Telerau ac Amodau
Cynllun Uwchraddio Cynigion Prifysgol De Cymru
Telerau ac Amodau
- Mae Cynllun Uwchraddio Cynigion (“y Cynllun”) Prifysgol De Cymru ("y Brifysgol") yn galluogi'r Brifysgol i adolygu cynigion amodol ymgeiswyr yn seiliedig ar eu graddau disgwyliedig a'u presenoldeb mewn Diwrnod Profiad Ymgeiswyr ar naill ai 28 Chwefror, 18 Ebrill neu 9 Mai 2026 ac uwchraddio eu cynnig yn un Diamod.
Cymhwysedd
- Dim ond i ymgeiswyr cartref yn y DU sy’n talu ffioedd mae'r Cynllun ar gael.
- I fod yn gymwys, rhaid i ymgeiswyr fod wedi gwneud cais i astudio blwyddyn 0 neu flwyddyn 1 o gwrs cymwys israddedig llawn amser (mae manylion y cyrsiau cymwys ym mharagraff 8 isod), a bod wedi cael cynnig Amodol, a rhaid iddynt sganio'r cod QR cymwys i gofrestru eu presenoldeb yn un o'n Dyddiau Profiad Ymgeiswyr. Mae cyrsiau mynediad uwch (h.y., mynediad i flwyddyn 2 a 3) a chyrsiau Atodol un flwyddyn, wedi'u heithrio o'r Cynllun hwn oherwydd gofynion Cydnabyddiaeth o Ddysgu Blaenorol (RPL). Bydd manylion sut i gofrestru presenoldeb mewn Diwrnod Profiad Ymgeiswyr yn cael eu nodi mewn e-bost yn cadarnhau eu cofrestriad ar gyfer y digwyddiad. Ni fydd ymgeiswyr a fynychodd Ddiwrnod Profiad Ymgeiswyr ond na wnaeth gofrestru ar y diwrnod trwy gael eu sganio gan aelod o staff neu lysgennad myfyrwyr yn gymwys.
- Ni fydd unrhyw ymgeiswyr y mae eu cynnig yn cynnwys amodau TGAU neu IELTS sydd eb eu gwireddu eto yn gymwys ar gyfer y Cynllun.
- Ni fydd unrhyw ymgeiswyr sydd ag ymholiadau heb eu datrys ynghylch eu statws ffioedd yn gymwys ar gyfer y Cynllun.
- Bydd ymgeiswyr sy'n bodloni'r gofynion asesu ffioedd ac sydd wedi eu hasesu fel talwyr ffioedd cartref yn cael eu cynnig Amodol wedi ei uwchraddio cyn belled nad oes amodau TGAU/IELTS heb eu gwireddu eto, a’u bod yn bodloni gweddill telerau'r cynnig hwn.
- Mae ymgeiswyr sy'n dymuno gohirio cael eu derbyn mewn blynyddoedd dilynol yn gymwys ar gyfer y Cynllun.
Manylion y Cynllun
- Mae pob cwrs Prifysgol lle mae ymgeisydd wedi derbyn cynnig astudio Amodol ar gyfer blwyddyn 0 neu flwyddyn 1 yn gymwys ar gyfer y Cynllun hwn gydag un eithriad. Mae rhai cyrsiau na ellir eu cynnwys yn y Cynllun hwn oherwydd achrediadau cyrff allanol neu ofynion derbyn penodol. Dyma’r cyrsiau hynny:
BSc (Anrh) Nyrsio (Oedolion)
BSc (Anrh) Nyrsio (Plant)
BSc (Anrh) Nyrsio (Iechyd Meddwl)
BSc (Anrh) Nyrsio (Anableddau Dysgu)
BSc (Anrh) Bydwreigiaeth
BSc (Anrh) Ymarfer Adran Lawdriniaeth
BSc (Anrh) Therapi Galwedigaethol
BSc (Anrh) Ffisiotherapi
Meistr Ceiropracteg
BSc (Anrh) Gwyddorau Meddygol
BSc (Anrh) Gwaith Cymdeithasol
BA (Anrh) Addysg Gychwynnol i Athrawon Cynradd gyda SAC
BSc (Anrh) Cwnsela ac Ymarfer Therapiwtig
Pob cwrs Atodol un flwyddyn
Ni fydd ymgeiswyr ar gyfer y cyrsiau uchod yn gymwys ar gyfer y cynllun.
