Mae astudio cwrs yn PDC yn fwy nag ennill gradd yn unig. Yma, byddwch chi'n gwneud ffrindiau am oes, yn rhoi cynnig ar ddysgu llawer o bethau newydd ac yn dod yn fwy annibynnol nag erioed o'r blaen.

Mae PDC yn gartref i gymuned gydweithredol o fyfyrwyr amrywiol a chroesawgar. Os ydych newydd orffen eich lefel A, rydych yn dychwelyd i’r byd addysg i hybu’ch gyrfa, neu rydych yn ymgymryd â phrosiect ymchwil, byddwch yn dod ar draws pobl yn union fel chi, sy’n rhannu eich diddordebau, eich credoau, a’ch cymhellion.
ARCHWILIWCH EIN CAMPYSAU

Yr hyn sy’n wych am ein lleoliadau yw y gallwch deithio rhyngddynt mewn dim o dro. Mae Caerdydd ond yn daith o ryw 15-20 munud o Bontypridd, ac mae Casnewydd tua 30 munud o Gaerdydd.
UNDEB Y MYFYRWYR

Gyda dewis o dros 100 o gymdeithasau a chlybiau, cefnogaeth ddiddiwedd, gweithgareddau a digwyddiadau i wirfoddoli a datblygu sgiliau, bydd Undeb Myfyrwyr PDC yn sicrhau y cewch gyfle i gyfoethogi pob agwedd o’ch bywyd fel myfyriwr.
CEFNOGAETH A LLESIANT

Ar gyfer llesiant, gwybodaeth a chyngor, beth bynnag fo’r broblem, mae rhwydwaith o bobl yn PDC yn barod i’ch helpu.
CHWARAEON YN PDC

Mae gan PDC amgylchfyd chwaraeon llewyrchus, gyda nifer helaeth o’n timau’n cystadlu yng Nghynghrair Prifysgolion a Cholegau Prydain.
CLYBIAU A CHYMDEITHASAU

Mae Chwaraeon PDC ar gael i bawb ac mae rhoi cynnig ar gamp newydd neu ymuno â chlwb yn ffordd wych o wneud ffrindiau. O ddringo dan do i ioga, saethyddiaeth a phopeth yn y canol, mae’n sicr y bydd rhywbeth i chi ei fwynhau.
DIGWYDDIADAU MYFYRWYR

Mae pob campws yn cynnal amrywiaeth o ddigwyddiadau myfyrwyr o ddigwyddiadau menter i ddyddiau ymwybyddiaeth iechyd meddwl i nosweithiau comedi ac wrth gwrs bartïon yn Eclipse, ein clwb nos ar y campws.
MYFYRWYR SY’N BLOGIO

Mae ein myfyrwyr yn cynnig llawer o gyngor ynghylch gwneud cais i fynd i brifysgol a’r ffordd orau i fanteisio i’r eithaf ar eich bywyd fel myfyriwr, ac ar yr un pryd yn rhoi darlun cliriach i chi o fywyd ar y campws, digwyddiadau a’n clybiau a’n cymdeithasau.
SGWRSIO Â MYFYRWYR

Am wybod mwy am fywyd myfyriwr, sut brofiad yw astudio cwrs, byw yn ne Cymru neu sut brofiad yw astudio yn PDC? Sgwrsiwch gyda’n bytis prifysgol!

Mae bywyd oddi ar y campws yn rhoi cyfle i chi ffynnu, i fagu annibyniaeth, i gyfarfod â phobl o’r un anian ac i archwilio dinas newydd. Mae’n hawdd teithio’n ôl a ‘mlaen o’n lleoliadau, felly os mai Caerdydd, Casnewydd, Pontypridd neu ymhellach fydd eich lleoliad, cewch gyfle i archwilio’r oll sydd gan dde Cymru i’w gynnig.
CYFARFOD Â PHOBL NEWYDD

Gall cyfarfod â phobl newydd ymddangos yn her. Yma yn PDC mae gennym gymuned agos o fyfyrwyr cyfeillgar o bob maes. Dewch o hyd i’ch #USWFamily yma.
EICH CARTREF NEWYDD

Manteisiwch ar fwrlwm prifddinas greadigol yn ogystal â bryniau a phantiau’r cymoedd a thraethau arobryn de Cymru. Archwiliwch ein safleoedd.
OPSIYNAU BWYD A DIOD

O fwytai tafarndai lleol i wynebau cyfarwydd cadwynau cenedlaethol, mae gan dde Cymru amrywiaeth enfawr o fannau i fwyta ac yfed ynddynt a fydd yn apelio at bawb.
ADLONIANT A BYWYD NOS

O gigs comedi, theatrau, tafarndai a chlybiau, i fyd cerdd sy’n ffynnu, mae’r noson allan berffaith ar gael i chi yn ne Cymru.
SIOPA YN Y DDINAS

O frandiau adnabyddus y stryd fawr i boutiques annibynnol ac arcedau hynod, mae gan y byd manwerthu yn ne Cymru lawer i’w gynnig.
GWEITHGAREDDAU A CHWARAEON

Mae gan dde Cymru enw da anhygoel am fod wedi cynnal llawer o ddigwyddiadau chwaraeon rhyngwladol. Gallwch chwarae dros, a chefnogi timau lleol a rhyngwladol yn y ddinas.
RHEOLI EICH ARIAN

Gall rheoli eich arian yn y brifysgol fod yn her. O awgrymiadau cyllidebu a sut i lywio’r argyfwng costau byw, i ddyled a sut i gysylltu â’n Tîm Cyngor Ariannol i Fyfyrwyr, rydym yma i helpu.
EICH OPSIYNAU LLETY

Mae ble’r ydych yn bywyr un mor bwysig â’r hyn rydych yn ei ddysgu. Os ydych am fyw ar y campws yn PDC Pontypridd (Trefforest) neu yn y ddinas (Caerdydd neu Gasnewydd), byddwn ni’n eich helpu i deimlo’n gartrefol iawn.