

Myfyrwyr y DU - Sut i Ymrestru
Mae'n ofynnol i chi gwblhau'r broses gofrestru er mwyn cael caniatâd i astudio ar eich cwrs.
I wneud hyn mor llyfn â phosibl, darllenwch yn ofalus a dilynwch y canllawiau perthnasol:
* Os ydych yn fyfyriwr UE/Rhyngwladol, cliciwch yma i ddilyn canllawiau cofrestru’r UE/Rhyngwladol
1. Sefydlwch eich cyfrif TG Prifysgol
Yma byddwch yn cael mynediad at eich enw defnyddiwr a chyfrinair. Fformat eich cyfeiriad e-bost myfyriwr fydd rhif myfyriwr ac yna @students.southwales.ac.uk e.e. [email protected]
2. Cwblhewch Eich Ymrestriad Ar-lein
Unwaith y byddwch wedi sefydlu eich cyfrif TG Prifysgol, gallwch fewngofnodi i'n gwasanaeth cofrestru ar-lein. Dim ond eich rhif adnabod PDC a'ch cyfrinair sydd ei angen arnoch chi.
Myfyrwyr UE / Rhyngwladol - Sut i Ymrestru
Mae'n ofynnol i chi gwblhau'r broses gofrestru er mwyn cael caniatâd i astudio ar eich cwrs.
I wneud hyn mor llyfn â phosibl, darllenwch yn ofalus a dilynwch y canllawiau perthnasol:
1. Myfyrwyr newydd
Os ydych yn fyfyriwr rhyngwladol sy'n astudio ym Mhrifysgol De Cymru am y tro cyntaf, neu os ydych wedi astudio gyda ni o'r blaen ac yn symud ymlaen i gwrs newydd, cyn y byddwch yn gallu cofrestru ar-lein rhaid i chi ddilyn y cyfarwyddiadau yma.
2. Myfyrwyr sy'n dychwelyd
Os ydych yn fyfyriwr rhyngwladol, neu'n fyfyriwr sy'n destun rheolaeth fewnfudo, yn dychwelyd i gofrestru ar flwyddyn nesaf eich cwrs ym Mhrifysgol De Cymru, neu mae'n ofynnol i chi ailadrodd elfennau o'ch cwrs, cyn y byddwch yn gallu i gofrestru ar-lein rhaid i chi ddilyn y cyfarwyddiadau yma.
3. Monitro Presenoldeb ac Ymgysylltiad
Er mwyn cyflawni ein dyletswyddau noddi Haen 4, rhaid i Brifysgol De Cymru ymgymryd â phrosesau a gweithdrefnau penodol wrth gofrestru myfyrwyr rhyngwladol o’r tu allan i’r UE. Ewch i'n tudalen Monitro Presenoldeb i gael rhagor o wybodaeth am gyfrifoldebau monitro presenoldeb myfyrwyr Haen 4.
Cyngor Pellach
Telerau ac Amodau Cofrestru Cwrs
Mae telerau ac amodau cofrestru cwrs y Brifysgol yn cynnwys cyfrinachedd, diogelu data, datgelu gwybodaeth i drydydd partïon, cydraddoldeb ac amrywiaeth a Datganiad y Myfyriwr.