Rydym wedi ymrwymo i dyfu a chynnal diwylliant ymchwil ffyniannus lle mae ein hymchwilwyr yn cael eu cefnogi i gyflawni eu potensial llawnaf.
Yn seiliedig ar Fframwaith Datblygu Ymchwilwyr Vitae, mae ein Rhaglen Datblygu Ymchwil ac Arloesi yn cynnig ystod helaeth o gyrsiau hyfforddi o ansawdd uchel sy'n cael eu gyrru gan anghenion i gefnogi eich datblygiad gyrfa personol a phroffesiynol, wrth roi cyfle i gwrdd ag eraill a dod yn rhan o'n cymuned ymchwil bywiog.
Mae'r hyfforddiant am ddim i ymchwilwyr, ymchwilwyr ôl-raddedig, a chydweithwyr gwasanaethau proffesiynol sy'n gweithio mewn amgylchedd ymchwil. Mae hyfforddiant pwrpasol ychwanegol ar gyfer ymchwilwyr ôl-raddedig a'u goruchwylwyr academaidd.