Gradd-Brentisiaethau Peirianneg
Mae Prifysgol De Cymru, mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru, yn falch o gynnig Gradd-brentisiaethau Peirianneg. Mae'r cyfleoedd hyn yn cyfuno dysgu seiliedig ar waith ag astudio tuag at radd yn rhan-amser yn y brifysgol.
Gradd-Brentisiaeth Rhwydwaith75/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/08-subjects/engineering-electronic/subject-engineering-electronic-student-26894.jpg)
Gall prentisiaid ennill gradd, dysgu sgiliau proffesiynol a chael gwybodaeth am y diwydiant, tra bod cwmnïau'n cael cyfle gwych i uwchsgilio gweithwyr presennol neu recriwtio a hyfforddi gweithwyr newydd ar lefel radd.
Gall Gradd-brentisiaethau hefyd wella cystadleurwydd, twf a datblygiad busnesau lleol.
Mae prentisiaid yn cael y cyfle i ennill profiad gwaith gwerthfawr ac ennill gradd.
I ddilyn ein rhaglen Gradd-brentisiaeth, rhaid i brentisiaid fod mewn cyflogaeth neu bydd angen iddynt wneud cais yn uniongyrchol i gyflogwr am swydd Prentis Gradd. Bydd angen i brentisiaid drafod gwneud cais am y cwrs hwn gyda'u cyflogwr a bydd angen i'r cyflogwr gysylltu â ni yn uniongyrchol.
Mae ein cyrsiau Gradd-brentisiaethau yn cael eu hariannu gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC), felly gall prentisiaid ennill gradd heb fynd i ddyled ac ennill cyflog ar yr un pryd.
Bydd prentisiaid yn dechrau eu gradd ar y pwynt mynediad sydd fwyaf priodol iddynt yn seiliedig ar eu cymwysterau a'u profiad presennol. Bydd yr holl ddysgu'n digwydd ar gampws Trefforest ac, ar ôl cwblhau'r brentisiaeth yn llwyddiannus, bydd prentisiaid yn graddio o Brifysgol De Cymru.
Bydd prentisiaid yn elwa ar y gefnogaeth orau sydd ar gael. Mae'r tîm yn gweithredu polisi drws agored ac maent bob amser wrth law i gynnig arweiniad a chefnogaeth i brentisiaid.
/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/08-subjects/engineering-electronic/subject-engineering-electronic-lecturer-26498.jpg)
Mae ein cyfleoedd dysgu seiliedig ar waith yn cynnig llawer o fanteision i fyfyrwyr a chyflogwyr, yn fawr a bach.
/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/16-other/business-services/business-services-business-generic.jpg)
GWYBODAETH i GYFLOGWYR
Trwy weithio mewn partneriaeth â Phrifysgol De Cymru, gallwch ddefnyddio gradd-brentisiaethau i dyfu eich busnes, hybu cynhyrchiant a chynllunio ar gyfer y dyfodol.
Gallwch gryfhau sgiliau eich gweithlu presennol neu roi cyfle i fyfyrwyr fod yn brentis yn eich gweithle, drwy raglenni wedi'u teilwra sy'n cyfuno profiad gwaith ag addysgu academaidd.
Gwybodaeth i Gyflogwyr
Mae ein Gradd-brentisiaethau yn cynnig cyfle i gyflogwyr feithrin eu talent eu hunain. Gall cyflogwyr ddewis uwchsgilio prentisiaid presennol neu recriwtio a hyfforddi prentisiaid newydd ar lefel radd.
Gall cyflogwyr ddefnyddio cyllid Llywodraeth Cymru sydd ar gael ar gyfer y cwrs gradd a thalu cost cyflog y prentis yn unig.
Bydd y cyflogwr, y prentis a'r brifysgol yn llofnodi Cytundeb Dysgu Prentisiaeth sy'n amlinellu rôl, cyfrifoldebau ac ymrwymiadau pob parti.
Bydd ein tîm ymroddedig yn cefnogi'r cyflogwr a'r prentis drwy gydol eu taith. Byddwn yn cynghori ar y pwynt mynediad gorau i'r prentis yn seiliedig ar ei gymwysterau a'i brofiad presennol ac yn asesu anghenion dysgu a datblygu penodol yr unigolyn.
Fel rhan o'n partneriaeth, byddwn yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd y prentisiaid, yn ogystal â chynnig cyfleoedd i gyfarfod drwy gydol eu hamser ar y rhaglen.
Cysylltwch â ni i drafod yr amrywiaeth o gyfleoedd prentisiaeth ym Mhrifysgol De Cymru neu os hoffech i aelod o'n tîm werthuso eich anghenion dysgu seiliedig ar waith.
CYSYLLTU Â NI
FFONIWCH
Prentisiaethau
01443 482203
01443 654488