedd, dywedodd Is-Ganghellor PDC, Dr Ben Calvert: "Rwyf wrth fy modd bod Julie wedi cael ei chydnabod am ei chyfraniad rhagorol i'r sector Addysg Uwch. Fel Is-Ganghellor benywaidd cyntaf Cymru, mae Julie wedi bod yn wir ysbrydoliaeth i lawer. Mae'r wobr hon yn gydnabyddiaeth haeddiannol o'i harweinyddiaeth, ei gweledigaeth a'i chyfraniad at y sector Addysg Uwch cyfan.

"Ar ran pawb yn PDC, hoffwn longyfarch Julie yn gynnes am yr anrhydedd deilwng hon."