Effaith Ein Gwaith

EFFAITH GYMDEITHASOL AC ECONOMAIDD

Bob blwyddyn, mae PDC yn gwneud cyfraniad economaidd o £1.1 biliwn ac yn cefnogi 10,600 o swyddi yn y DU.

Amdanom ni Effaith Ein Gwaith
video-ein-heffaith.png

Mae ein cwricwlwm yn helpu i newid bywydau ein myfyrwyr. Rydym yn ased allweddol i fusnesau a chymunedau ledled y rhanbarth. Mae ein hymchwil yn helpu i lunio diwydiannau'r dyfodol ac yn llywio polisïau llywodraethau ar y gwasanaethau cyhoeddus sydd wrth wraidd yr economi sylfaenol.

Dyma ganfyddiadau adroddiad a luniwyd gan yr ymgynghorwyr annibynnol, Biggar Economics. Mae'r adroddiad yn archwilio data ar gyfer PDC, sy'n cynnwys dau is-gwmni sy'n eiddo llwyr i'r Brifysgol, Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, a Choleg Merthyr Tudful, o flwyddyn academaidd 2019/20.

Canfyddiadau'r Adroddiad

Rydym yn cyfrannu £1.1b at economi’r DU.

Mae pob £1 o incwm y Brifysgol yn cynhyrchu £5.30 I’r economi ehangach.

Amcangyfrifir bod gan fusnesau graddedigion gweithredol drosiant o £8.9miliwn.

Mae ein cyfnewidfa wybodaeth yn cynhyrchu £25miliwn a 370 swydd yn y DU.

Three students dressed in graduation robes and graduation caps smile and pose in front of the red dragon outside Newport's ICC
  • Rydym yn cynhyrchu 7,500 o raddedigion bob blwyddyn.

  • Roedd 83% o raddedigion mewn cyflogaeth neu wait gwirfoddol 15 mis ar ôl graddio.

Gwnaeth 1obob3 myfyriwr o’r ardaloedd economaidd-gymdeithasol isaf yng Nghymru a aeth I faes addysg uwch fynd i PDC.

  • Rydym yn cynhyrchu 7,500 o raddedigion bob blwyddyn.

  • Roedd 83% o raddedigion mewn cyflogaeth neu wait gwirfoddol 15 mis ar ôl graddio.


Mae PDC yn cefnogi twf economaidd a chydlyniant cymdeithasol rhanbarthol, a chenedlaethol.

Darllenwch fwy am effaith gymdeithasol ac economaidd PDC

Canfyddiadau eraill

  • Mae'r Brifysgol yn cefnogi 10,600 o swyddi ledled y DU. 
  • Mae pob person a gyflogir gan PDC yn cefnogi o swyddi eraill ar hyd a lled y DU.
  • Am bob £1 y mae PDC yn ei derbyn mewn incwm, cynhyrchir £5.30 i'r economi ehangach.
  • Mae ein cyfnewidfa gwybodaeth yn cynhyrchu £2.5miliwn a 370 o swyddi yn y DU.

Mae cyfran fawr o staff a myfyrwyr PDC yn byw ac yn gweithio ym Mhrifddinas-ranbarth Caerdydd.

  • Mae gwariant a gwaith myfyrwyr yn cyfrannu £111 miliwn o Werth Ychwanegol Crynswth a 2,740 o swyddi ym Mhrifddinas-ranbarth Caerdydd.
  • Mae 81% o weithwyr PDC wedi'u lleoli ym Mhrifddinas-ranbarth Caerdydd, ac amcangyfrifir eu gwariant yn £27m.

Mae Prifysgol De Cymru yn ehangu'r llwybr at addysg uwch yn fwy nag unrhyw brifysgol arall yng Nghymru.

  • Aeth tuag un o bob tri myfyriwr o ardaloedd o fewn dau gwintel isaf Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (MALlC) a ymunodd ag addysg uwch yn 2018/19 i PDC. 
  • Roedd hyn yn cynrychioli bron hanner (49%) myfyrwyr israddedig Cymru PDC ac mae'n sylweddol uwch na'r cyfartaledd ar gyfer sefydliadau addysg uwch yng Nghymru (39%) a'r DU (34%). 
  • Mae'n cyfateb i 28% o'r holl fyfyrwyr o ardaloedd yn nau gwintel isaf MALlC a ymunodd ag addysg uwch yng Nghymru yn 2018/19.