Seicoleg a Mwy

Seicoleg a Mwy: Profiad

Rydyn ni'n meddwl bod profiad gwaith yn rhan hanfodol o'ch gradd, felly mae llawer o gyfleoedd i brofi byd gwaith.

Gweld graddau Seicoleg Seicoleg a Mwy
A student is sat at a desk in a Psychology lab, smiling into the camera.

Rhan hanfodol o ddatblygiad unrhyw fyfyriwr israddedig Seicoleg yw dysgu sut i gymhwyso theori seicolegol i sefyllfaoedd ymarferol, ac mae'r cyfleoedd lleoliad hyn gan PDC yn cynnig y cyfle i wneud hyn.



Cyfleoedd Lleoliad

Byddwch yn cael cyfle unigryw i ennill profiad clinigol ar y campws drwy gymryd rhan mewn lleoliad chwe wythnos yn ein Clinig Dadansoddi Ymddygiad sydd wedi’i leoli ar Gampws Pontypridd, Trefforest. 

Mae pob myfyriwr israddedig yn cael gwarant, os ydyn nhw ei eisiau yn ystod eu hastudiaethau, o leoliad chwe wythnos yn ein Clinig Dadansoddi Ymddygiad. Mae ein Prosiect Awtistiaeth yn cynnig ymyriad dadansoddol ymddygiad cymhwysol ar gyfer plant pump oed ac iau sydd fel arfer wedi cael diagnosis o awtistiaeth. Mae'r clinig yn cael ei redeg yn bennaf gan fyfyrwyr gwirfoddol dan oruchwyliaeth Dadansoddwr Ymddygiad Ardystiedig y Bwrdd. 

Hyd: 4 awr yr wythnos am 6 wythnos

Amser: Mae cofrestru diddordeb ar ddechrau tymor yr Hydref.

Argaeledd: Tua 30 o fyfyrwyr y tymor

Gyrfaoedd: Dadansoddi Ymddygiad, Seicoleg Addysgol neu Glinigol, Proffesiynau Cymdeithasol a Lles

Mae technegwyr seicoleg yn allweddol i weithrediad llwyddiannus unrhyw adran seicoleg. Mae’r cyfle hwn wedi’i deilwra i roi profiad i chi o ystod o dasgau sy’n ganolog i’r rôl hon a bydd yn ddefnyddiol iawn i’r rheini ohonoch sydd eisiau gweithio ym maes ymchwil, addysgu, TG neu broffesiynau technegol eraill. Gan weithio gyda’n Technegwyr Seicoleg presennol, byddwch yn cael profiad ymarferol mewn ystod o brofion seicolegol (e.e., Biopac, Eye Tracker, CANTAB) ac o becynnau meddalwedd amrywiol (e.e., E-Prime, Tobii Studio). Byddwch hefyd yn dysgu llu o ddyletswyddau cyffredinol sy'n helpu i sicrhau bod y labordai a'r offer technegol yn rhedeg yn esmwyth. 

Hyd: 16 Awr

Amser: Chwefror yn ystod wythnos astudio dan gyfarwyddyd

Argaeledd: 4 Myfyriwr

Gyrfaoedd: Niwroseicoleg, Seicoleg Chwaraeon ac Ymarfer Corff, Seicoleg Academaidd

Fel rhan o'r cynllun hwn byddwch yn cael y cyfle i wneud ymchwil byd go iawn gan weithio gyda staff academaidd o'r tîm Seicoleg.

Mae chwe phrosiect thema ar gael eleni. I gael rhagor o wybodaeth darllenwch y llyfryn seicoleg plws neu cysylltwch ag aelod o staff.

Hyd: I'w drafod gyda goruchwylydd y prosiect 

Adeg: I'w drafod gyda goruchwylydd y prosiect 

Argaeledd: I'w drafod gyda goruchwylydd y prosiect

Gyrfaoedd: Seicoleg Academaidd, Seicoleg Fforensig, Gyrfaoedd Masnachol, Diwydiannol neu Sector Cyhoeddus

Mae cyfle cyffrous wedi codi i fyfyrwyr (pob lefel) ymwneud â rhedeg cylchgrawn/cyfnodolyn ar gyfer yr adran Seicoleg yma yn PDC, a fydd yn cael ei gyhoeddi unwaith y tymor. 

Mae hwn yn brosiect a arweinir gan fyfyrwyr ac mae llawer o ffyrdd y gall myfyrwyr gymryd rhan. Er enghraifft, mae’r tîm angen: awduron, golygyddion, ymchwilwyr a myfyrwyr a all helpu i ddylunio'r cynllun a rheoli darluniau/lluniau. Maent hefyd angen: erthyglau am amrywiaeth o bynciau o ddiddordeb (lles meddwl, anhwylderau bwyta, ffordd o fyw, caethiwed, bywyd myfyriwr neu rywbeth arall), adolygiadau o leoliadau, cyfweliadau â staff/ymchwilwyr ac unrhyw beth arall sy'n berthnasol. 

Hyd: I'w drafod gyda thîm y cyfnodolyn 

Adeg: Yn ystod y tymor 

Argaeledd: 20 lle ar gael

Gyrfaoedd: Marchnata neu Seicoleg Defnyddwyr, Seicoleg Academaidd, gyrfaoedd Masnachol, Diwydiannol neu Sector Cyhoeddus

Mae Her Ryngwladol PDC yn rhaglen ddatblygiadol a gynlluniwyd i roi profiad Prifysgol cyflawn i fyfyrwyr, tra hefyd yn gwella eu sgiliau meddalach.

Bydd disgwyl i fyfyrwyr ymgymryd â 4 adran yn cwmpasu gweithgareddau corfforol, datblygu sgiliau bywyd, profiad gwaith neu brosiect cymunedol a 2 alldaith yn rhanbarth De Cymru a Gorllewin. Neilltuir mentor i bob myfyriwr ar y rhaglen i weithio gyda nhw a’u tîm drwy gydol yr her. Mae staff PDC yn ogystal â graddedigion o’r rhaglen ar gael bob blwyddyn i helpu i fentora a datblygu’r rhai sy’n ymgymryd â’r Her Ryngwladol. Gallwch ddarganfod mwy, a chofrestru ar gyfer yr Her ar Unilife.

Hyd: Parhaus trwy gydol y flwyddyn 

Adeg: Yn ystod y tymor 

Argaeledd: Cyflwynwch gais a byddwch yn cael gwybod pan fydd lle ar gael

Gyrfaoedd: Cymorth a Chyngor i Fyfyrwyr, Proffesiynau Cymdeithasol a Lles, Rheoli Digwyddiadau