Mae’r Brifysgol wedi ymrwymo i’r egwyddorion arfer da canlynol o ran ymchwil.
Mae’r rhain wedi’u gosod yn ein Cod Ymddygiad Arfer Da o ran Ymchwil PDC sy’n nodi:
- Bod gwerthoedd cyffredin o ran manyldeb a chywirdeb wrth wraidd ein hymchwil
- Ein bod yn meithrin amgylchedd ymchwil sy’n cefnogi ymchwil o’r safonau uchaf o ran manyldeb a chywirdeb
- Bod ein gweithgarwch ymchwil ac arloesi yn cydymffurfio â’r holl rwymedigaethau moesegol, cyfreithiol a phroffesiynol
- Ein bod yn defnyddio prosesau tryloyw, cadarn a theg i ymdrin â honiadau o gamymddwyn
- Ein bod yn parhau i fonitro, a lle bo angen, gwella addasrwydd a phriodoldeb y dulliau sydd ar waith i roi sicrwydd ynghylch gonestrwydd ymchwil
Mae gan y Brifysgol brosesau cadarn ar waith ar gyfer ymdrin â honiadau o gamymddwyn academaidd, a phroses gymeradwyo foesegol wedi’i diffinio’n glir ar gyfer staff a myfyrwyr.