Hannah Maiden

Creu dan bwysau: Fy nhaith gyda digwyddiadau byw

Cerddoriaeth, Drama a Pherfformio
Student, Hannah, using a computer with blue lighting

Mae byw yng Nghaerdydd yn gwella fy mhrofiad ar y cwrs hwn oherwydd mae llawer o leoliadau cerddoriaeth fyw yma.


Dod o hyd i'r ffit iawn a chael profiad go iawn 

Fe wnes i ddewis y cwrs BSc (Anrh) Technoleg Sain, Goleuo a Digwyddiadau Byw ar ôl i gyfle profiad gwaith ar hap wneud i mi sylweddoli cymaint rwy’n mwynhau gweithio’n ymarferol dan bwysau i sicrhau’r canlyniad gorau y gallaf—a bod yn falch o’r canlyniad terfynol. Cefais gyfle i siarad â rhywun sydd wedi gweithio yn y diwydiant digwyddiadau byw ers degawdau am ei brofiadau, ac roeddwn yn hoff iawn o'r hyn a glywais. Roedd y cwrs yn ymddangos fel pe bai’n gymysgedd da iawn o ddysgu ymarferol a damcaniaethol sy’n gweithio’n dda i mi ac a fyddai’n cwmpasu’r rhan fwyaf o’r meysydd y mae gennyf ddiddordeb ynddynt. 

Bu digon o gyfleoedd i ymgysylltu a rhwydweithio â diwydiant. Rwy’n gweithio yn Undeb Myfyrwyr Caerdydd, felly rwyf wedi cael y cyfle i weithio ar ddigwyddiadau mewnol a theithiau allanol, gan ddod i adnabod y bobl a chael profiad o’r llif gwaith. Roedd y cyfleoedd rhwydweithio yn amrywio o fynd i SKY yn Osterley i ddigwyddiadau Menywod mewn Diwydiant yn lleol. 

Dewch o hyd i'ch cwrs

FI OEDD YN GYFRIFOL AM GYMYSGU’R LLUNIAU AR GYFER Y FIDEOS CERDDORIAETH A RYDDHAWYD FEL RHAN O ŴYL IMMERSED 2025 AC MAEN NHW’N GWNEUD YN ARBENNIG O DDA.

Hannah Maiden

Myfyriwr Technoleg Sain, Goleuo a Digwyddiadau Byw

Uchafbwyntiau'r ŵyl a chynlluniau ar gyfer y dyfodol 

Mae byw yng Nghaerdydd yn cyfoethogi fy mhrofiad ar y cwrs hwn oherwydd mae gan Gaerdydd lawer o leoliadau cerddoriaeth fyw, mae’n gartref i Sgwâr Canolog y BBC yn ogystal â lleoliadau theatr mawr a bach, fel Canolfan y Mileniwm sydd ar garreg ein drws. Mae'n ddinas sy'n llawn egni perfformiadau byw, sy'n ei gwneud yn lle gwych i astudio'r pwnc yma. 

Fi oedd yn gyfrifol am gymysgu’r lluniau ar gyfer y fideos cerddoriaeth a ryddhawyd fel rhan o Ŵyl Immersed 2025 ac maen nhw’n gwneud yn arbennig o dda. Yn y dyfodol, hoffwn weithio’n llawrydd mewn diwydiant, gan ffafrio gweithio ar wyliau cerddoriaeth. Fy nghyngor i unrhyw un sy'n ystyried astudio'r cwrs hwn? Ewch amdani - ond dim ond os ydych chi'n fodlon gwneud yr ymdrech. Nid yw'n gwrs hawdd ac mae angen mwy o waith caib a rhaw nag yr ydych chi’n ei ddisgwyl yn wreiddiol. 

Archwiliwch Caerdydd

Diddordeb mewn Cerddoriaeth, Drama a Pherfformio?

Mae Cerddoriaeth a Sain PDC yn darparu efelychiad, addysg a rhwydweithiau byd go iawn sy'n paratoi myfyrwyr ar gyfer gyrfaoedd llwyddiannus yn y diwydiant cerddoriaeth.