Mae llawer o gyfleoedd i ti ddefnyddio dy Gymraeg yn y Brifysgol – yn gymdeithasol neu fel rhan o dy gwrs. Manteisia ar y cyfleoedd hyn er mwyn ehangu dy orwelion a datblygu sgiliau dwyieithog a fydd yn cryfhau dy botensial gyrfaol.
Darperir cyfleoedd academaidd mewn amryw o bynciau o Ddrama i Wyddorau'r Heddlu
Mae’r Brifysgol yn cynnig ysgoloriaethau i fyfyrwyr sy’n astudio rhan o'u cwrs trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae’r Brifysgol hefyd yn rhan o gynllun ysgoloriaethau’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
Mae ymchwil yn dangos bod cyflogwyr yn edrych fwyfwy ar recriwtio pobl sy’n medru cynnig gwasanaeth a sgil pellach o allu gweithio yn y Gymraeg a’r Saesneg yng Nghymru.
Mae Prifysgol De Cymru yn cynnig 10 ysgoloriaethau gwerth £1,000 i fyfyrwyr blwyddyn gyntaf sy’n dymuno astudio o leiaf 40 credyd trwy gyfrwng y Gymraeg ym meysydd drama, tirfesureg, busnes, dysgu cynradd ac heddlua.
Darganfod mwy o gyfleoedd ar gael i astudio drwy gyfrwng y Gymraeg yn PDC.
I gael rhagor o wybodaeth, cliciwch yma.
Trwy gydweithio â phrifysgolion Cymru, mae’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn sicrhau ac yn datblygu gyfleoedd astudio cyfrwng Cymraeg i fyfyrwyr Cymru. Mae’n noddi darlithwyr cyfrwng Cymraeg ac yn cynnig ysgoloriaethau sy’n galluogi i fyfyrwyr israddedig ac ôl-raddedig ddilyn cyrsiau addysg uwch drwy gyfrwng y Gymraeg.
Mae gan bob prifysgol yng Nghymru gangen o’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Mae’r gangen yn cwrdd yn aml yn ystod y flwyddyn i roi cyfle i fyfyrwyr a staff leisio eu barn ar faterion cyfrwng Cymraeg.
Gelli di drefnu apwyntiad i gael sgwrs anffurfiol gyda staff Cangen De Cymru am y ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg sydd ar gael ar dy gwrs di, trwy e-bostio cymraeg@decymru.ac.uk.
I gael rhagor o wybodaeth, cliciwch yma.