Donna Williams

O frasluniau i sgriniau – astudio Celf Gêm yn PDC

Animeiddio a Gemau
Cariad Williams smiling off camera

Doedd dim llawer o bobl yn yr ysgol neu'r coleg y gallwn siarad â nhw am chwarae, ond yn y brifysgol, rwy'n gallu rhannu fy niddordebau gyda phobl debyg, sy'n rhywbeth braf iawn.


Rydw i wastad wedi cael fy hudo gan gemau fideo. Pan fyddaf yn edrych ar gêm, rydw i bob amser yn meddwl tybed beth yw'r broses ohoni - sut ddaeth yn rhywbeth mor fawr o frasluniau? Felly dewisais y cwrs Celf Gêm i archwilio fy niddordebau. 

Fy hoff gemau yw gemau byd agored fel Horizon: Zero Dawn neu Forbidden West, a The Legend of Zelda. Yn y coleg, chwaraeais i dîm e-chwaraeon o'r enw Tydfil Titans a helpodd fi i ddysgu mwy am y diwydiant hapchwarae. Fe wnaethon ni hefyd gwrdd â Phrif Swyddog Gweithredol Esports Cymru, a chefais i siarad ag ef yn bersonol am fy arddull gelf.

Gwneud ffrindiau

Ar hyn o bryd rwy'n byw gartref ac yn cymudo. Dewisais astudio ym Mhrifysgol De Cymru oherwydd ei bod agosaf at fy nghartref ym Merthyr Tudful ac fe ges i'r graddau yr oeddwn eu hangen. Cyn i mi wneud cais, ymwelais â PDC gyda fy ngholeg ar daith o amgylch y campws. 

Fy hoff ran o'r cwrs Celf Gêm yn bendant yw cwrdd â phobl newydd sydd â diddordebau tebyg i mi. Nid oedd llawer o bobl yn yr ysgol neu'r coleg y gallwn siarad â nhw am hapchwarae, ond yn y brifysgol, rwy'n gallu rhannu fy niddordebau gyda phobl debyg, sy'n braf iawn. 

Ar y cwrs, rydw i wedi gallu gweithio mewn grwpiau gyda myfyrwyr eraill. Mae'n dda dod i adnabod ein gilydd. Rwy'n hoffi gweithio gyda gwahanol bobl a gweld beth allwn ni ei wneud fel tîm. Rwyf hefyd wedi dysgu llawer eisoes am fodelu 3D. 

Cyflogadwyedd a Gyrfaoedd

PAN FYDDAF YN EDRYCH AR GÊM, RYDW I BOB AMSER YN MEDDWL TYBED BETH YW'R BROSES OHONI - SUT DDAETH YN RHYWBETH MOR FAWR O FRASLUNIAU?

Cariad Williams

Myfyriwr Celf Gêm

Nodau gyrfa

Pan fyddaf yn graddio, rwy'n gobeithio bod yn artist cysyniad yn rhywle. Os nad ydw i'n cael y cyfle swydd rydw i eisiau, rwy'n fwy na pharod i aros nes bod rhywbeth yn dod i fyny. 

Does dim ots gen i os ydw i'n gweithio i stiwdio annibynnol neu un fawr, adnabyddus. Fyddwni ddim chwaith yn poeni am symud i ffwrdd, er enghraifft i weithio gyda'r cwmni a wnaeth Still Wakes the Deep. Mae'n gêm arswyd wedi'i gosod mewn rig olew yng nghanol y môr ac roedd yn boblogaidd iawn. 

Fy nghyngor i rywun sy'n meddwl am astudio Celf Gêm yw nad oes ots os ydych chi'n broffesiynol neu beidio, cyn belled â'ch bod chi'n hapus yn gwneud yr hyn rydych chi'n ei wneud. Er enghraifft, os nad ydych chi'n dda am wneud gwaith 3D neu 2D, yna mae'n hollol iawn ar y cwrs hwn. Does dim beiriniadaeth. 

Dewch o hyd i'ch cwrs

Diddordeb mewn Gemau, Animeiddio ac Effeithiau Gweledol?

Gyda technoleg dal symudiadau ar y campws, sgrin werdd, VR ac AR, byddwn yn eich dysgu sut i weithio fel gweithiwr proffesiynol creadigol.