Cymorth Ychwanegol

Mae'r Brifysgol yma i'ch cefnogi drwy gydol eich amser yma, boed angen cyngor arnoch ar gynnal iechyd a lles, rheoli eich arian, neu gynllunio eich camau nesaf. Beth bynnag sydd ar eich meddwl, mae cymorth ar gael.

An open day visitor getting money advice from a member of staff at an open day information fair.

P'un a ydych chi'n newydd i'r brifysgol neu'n dychwelyd am flwyddyn arall, mae'n bwysig sicrhau eich bod yn chwilio am gymorth pan fydd ei angen arnoch. 

Rydym wedi llunio ychydig o awgrymiadau cyflym a allai helpu i'ch cefnogi wrth inni fynd i mewn i'r flwyddyn academaidd newydd. 

  • Os ydych chi'n cael anawsterau yn y brifysgol, ceisiwch help ar unwaith. Mae yna ystod o Wasanaethau Cymorth i chi; gan gynnig cefnogaeth un i un a llawer o ganllawiau hunangymorth i chi eu harchwilio. 
  • Mae Prifysgol De Cymru yn cynnig Gwasanaethau Llesiant Meddwl a Chwnsela sy'n darparu cyngor a chefnogaeth i holl fyfyrwyr Prifysgol De Cymru. 
  • Mae PDC yn ymrwymedig i gynhwysiant i'w holl staff a myfyrwyr. Efallai yr hoffech chi archwilio ein Datganiad Polisi Cydraddoldeb ac Amrywiaeth i ddarganfod mwy am ein hymrwymiad.    
  • Peidiwch ag anghofio, gall eich Undeb Myfyrwyr helpu i sicrhau bod pryderon cyfunol myfyrwyr yn PDC yn cael eu clywed. Mae eich Swyddogion Gweithredol Undeb Myfyrwyr yn gyfrifol am sicrhau bod myfyrwyr yn teimlo eu bod yn cael eu cynrychioli ar faterion sy'n ymwneud ag iechyd meddwl, lles, a chydraddoldeb ac amrywiaeth. 

Lles a'ch dysgu 

Mae'n bwysig eich bod yn gallu dysgu i'ch llawn botensial yn ystod eich cyfnod yn y brifysgol. Ewch i Eich dysgu a’ch Lles i ddarganfod sut y gallwch fagu’r gallu o fod yn ddysgwr gweithredol wrth astudio, dysgu am yr heriau sy'n effeithio ar fyfyrwyr, a ble i fynd os oes angen cymorth arnoch 

Mae'r Gwasanaeth Anabledd yn darparu gwybodaeth, cyngor ac arweiniad i, ac yn cydlynu cymorth ar gyfer, myfyrwyr PDC anabl. Mae hyn yn cynnwys myfyrwyr ag anableddau corfforol, synhwyraidd, iechyd meddwl neu anweledig, anawsterau dysgu penodol (e.e. dyslecsia) ac awtistiaeth. 

Os oes gennych anabledd ac angen cymorth yn ystod eich astudiaethau, cysylltwch â'r Tîm Cyngor ar Anabledd.

Gall rheoli eich arian yn y Brifysgol fod yn her. Mae'r Tîm Cyngor Ariannol i Fyfyrwyr yn darparu cyngor a gwybodaeth i'ch helpu i wneud penderfyniadau gwybodus am eich sefyllfa gyllido ac ariannol. 

Eisiau gwybod mwy am fywyd myfyriwr, astudio cwrs penodol neu sut brofiad yw byw yn Ne Cymru, neu beth yn union mae PDC fel? Sgwrsiwch gyda'n llysgenhadon ar Unibuddy, sydd wedi profi'r cyfan y mae gan PDC i'w gynnig.