Cyfleoedd Cymraeg

Coleg Cymraeg Cenedlaethol

Mae’r Coleg Cymraeg yn creu cyfleoedd hyfforddi ac astudio yn y Gymraeg drwy gydweithio â cholegau addysg bellach, prifysgolion, darparwyr prentisiaethau a chyflogwyr.

Cyfleoedd Cymraeg Darganfod mwy am y Coleg
Students studying on a laptop and talking.

Mae gan bob prifysgol yng Nghymru gangen o’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Mae’r gangen yn cwrdd yn aml yn ystod y flwyddyn i roi cyfle i fyfyrwyr a staff leisio eu barn ar faterion cyfrwng Cymraeg.


Cymerwch Ran

Mae croeso i ti gysylltu â Catrin Evans-Stitfall, Swyddog Cangen PDC i ddarganfod mwy am ein darpariaeth cyfrwng Cymraeg, cyfleoedd i astudio trwy gyfrwng y Gymraeg os nad yw dy radd yn cynnwys darpariaeth Cymraeg. Mae'r Coleg hefyd yn cynnig aelodaeth. Fel aelod o'r Coleg, byddwch yn derbyn gwybodaeth am ddigwyddiadau, cyfleoedd ac ysgoloriaethau.