Cymorth Astudio a Dysgu

Mae’r Gwasanaeth Datblygu Dysgwyr (LDS) wedi ymrwymo i wella eich sgiliau astudio academaidd, fel eich bod yn teimlo’n fwy hyderus ac yn cael y gorau o’ch astudiaeth tra eich bod yn PDC.

Dewch i gael y dechrau gorau
Students studying on a laptop and talking.

Mae sgiliau astudio academaidd yn dechnegau hanfodol i’ch helpu i ddysgu’n effeithiol a chyflawni eich canlyniadau gorau. Boed yn ysgrifennu, ymchwilio, cyfeirnodi neu reoli amser – dyna ein harbenigedd ni!


Mae’r Gwasanaeth Datblygu Dysgwyr (LDS) yma i gefnogi pob myfyriwr yn PDC – boed eich bod newydd ddechrau neu’n dychwelyd i astudio.

Gall ein tîm cyfeillgar o Arbenigwyr Datblygu Dysgwyr eich helpu i feithrin y sgiliau academaidd sydd eu hangen arnoch i lwyddo. Gallwch gael mynediad at gefnogaeth un-i-un neu fel rhan o grŵp (byddwch mewn cwmni da – mae miloedd o fyfyrwyr yn defnyddio’r gwasanaeth bob blwyddyn!)

Dilynwch ni ar Instagram i gael y wybodaeth mwyaf diweddar am ein gweithgareddau diweddaraf.

Angen cefnogaeth nawr? Anfonwch e-bost at y Tîm LDS

Gall dechrau yn y brifysgol deimlo braidd yn ormod. Dyna pam rydym yn cynnig y cyfle i chi siarad â chyd-fyfyriwr.

Gallwch alw heibio i lyfrgell eich campws a chael sgwrs gydag un o’n Mentoriaid Myfyrwyr cyfeillgar. Nhw yw’r myfyrwyr presennol sy’n deall sut beth yw ymgartrefu ym mywyd prifysgol, ac maent bob amser yn hapus i helpu.

Mae ein Mentoriaid Myfyrwyr hefyd yn Fentoriaid Digidol hyfforddedig, felly os ydych yn cael trafferth gydag apiau Blackboard neu PDC, maent yna i’ch cefnogi chi.

Os byddai’n well gennych gysylltu yn gyntaf, mae blwch post a rennir lle maent yn ateb ymholiadau yn gyflym a gallant drefnu amser cyfleus i chi gyfarfod. 

Cyflwynwch eich hun i Fentor Myfyrwyr

Cychwyn Arni

A student talking whilst sat at a table with a book in front of him.
Two students studying and smiling. One is on a laptop and one is writing notes on paper.

Astudio Nyrsio?

Mae cefnogaeth yn barod pan fydd ei hangen arnoch. Mae yna amrywiaeth o diwtorialau a gweithdai Meddyginiaeth Ddiogel i’ch helpu i feithrin eich hyder a’ch sgiliau.

Tiwtorialau Meddyginiaeth Ddiogel

Ffyrdd o ddysgu

Os ydych yn hoffi dysgu gydag eraill, gallwch fynychu sesiynau o fewn eich cwrs, archebu lle ar weminar neu ymuno â sesiynau grŵp rydym yn eu cyflwyno drwy gydol y flwyddyn.
Top view of group of students sitting together at table

Dysgu Grŵp

Os ydych yn hoffi dysgu gydag eraill, gallwch fynychu sesiynau o fewn eich cwrs, archebu lle ar weminar neu ymuno â sesiynau grŵp rydym yn eu cyflwyno drwy gydol y flwyddyn.

student sitting at a desk amongst the books at newport campus library

Dysgu ar eich cyflymder eich hun

Os yw’n well gennych ddysgu ar eich cyflymder eich hun, ewch i’n gwefan adnoddau hunangymorth i ddod o hyd i amrywiaeth o ganllawiau a deunyddiau ar-lein.

A staff mentor looking at a tablet that his colleague is holding

1-1

Ydy hi’n well gennych i siarad am bethau gyda rhywun? Gofyn cwestiynau am eich anghenion? Archebwch sesiwn gydag Arbenigwr Datblygu Dysgwyr.

A student smiling in the library with books and study spaces in the background.

CEFNOGAETH 24/7

Cewch gefnogaeth pryd bynnag sydd ei angen arnoch gyda’n cefnogaeth hunanwasanaeth sydd ar gael trwy’r dydd. Mynediad i ganllawiau cam wrth gam, fideos ‘sut i wneud’, cwestiynau cyffredin, ac offer rhyngweithiol a gynllu