Ysgoloriaethau Cymraeg
Mae'r Brifysgol yn cynnig ysgoloriaethau i fyfyrwyr sy'n astudio rhan o'u cwrs trwy gyfrwng Cymraeg. Mae'r Brifysgol hefyd yn rhan o gynllun ysgoloriaeth Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
Cyfleoedd Cymraeg yn PDCYsgoloriaethau sydd ar Gael
Mae Prifysgol De Cymru yn cynnig ysgoloriaethau gwerth £250 i fyfyrwyr addysg uwch Lefel 4-6 sy’n dymuno astudio o leiaf 5 credyd trwy gyfrwng y Gymraeg.
I wneud cais am yr Ysgoloriaeth hon, mae angen i chi ddarllen y Telerau ac Amodau a'r Cwestiynau Cyffredin cyn i chi wneud cais. Yna, cwblhewch y ffurflen gais a'i dychwelyd erbyn 1 Tachwedd 2024.
Os oes gennych gwestiwn am yr Ysgoloriaeth, gallwch gysylltu â ni drwy anfon e-bost at [email protected].
Mae Prifysgol De Cymru yn cynnig ysgoloriaethau gwerth £1,000 i fyfyrwyr blwyddyn gyntaf sy’n dymuno astudio o leiaf 40 credyd trwy gyfrwng y Gymraeg.
I wneud cais am yr Ysgoloriaeth hon, mae angen i chi gwblhau ffurflen gais a'i dychwelyd erbyn 1 Tachwedd 2024. Cofiwch ddarllen y Telerau ac Amodau cyn i chi wneud cais.
Os oes gennych gwestiwn am yr Ysgoloriaeth, gallwch gysylltu â ni drwy anfon e-bost at [email protected].
£1,000 y flwyddyn (£3,000 dros dair blynedd) yw gwerth Prif Ysgoloriaethau’r Coleg Cymraeg, sydd ar gael i fyfyrwyr sy’n bwriadu astudio o leiaf 80 credyd y flwyddyn o’r cwrs gradd canlynol trwy gyfrwng y Gymraeg:
Mae Prifysgol De Cymru yn cynnig ysgoloriaethau gwerth £250 i fyfyrwyr addysg uwch Lefel 4-6 sy’n dymuno astudio o leiaf 5 credyd trwy gyfrwng y Gymraeg.
I wneud cais am yr Ysgoloriaeth hon, mae angen i chi ddarllen y Telerau ac Amodau a'r Cwestiynau Cyffredin cyn i chi wneud cais. Yna, cwblhewch y ffurflen gais a'i dychwelyd erbyn 1 Tachwedd 2025.
Os oes gennych gwestiwn am yr Ysgoloriaeth, gallwch gysylltu â ni drwy anfon e-bost at [email protected].
Mae Prifysgol De Cymru yn cynnig ysgoloriaethau gwerth £1,000 i fyfyrwyr blwyddyn gyntaf sy’n dymuno astudio o leiaf 40 credyd trwy gyfrwng y Gymraeg.
I wneud cais am yr Ysgoloriaeth hon, mae angen i chi gwblhau ffurflen gais a'i dychwelyd erbyn 1 Tachwedd 2025. Cofiwch ddarllen y Telerau ac Amodau cyn i chi wneud cais.
Os oes gennych gwestiwn am yr Ysgoloriaeth, gallwch gysylltu â ni drwy anfon e-bost at [email protected].
£500 y flwyddyn (£1,500 dros dair blynedd) yw gwerth Ysgoloriaethau Cymhelliant y Coleg Cymraeg.
Yn y flwyddyn academaidd 2024-25, mae'r ysgoloriaeth ar gael i bob myfyrwyr sy’n bwriadu astudio 40 credyd y flwyddyn o cyrsiau gradd trwy gyfrwng y Gymraeg
Mae telerau ac amodau yn berthnasol, gweler isod am ragor o fanylion:
- Cymhwyster - I fod yn gymwys i ymgeisio am Ysgoloriaeth Cyfrwng Cymraeg PDC, rhaid i fyfyrwyr fodloni pob un o’r amodau canlynol:
- Wedi ymgeisio am radd Anrhydedd israddedig ym Mhrifysgol De Cymru.
- Ymrwymo i astudio o leiaf 5 (Ysgoloriaeth £250) neu 40 (Ysgoloriaeth £1,000) credyd o’r cwrs trwy gyfrwng y Gymraeg.
