Hawliau Iaith Gymraeg i Fyfyrwyr
Ers 1 Ebrill 2018 mae hawl cyfreithiol gan fyfyrwyr yng Nghymru i ddefnyddio'r Gymraeg. Pan fyddwch yn ymrestru fel myfyriwr yn y brifysgol am y tro cyntaf, gofynnir i chi am eich dewis iaith- Cymraeg neu Saesneg. Nodir y wybodaeth hon ar eich cofnod myfyriwr fel bod staff yn ymwybodol pan fyddant yn cyfathrebu â chi.
Mae gan bob myfyriwr hawl i wneud a derbyn y canlynol yn Gymraeg:
- Gohebiaeth, gan gynnwys llythyrau, e-byst neu negeseuon testun
- Cyfarfodydd cwnsela
- Cais am gymorth ariannol
- Arwyddion a pheiriannau hunanwasanaeth
- Llyfryn croeso
- Cyfarfodydd
- Galwadau i brif rif ffôn, llinell gymorth, canolfan alwadau a systemau ffôn wedi eu hawtomeiddio
- Gwasanaeth dderbynfa
- Prosbectws
- Tystysgrifau
- Digwyddiadau cyhoeddus e.e. darlithoedd, seremonïau graddio neu wobrwyo
- Gwneud cwyn
- Ffurflenni, dogfennau ac hysbysiadau
- Cyflwyno gwaith ysgrifenedig fel rhan o asesiad neu arholiad (mae hwn yn ddibynnol ar y corff arholi)
- Gwefannau, mewnrwyd i fyfyrwyr, gwefannau rhith-ddysgu a phorth dysgu, apiau a chyfryngau cymdeithasol
- Tiwtor personol* (Noder: Nid yw hyn yn golygu neilltuo tiwtor academaidd)
Hawliau Myfyrwyr mewn manylder: Cyfarfodydd, Asesiadau, Arholiadau a chynnal Ymchwil
Llety Myfyrwyr: Yn ystod y broses ymgeisio gall pob myfyriwr dewis a hoffen nhw byw gyda myfyrwyr Cymraeg eraill.
Cyfleoedd Dysgu trwy gyfrwng y Gymraeg
Am ragor o wybodaeth am gyfleoedd dysgu trwy gyfrwng y Gymraeg e-bostiwch [email protected]
Mae'r Safonau Cyflenwi Gwasanaethau yn gymwys i fyfyrwyr a'r cyhoedd- ewch i'n Hysbysiad Cydymffurfio.