Ben Price
Dod yn Gari Tryfan hanesyddol: sut mae astudio Hanes yn PDC yn datblygu meddwl beirniadol
Hanes ac Astudiaethau Bwdhaidd
Mae pawb mor neis a chefnogol iawn yma. Pan ddechreuais ar y cwrs, cofiodd un o'm darlithwyr fi o'r Diwrnod Agored!
Gwneud PDC fy newis cyntaf
Rydw i wastad wedi bod â diddordeb mewn hanes. Rwy'n hoffi'r straeon. Rwy'n hoffi'r bobl. Rwy'n hoffi mynd yn ôl i amser gwahanol, neu wlad arall. Mae llawer o bobl ar fy nghwrs yn dweud bod Hanes Hyll (Horrible Histories) wedi dechrau eu diddordeb mewn hanes ac mae hynny'n wir i mi hefyd. Rydw i wastad wedi mwynhau hanes.
Mae'r cwrs hwn wedi fy helpu i edrych ar bethau gyda llygad mwy beirniadol. Nid yw hanes yn y brifysgol yn cofio dyddiadau yn unig - mae'n fwy o dditectif, fel Gari Tryfan neu Sherlock Holmes hanesyddol! Mae'n sgil wirioneddol werth chweil gallu edrych ar weddillion o'r gorffennol ac ystyried y cyd-destun lle cafodd ei gynhyrchu, pwy wnaeth ei ysgrifennu, ac at ba ddiben.
Roeddwn i'n ystyried dim ond gwneud y Brifysgol Agored oherwydd fy mod wedi gwneud fy Safon Uwch yn y ffordd honno, ond deuthum i Ddiwrnod Agored a Diwrnod Profiad Ymgeiswyr ac roeddwn i'n ei hoffi yma. Cyfarfûm â'r darlithwyr a dangosodd arweinydd y cwrs Rachel fideo o'r Ail Ryfel Byd i ni i'n hannog i herio syniadau rhagfarnllyd o 'Keep Calm and Carry On'. Er enghraifft, roedd yna lawer o bobl a oedd yn cwyno am fesurau rhyfel fel dogni, felly mae'n eithaf diddorol cael y persbectif arall hwnnw.
Dewch o hyd i'ch cwrsMwynhau dysgu mewn amgylchedd cefnogol
Mae pawb mor neis a chefnogol iawn yma. Pan ddechreuais y cwrs, roedd un o'm darlithwyr yn cofio fi o'r Diwrnod Agored!
Ar hyn o bryd rwy'n byw yn y Cymoedd ac yn cymudo i Gaerdydd. Mae byw gartref yn helpu i arbed arian ond rwy'n hoffi'r ymdeimlad o gyfarwyddrwydd hefyd. Gallu mynd adref ac astudio yn fy amgylchedd cartref a gwybod nad yw fy mywyd wedi cael ei ailgychwyn yn llwyr.
Ar ôl i mi raddio, yn ddelfrydol rydw i eisiau gwneud rhywbeth fel ysgrifennu bywgraffiadau o ffigyrau hanesyddol, yn enwedig y teulu brenhinol. Os nad yw hynny'n gweithio allan, rwy'n credu y byddwn i'n hoffi gweithio mewn amgueddfa.
Gyrfaoedd a ChyflogadwyeddDiddordeb mewn Hanes ac Astudiaethau Bwdhaidd?
Mae Astudio Hanes ac Astudiaethau Bwdhaidd yn PDC yn archwilio sut mae pobl, syniadau a chredoau wedi siapio cymdeithas dros amser.