Myfyrwyr Sain, Goleuo a Digwyddiadau Byw
Haf prysur i gyn-fyfyrwyr a myfyrwyr presennol
Cerddoriaeth, Drama a Pherfformio
Cysylltiadau â diwydiant drwy'r cwrs wnaeth y profiadau hyn yn bosibl
Cafodd myfyrwyr Sain, Goleuo a Digwyddiadau Byw Dymor Gwyliau prysur yn 2025. Drwy’r cysylltiadau a wnaethant wrth astudio, roedd modd i’r myfyrwyr a’r graddedigion ennill profiad yn y diwydiant dros yr haf, gan ddefnyddio’r wybodaeth a ddysgon nhw yn ystod eu hamser yn astudio.
Ellie Stothard
Mae Ellie yn fyfyrwraig bresennol a thrwy gysylltiadau a wnaeth yn ystod ei blwyddyn gyntaf yn PDC, mae hi wedi cadw'n brysur yn ystod haf 2025. Cymerodd rôl fel gweithredwr Robospot yng ngŵyl fawreddog Hampton Court Palace Festival sydd wedi croesawu perfformwyr fel Garry Barlow a Tom Jones. Ym mis Gorffennaf, cafodd brofiad gwaith gyda Stage Sound Services yn eu warws cynhyrchu. Dros benwythnos Gŵyl y Banc ym mis Awst, cafodd rôl gweithredwr technegol yn Big Feastival, gŵyl fwyd a cherddoriaeth boblogaidd yn y Cotswolds.
Callum Lewis
Graddiodd Callum yn 2022 ac roedd eisoes yn gwneud gwaith llawrydd fel peiriannydd sain ar y pryd. Dechreuodd ei haf yn ystod Gŵyl y Banc mis Mai yn gweithredu sain yng ngŵyl fwyaf Cymru: In it Together. Mae digwyddiadau corfforaethol yn dal i ddigwydd yn ystod yr haf ac mae Callum wedi bod yn rhan o ddigwyddiadau proffil uchel yn Arena Utilita Caerdydd, Arena Abertawe a Stadiwm y Principality. Roedd ei dymor hefyd yn cynnwys rolau yn Glastonbury a The Big Feastival.
Alistair Brick
Gwnaeth Alistair sefydlu SR productions gyda chyd-fyfyrwyr yn ystod ei gyfnod yn PDC. Mae'r cwmni'n darparu offer i’w llogi a gwaith cynhyrchu technegol i'r diwydiant digwyddiadau a theledu. Haf 2025 oedd yr haf prysuraf i'r cwmni hyd yma gyda llond lorïau o offer yn cael eu hanfon i ddigwyddiadau o bwys fel Tafwyl yng Nghaerdydd, 4 Stages yn Glastonbury ac amrywiaeth enfawr o ddigwyddiadau corfforaethol mawr.
Diddordeb mewn Cerddoriaeth, Drama a Pherfformio?
Mae Cerddoriaeth a Sain PDC yn darparu efelychiad, addysg a rhwydweithiau byd go iawn sy'n paratoi myfyrwyr ar gyfer gyrfaoedd llwyddiannus yn y diwydiant cerddoriaeth.