- Os caiff cynnig ymgeisydd ei uwchraddio'n un diamod, anfonir e-bost cynnig newydd i’r ymgeisydd ac, os gwnaeth gais drwy UCAS, bydd y cynnig diamod yn ymddangos yn eu Hyb UCAS. Os gwnaeth yr ymgeisydd gais drwy broses PDC, bydd yn ymddangos ar eu Porth Ymgeiswyr PDC.
- Nid yw'r Cynllun hwn yn rhoi blaenoriaeth i ymgeiswyr am lety PDC. Gynted ag y bydd ymgeisydd yn derbyn cynnig yn gadarn gyda PDC, dylai wneud cais am lety yn y ffordd arferol. Nid oes proses ymgeisio â blaenoriaeth ar gyfer llety i ddeiliaid cynigion diamod ond mae peth o'n llety'n debygol o gael ei ddyrannu ar sail y cyntaf i'r felin. Anogir ymgeiswyr i wneud cais am lety a thalu eu blaendal cyn gynted ag y byddant yn derbyn eu cynnig gan PDC yn gadarn.
- Os bydd graddau ymgeisydd yn is na'r graddau a ragwelwyd, sef y rhai oedd yn sail i'w cynnig Amodol, bydd PDC yn anrhydeddu'r cynnig Diamod, waeth beth yw'r graddau a gyflawnwyd.
- Mae Telerau ac Amodau Ychwanegol ar waith gymwys fel yr amlinellir yn llythyr cynnig yr ymgeisydd, gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i Delerau ac Amodau Polisi Derbyn, Telerau ac Amodau Myfyrwyr, a Thelerau ac Amodau Llety (fel y bônt yn berthnasol).
- Os yw ymgeisydd yn derbyn cynnig diamod fel un cadarn, ni fydd yn gallu derbyn dewis yswiriant hefyd. Dim ond os yw'r rhain yn gynigion amodol (ac nid yn ddiamod) y gallant dderbyn dewis cadarn ac yswiriant (ac nid yn ddiamod). os byddant yn derbyn cynnig cadarn ac yswiriant amodol, os bydd eu prifysgol ddewisol yn newid eu cynnig yn un diamod, mae hyn yn golygu bod eu lle yn cael ei gadarnhau a byddant yn derbyn gwybodaeth gofrestru a chynefino yn yr haf cyn i'w cwrs ddechrau.
- Dim ond i’r cwrs/cyrsiau mae’r ymgeisydd wedi derbyn cynnig ar ei gyfer/ar eu cyfer mae'r Cynllun ond yn berthnasol, ac nid unrhyw gyrsiau eraill. Fodd bynnag, os bydd y graddau a gyflawnwyd gan yr ymgeisydd yn sylweddol uwch na'r rhai a ragwelwyd yn wreiddiol, efallai y gallwn wneud cynnig iddynt ar gyfer y radd os cawsant gynnig cwrs ar lefel is na gradd i ddechrau. Dylent gysylltu ag [email protected] wedi iddynt dderbyn eu canlyniadau i drafod hyn.
- Os aeth ymgeisydd i'r Diwrnod Profiad Ymgeiswyr ac nad oedd wedi sganio na chofrestru ar y diwrnod, ni fydd ei gynnig yn cael ei uwchraddio. Os bydd ymgeisydd yn dymuno apelio yn erbyn y penderfyniad hwn gan ei fod wedi bod yn bresennol yn y digwyddiad, dylai gysylltu â [email protected] i gychwyn.
