Astudio trwy gyfrwng y Gymraeg
Mae llawer o gyfleoedd i ti ddefnyddio dy Gymraeg yn y Brifysgol – yn gymdeithasol neu fel rhan o dy gwrs.
Gweld ein Cyrsiau/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/07-student-life/73-outside-shots/student-life-outside-shots-treforest-52725-1.jpg)
/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/07-student-life/71-study-spaces/student-life-study-spaces-newport-50402.jpg)
/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/07-student-life/71-study-spaces/student-life-study-spaces-treforest-library-50019.jpg)
Manteisia ar y cyfleoedd hyn er mwyn ehangu dy orwelion a datblygu sgiliau dwyieithog a fydd yn cryfhau dy botensial gyrfaol.
Cyfleoedd Cymraeg
-
Darperir cyfleoedd academaidd mewn amryw o bynciau o Berfformio, Dysgu Cynradd, Busnes, Tirfesureg i Wyddorau'r Heddlu.
-
Mae Prifysgol De Cymru yn cynnig ysgoloriaethau gwerth £1,000 i fyfyrwyr blwyddyn gyntaf sy’n dymuno astudio o leiaf 40 credyd trwy gyfrwng y Gymraeg ym meysydd perfformio, tirfesureg, busnes, dysgu cynradd ac heddlua.
-
Gall unrhyw fyfyrwyr sy'n siarad Cymraeg astudio modiwl byr (5 credyd) ychwanegol i gynyddu eu cyfleoedd cyflogaeth drwy eu harfogi i weithio mewn sefydliadau Cymraeg neu ddwyieithog.
-
Darperir cyfleoedd i fyfyrwyr ddysgu Cymraeg trwy Dysgu Cymraeg Morgannwg. Mae gwersi ar gael ar bob lefel, o ddechreuwyr pur hyd at gyrsiau gloywi iaith i siaradwyr rhugl.
Pam Astudio'n Ddwyieithog?
Coleg Cymraeg Cenedlaethol
Trwy gydweithio â phrifysgolion Cymru, mae’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn sicrhau ac yn datblygu gyfleoedd astudio cyfrwng Cymraeg i fyfyrwyr Cymru. Mae’n noddi darlithwyr cyfrwng Cymraeg ac yn cynnig ysgoloriaethau sy’n galluogi i fyfyrwyr israddedig ac ôl-raddedig ddilyn cyrsiau addysg uwch drwy gyfrwng y Gymraeg.