EICH GYRFA A'R GYMRAEG
Gall holl fyfyrwyr sy’n siarad Cymraeg o bob rhan o’r Brifysgol astudio modiwl byr ychwanegol (gwerth 5 credyd) i gynyddu eich cyfleoedd cyflogaeth. Bydd y cymhwyster hwn yn dangos eich gallu i gyfathrebu'n broffesiynol yn Gymraeg i gyflogwyr y dyfodol.
Cyfleoedd Cymraeg/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/07-student-life/71-study-spaces/student-life-study-spaces-cardiff-50444.jpg)
Bydd y modiwl, sy'n cyfateb i 6 awr dros un semester, hefyd yn darparu cymhwyster ychwanegol trwy dy baratoi di ar gyfer Tystysgrif Sgiliau Iaith y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
Ariannu eich astudiaethau
Cynigir Ysgoloriaeth PDC gwerth £250 i fyfyrwyr sy’n dewis astudio’r modiwl hwn yn eu blwyddyn gyntaf, ail neu drydedd (lefelau 4-6).
Darganfyddwch sut i wneud cais am ysgoloriaethCwestiynau Cyffredin
Gall unrhyw fyfyriwr sy'n siarad Cymraeg ac yn astudio unrhyw gwrs ar draws ein holl campysau astudio'r modiwlau hyn.
I fynegi diddordeb, neu os hoffech gael mwy o wybodaeth, cysylltwch â Siân Harris, neu Bronwen Rickard neu Megan Jones - Darlithwyr Cyflogadwyedd Cymraeg PDC.
- i wella’ch rhagolygon am swydd;
- i adeiladu’ch hyder;
- i wneud y fwyaf o’ch cryfderau wrth baratoi am y byd gwaith;
- i ddatblygu’r sgiliau cyffredinol a ddisgwylir gan bob cyflogwr;
- i gadw a datblygu’ch sgiliau Cymraeg;
- i ennill cymwysterau ychwanegol;
- i gwrdd â myfyrwyr ar gyrsiau eraill ar draws y Brifysgol;
- i gyfarwyddo gyda’r technegau dysgu ar-lein ac all-lein a ddefnyddir ar eich prif gwrs.
Blwyddyn 1: bydd y modiwl yn adeiladu eich hyder i ddefnyddio’r Gymraeg yn y gweithle. Rhoddir amrywiaeth o dasgau yn seiliedig ar waith i chi megis cynhyrchu blogiau ac ymchwilio sefydliadau, yn berthnasol i'ch cwrs gradd. Bydd y pwyslais ar Gymraeg llafar, er byddwch yn cael eich cyflwyno i adnoddau electronig er mwyn gwella’ch Cymraeg ysgrifenedig.
Blwyddyn 2: bydd y modiwl yn eich cyflwyno i sgiliau sy’n benodol i weithleoedd Cymraeg neu ddwyieithog. Rhoddir amrywiaeth o dasgau yn seiliedig ar waith i chi megis cyflwyno yn y Gymraeg a chyfieithu o’r Gymraeg i Saesneg, yn berthnasol i’ch cwrs gradd. Byddwch yn cael cyfleoedd i wella’ch Cymraeg llafar ac ysgrifenedig.
Blwyddyn 3: bydd y modiwl yn canolbwyntio ar agweddau allweddol o’r broses ymgeisio am swydd graddedig Cymraeg neu ddwyieithog (Cymraeg/Saesneg). Bydd yn eich galluogi i gynhyrchu CV dwyieithog, creu proffil proffesiynol ar-lein, adolygu technegau cyfweld ac adnabod sefydliadau gyda ffocws Cymraeg neu ddwyieithog.
Mae’r modiwlau yn arunig h.y. gallai myfyrwyr wneud modiwl y drydedd flwyddyn heb wedi gwneud modiwlau’r flwyddyn gyntaf a’r ail flwyddyn.
6 sesiwn ar draws 1 semester.
Bydd y sesiynau yn cael eu trefnu o gwmpas amserlen eich cwrs, naill ar-lein neu yn y dosbarth.
Tystysgrif Sgiliau Iaith
Cymhwyster sy’n cael ei gynnig gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol er mwyn profi gallu i gyfathrebu’n broffesiynol trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae’n cael ei adnabod yn eang gan gyflogwyr Cymraeg a dwyieithog yn y sector cyhoeddus, sector preifat a’r trydydd sector. Byddwch chi hefyd yn gallu ymgeisio ar gyfer y cymhwyster hwn.