Gyrfaoedd Seicoleg Eraill
Gall gradd mewn seicoleg fynd â chi i amrywiaeth o yrfaoedd diddorol ar ôl i chi raddio.
Psychology Plus
Isod ceir manylion rhai o'r llwybrau gyrfa sydd ar gael ynghyd â gwybodaeth bellach am y cyfleoedd sydd ar gael yn y Brifysgol sydd wedi'u cynllunio i'ch gwneud yn fwy cyflogadwy a chefnogi eich dyheadau gyrfa yn y dyfodol.
GYRFAOEDD YN GRYNO
Yn gyffredinol, mae'r rolau hyn yn cynnwys gweithio gyda'r rhai difreintiedig a'r rhai sydd wedi'u difreinio mewn cymdeithas. Mae swyddi amrywiol yn y maes hwn gan gynnwys; Swyddog Diogelu Plant, Rheolwr Codi Arian ar gyfer Elusen, Cyngor Tai i'r Digartref.
Mae llawer o sgiliau a ddysgwyd yn ystod eich gradd seicoleg yn berthnasol ar gyfer gyrfa reoli ac os ydych wedi canolbwyntio ar Seicoleg Alwedigaethol neu Fusnes yna rydych hyd yn oed yn fwy parod ar gyfer y math hwn o waith.