- Bydd gwybodaeth bersonol yn cael ei chadw gan y Brifysgol at ddibenion y Cynllun a bydd yn cael ei storio a'i defnyddio yn unol â pholisi preifatrwydd PDC: Hysbysiadau Preifatrwydd a Defnyddio Gwybodaeth Bersonol | Prifysgol De Cymru.
- Bydd y telerau ac amodau hyn yn cael eu llywodraethu gan gyfreithiau Cymru a Lloegr, a'r Brifysgol ac rydych yn cytuno i ddefnyddio llysoedd Cymru a Lloegr yn unig.
- Os bydd unrhyw anghydfod, rydych yn cydnabod bod gan y Brifysgol weithdrefnau derbyn llym y mae'n rhaid iddi eu dilyn, gan gynnwys rheoli meini prawf derbyn perthnasol ar gyfer ei chyrsiau ac felly mae penderfyniad y Brifysgol yn derfynol.
- Mae'r Brifysgol yn cadw'r hawl i ddiwygio'r Telerau ac Amodau hyn a/neu dynnu'r Cynllun hwn yn ôl heb rybudd. Os caiff y telerau hyn eu diwygio neu eu tynnu'n ôl, anrhydeddir pob Cynnig Diamod a wnaed cyn y gwelliannau/tynnu'n ôl.
- Dylid cyfeirio cwestiynau ynghylch y cynllun hwn at [email protected].
Rhestr termau
Cynnig amodol – yn golygu cynnig lle ar gwrs gydag amodau ar waith. I gael eich derbyn ar y cwrs, bydd angen i chi fodloni'r amodau - fel arfer yn gysylltiedig â chanlyniadau eich arholiadau. Mae hwn yn fath cyffredin o gynnig i ymgeiswyr sy'n gwneud cais yn uniongyrchol o addysg bellach.
Cynnig diamod – yn golygu cynnig lle ar gwrs heb unrhyw amodau'n ymwneud â chymwysterau a phrofiad ar gyfer cael eich derbyn i gwrs (mae telerau ac amodau derbyn yn gymwys) – mae lle i chi os dymunwch.
Dewis cadarn – yn golygu cynnig rydych yn ei dderbyn fel eich dewis cyntaf.
Dewis yswiriant - yn golygu cynnig rydych yn ei dderbyn fel eich ail ddewis – rhag ofn nad ydych yn bodloni amodau eich cynnig cadarn. Mae cyfyngiadau'n berthnasol, fel y nodir ym mhwynt 16 uchod.
Gofynion derbyn – yn golygu gofynion darparwr y cwrs i gael eich derbyn i astudio ar gwrs o'ch dewis, gall hyn gynnwys cymwysterau a phynciau neu raddau penodol, cyfweliadau, profion derbyn, a gofynion meddygol. Fodd bynnag, nid oes sicrwydd y cewch gynnig os ydych yn cwrdd â'r gofynion hyn neu eisoes wedi bodloni'r gofynion hyn.
Gohirio – yn golygu yr hoffech gario cynnig ymlaen i ddechrau ar eich cwrs yn y flwyddyn academaidd nesaf. Rhaid i gynigion fod yn ddiamod cyn 31 Awst 2026, fel arall, ni ellir cadarnhau gohiriad.
Graddau a ragwelir – yn golygu’r graddau mae athro, tiwtor, neu gynghorydd arall sy'n gymwys i wneud sylw ar addasrwydd academaidd myfyriwr yn credu y bydd yn eu cyflawni pan fydd yn cwblhau ei gymhwyster uwchradd.
UWCHRADDIWCH EICH CYNNIG
Cefnogi eich llwybr i'r brifysgol, lleddfu ansicrwydd, a chadw ffocws i chi wrth i chi symud ymlaen yn eich astudiaethau.
Uwchraddiwch eich cynnig