- Cwblhau ffurflen gais Ysgoloriaeth Cyfrwng Cymraeg PDC yn Gymraeg erbyn y dyddiad cau.
2. Taliadau’r Ysgoloriaeth - Bydd yr ysgoloriaeth £250 yn cael eu thalu mewn un taliad:
- Fe delir y taliad o £250 ym mis Mai, yn amodol ar gadarnhad bod y myfyriwr wedi cwblhau o leiaf 5 credyd trwy gyfrwng y Gymraeg. Bydd hyn yn cael ei gadarnhau gyda’r staff academaidd perthnasol.
Bydd yr ysgoloriaeth £1,000 yn cael eu talu mewn dau daliad cyfartal:
- Fe delir y taliad cyntaf ym mis Tachwedd, yn amodol ar gadarnhad bod y myfyriwr wedi ymrestru ar gwrs gradd Anrhydedd israddedig cymwys a bod eu presenoldeb yn foddhaol.
- Fe delir yr ail daliad ym mis Mai, yn amodol ar gadarnhad bod y myfyriwr wedi cwblhau o leiaf 40 credyd o’r cwrs trwy gyfrwng y Gymraeg. Bydd hyn yn cael ei gadarnhau gyda’r aelod(au) perthnasol o staff academaidd.
- Os oes gordaliadau’n cael eu gwneud, rhaid i’r derbynwyr eu had-dalu yn llawn.
3. Trosglwyddo - Bydd myfyriwr yn parhau i fod yn gymwys am ysgoloriaeth os ydyw’n trosglwyddo i gwrs gradd cymwys arall.
4. Terfynu’r ysgoloriaeth - Os nad yw myfyriwr yn bodloni’r meini prawf cymhwyster a amlinellir uchod, mae’r Brifysgol yn cadw’r hawl i derfynu’r ysgoloriaeth. Os yw myfyriwr yn tynnu allan o’i (h)astudiaethau, neu os oes angen iddi/o dynnu allan, ni fydd unrhyw daliadau pellach yn cael eu gwneud. Bydd yr ysgoloriaeth yn cael ei therfynu os yw’r myfyriwr ddim wedi cofrestru fel myfyriwr yn y Brifysgol bellach.
5. Trefniadau talu - Bydd yr ysgoloriaeth yn cael ei thalu yn uniongyrchol i gyfrif banc y myfyriwr trwy BACS mewn un neu ddwy ran fel yr amlinellir uchod.
6. Defnyddio Data - Trwy dderbyn yr ysgoloriaeth hon, mae myfyrwyr yn rhoi caniatâd i’r Brifysgol ddefnyddio’u manylion at ddibenion hyrwyddo ac efallai bydd gofyn iddynt ddarparu astudiaeth achos allai gael ei ddefnyddio yng nghyhoeddiadau’r Brifysgol neu ar y wefan.
Noder: Mae’r telerau ac amodau hyn yn berthnasol i flwyddyn academaidd hon. Mae Prifysgol De Cymru’n cadw’r hawl i ddiweddaru’r telerau ac amodau hyn fel bo angen yn y dyfodol.
Pryd byddaf yn cael fy nhalu?
- Ysgoloriaeth £1000: Bydd taliadau yn cael ei gwneud ym mis Tachwedd a Mai
- Ysgoloriaeth £250: Bydd taliadau yn cael ei gwneud ym mis Mai
Dw i ddim yn siŵr os ydw i’n gymwys. Gyda phwy ddylwn i wirio hyn?
- Cysylltwch gyda [email protected] os oes gyda chi unrhyw gwestiwn
Ydw i’n gallu ymgeisio am fwy na un ysgoloriaeth?
- Ydych
Ydw i’n gymwys os ydw i’n trosglwyddo i gwrs gradd cymwys arall?
- Ydych
Mae yna lawer o gyfleoedd i ddefnyddio'ch Cymraeg yn y Brifysgol - yn gymdeithasol neu fel rhan o'ch cwrs. Manteisiwch ar y cyfleoedd hyn i ehangu eich gorwelion a datblygu sgiliau dwyieithog a fydd yn gwella potensial eich gyrfa.
Mae croeso i ti gysylltu â Catrin Evans, Swyddog Cangen PDC drwy ebostio i ddarganfod mwy am ein darpariaeth cyfrwng Cymraeg, cyfleoedd i astudio trwy gyfrwng y Gymraeg os nad yw dy radd yn cynnwys darpariaeth Cymraeg.