Heb fy nghymwysterau fyddwn i ddim wedi bod yn ddigon hyderus i ymgeisio am swydd yn Lextox.
Graddiodd Emily Rees o Gaerdydd gyda gradd BSc (Anrh) dosbarth cyntaf mewn Gwyddor Fforensig.
Aeth yn ei blaen i astudio'r MSc dwy flynedd mewn Gwyddorau Dadansoddol a Fforensig a graddiodd gyda rhagoriaeth a gwobr am y Perfformiad Gorau gan Fyfyriwr.
Mae Emily bellach yn gweithio fel Dadansoddwr Labordy/Gwyddonydd Adrodd yn Lextox, sy'n arbenigo mewn profion cyffuriau ac alcohol ar samplau gwallt, ar gyfer achosion cyfraith teulu ac achosion gofal plant yn bennaf.
Disgrifiwch yr hyn rydych chi'n ei wneud
Yn y labordy, rydyn ni’n dadansoddi samplau gwallt ar gyfer presenoldeb cyffuriau a metabolitau ac arwyddion alcohol, sef ethyl glwcuronid ac esterau ethyl asid brasterog. Fel Gwyddonydd Adrodd, rwy'n dehongli'r canlyniadau ar gyfer pob achos gwallt unigol ac yn cyhoeddi a dehongli'r canlyniadau ar ffurf Adroddiad gan Arbenigwr.
Beth ydych chi'n ei fwynhau fwyaf am y gwaith?
Amrywiaeth y gwaith! Ambell ddiwrnod fe fyddaf i’n gweithio yn y labordy gyda gweddill y tîm ar waith ymarferol ac ar ddiwrnodau eraill rwy'n gweithio wrth fy desg yn edrych ar ganlyniadau samplau gwallt. Rwy'n dysgu’n barhaus! Rwyf wedi cael dyrchafiad hefyd. Ers cael fy nghyflogi yn Lextox rwyf wedi gallu datblygu fy ngyrfa o fod yn Ddadansoddwr Labordy i fod yn Wyddonydd Adrodd.
Pam mae’n broffesiwn da?
Gan fod profion gwallt yn esblygu drwy’r amser, mae ymchwil yn cael ei wneud yn barhaus i wella'r dulliau rydyn ni’n eu defnyddio ac i wella’r dulliau dehongli canlyniadau, sy'n galluogi arbenigwyr i adeiladu a datblygu eu gwybodaeth. Mae’n rhan reolaidd a chyson o achosion gofal plant teuluol, yn cyflwyno tystiolaeth dderbyniol pan fydd penderfyniadau pwysig yn cael eu gwneud o ran diogelu lles plant.
Dewis astudio Gwyddorau Fforensig yn PDC
Beth ddylanwadodd arnoch chi i astudio gradd mewn Gwyddor Fforensig?
Fe wnes i dri phwnc gwyddoniaeth at Safon Uwch ac ro’n i wastad yn gwybod fy mod i eisiau gweithio yn y maes gwyddoniaeth. Ar ôl chwilio am gyrsiau i astudio yn y brifysgol, roedd y cwrs Gwyddoniaeth Fforensig yn apelio ataf oherwydd y sesiynau labordy ymarferol.
Beth oedd elfennau mwyaf gwerthfawr y radd Gwyddor Fforensig?
Y sesiynau ymarferol yn y labordy a'r Cyfleuster Hyfforddi Lleoliadau Trosedd oedd rhan orau’r cwrs! Gallu rhoi'r hyn rydych chi wedi'i ddysgu mewn darlithoedd ar waith yn ymarferol. Hefyd, roedd y darlithoedd gwadd yn dda gan eu bod yn rhoi cipolwg i ni ar y diwydiant tra o’n ni’n dal wrthi’n astudio. O ran y radd Meistr, y traethawd hir oedd y peth mwyaf gwerthfawr gan ei fod yn galluogi myfyrwyr i ddatblygu eu maes trafod a’u dulliau ac i gyflawni'r gwaith ymarferol yn unigol.
Diddordeb mewn Gwyddoniaeth?
Archwiliwch ein hystod amrywiol o raddau gwyddoniaeth o Wyddorau Biolegol a Fforensig i Wyddorau Fferyllol, a chymerwch eich cam cyntaf tuag at yrfa mewn Meddygaeth gyda’n cwrs Gwyddorau Meddygol arloesol.