Paratoi ar gyfer Bywyd Myfyriwr

Gyda’r camau cywir cyn i chi gyrraedd, gall setlo i mewn i’r brifysgol fod yn llyfn ac yn ddi-straen. Dilynwch ein hawgrymiadau i fanteisio i’r eithaf ar eich wythnosau cyntaf yn PDC.

Ein cyngor
Three students are sat together outside a cafe with drinks. There is a park with lots of greenery behind them.

Darganfyddwch fwy am y cymorth sydd ar gael

Os ydych chi’n dechrau yn y brifysgol gyda chyflwr iechyd hirdymor neu anabledd - boed yn gorfforol, yn synhwyraidd, yn ymwneud ag iechyd meddwl, anhawster dysgu penodol fel dyslecsia, neu awtistiaeth - rydym ni yma i helpu. Mae gan PDC wasanaethau cymorth pwrpasol ar gael i bob myfyriwr. Os nad ydych yn siŵr a ydych yn gymwys, neu os oes gennych gwestiynau, peidiwch ag oedi i gysylltu â’r Gwasanaeth Anabledd. Maen nhw’n fwy na pharod i drafod pethau gyda chi.

Gwasanaeth Cymorth i Fyfyrwyr

Gwnewch gais am Gyllid Myfyrwyr

Os nad ydych yn gymwys i dderbyn Cyllid Myfyrwyr, sicrhewch eich bod wedi cyflwyno eich cais i’r corff cyllido cywir ac wedi anfon unrhyw ddogfennau y maen nhw wedi gofyn amdanynt. Mae’n syniad da gwneud cais cyn gynted â phosib fel bod digon o amser i brosesu popeth.

Gall rheoli’ch arian deimlo’n llethol, yn enwedig os mai dyma’r tro cyntaf i chi reoli’ch cyllid eich hun, ond gall llunio cyllideb a dewi cyfrif banc myfyriwr da wneud gwahaniaeth mawr. Peidiwch ag anghofio edrych ar ein cymorth costau byw am awgrymiadau ac arweiniad ychwanegol!

Cymorth Costau Byw

Cadarnhewch eich llety

Byddwch yn derbyn ffurflen gais am lety drwy e-bost unwaith y bydd eich lle yn PDC wedi’i gadarnhau fel un diamod sicr ac rydych yn gymwys i gofrestru ar eich cwrs. 

Os ydych yn fyfyriwr rhyngwladol, peidiwch ag anghofio y bydd angen cais fisa dilys arnoch hefyd. 

Os ydych wedi cadarnhau’ch llety ac yn edrych ymlaen at symud i mewn, rydyn ni wedi llunio rhestr wirio gyflym o’r pethau bydd angen i chi ddod gyda chi – gyda’r gobaith na fyddwch yn anghofio unrhyw beth pwysig gartref! 

Rhestr Wirio Pacio

Gwiriwch eich brechiadau

Mae bod yn gyfredol gyda’ch holl frechiadau yn bwysig i bawb, ond yn enwedig os ydych chi’n fyfyriwr sy’n dechrau yn y brifysgol, gan y byddwch yn cyfarfod, cymysgu ac yn byw gyda llawer o bobl newydd.

Rydyn ni’n argymell eich bod yn gwirio gyda’ch meddyg teulu cyn dechrau yn y brifysgol i weld a oes angen unrhyw frechiadau arnoch. 

Dylai pob myfyriwr newydd ym Mhrifysgol De Cymru gofrestru gyda Gwasanaeth Iechyd PDC ac a meddyg teulu lleol.

Gwasanaeth Iechyd PDC