Sut i gael a chasglu’ch cerdyn

Cerdyn Adnabod Myfyriwr

Fel myfyriwr newydd, un o’r pethau cyntaf y byddwch yn eu derbyn yw’ch Cerdyn Adnabod Myfyriwr, a fydd yn rhoi mynediad i gyfleusterau a gwasanaethau i chi.

Cael eich cerdyn adnabod myfyriwr
Students walking down a set of stairs from a campus building talking to each other.

Sut mae cael Cerdyn Adnabod Myfyriwr?

Ar ôl sefydlu eich cyfrif TG ac ymrestru ar-lein, byddwch yn cael Cerdyn Adnabod Smart Myfyriwr.

Byddwch yn cael cerdyn adnabod myfyriwr yn ystod blwyddyn gyntaf eich cwrs. Bydd eich cerdyn  adnabod yn ddilys drwy gydol hyd eich cwrs ac ni fydd yn cael eil ailgyhoeddi bob blwyddyn. Bydd y dyddiad dod i ben i’w weld ar y cerdyn. 

Beth mae Cerdyn Adnabod Myfyrwyr yn ei wneud?

Mae’r cerdyn amlbwrpas hwn yn gweithredu fel eich cerdyn adnabod Prifysgol, cerdyn llyfrgell cerdyn mynediad drysau, ac mae’n rhoi mynediad i lawer o wasanaethau a chyfleusterau’r brifysgol. 

Sut dylai’r llun ar fy ngherdyn adnabod edrych?

Dylai’ch llun ddangos lun-agos o’ch pen a’ch ysgwyddau’n llawn, yn edrych yn syth ymlaen. Rhaid iddo fod yn llun ohonoch chi’n unig, heb unrhyw wrthrych nac unigolion eraill. Rhaid i’r llun fod yn:

  • lliw llawn, wedi’i dynnu gyda chefndir hufen golau neu lwyd golau syml
  • dangoswch yn edrych ymlaen heb ddim yn gorchuddio’ch wyneb (e.e. llygaid heb eu gorchuddio gan sbectol haul, sbectol wedi’u tywyllu, fframiau sbectol nac gwallt)
  • diweddar (e.e. wedi’i dynnu o fewn y chwe mis diwethaf)
  • glir ac mewn ffocws
  • heb ei olygu gan feddalwedd gyfrifiadurol
  • wedi’i dynnu’n fertigol (portread, nid tirlun)
  • wedi’i gadw fel ffeil jpg, o fewn y terfyn uchaf o 200KB

Sut ydyw i’n casglu fy Ngherdyn Adnabod Myfyriwr?

Bydd cardiau adnabod myfyrwyr y gael o’r Ardal Gynghori ar y campysau ar ôl i chi ymrestru.

Bydd y cardiau adnabod ar gael o’r dydd Llun ar ôl dyddiad eich ymrestru. 

Dod o hyd i’r Ardal Gynghori ar eich campws

Cwestiynau Cyffredin

Rydyn ni wedi casglu atebion i’r cwestiynau mae myfyrwyr yn eu gofyn amlaf, fel y gallwch deimlo’n hyderus wrth gasglu’ch cerdyn.

Oes, bydd angen eich cerdyn adnabod myfyriwr arnoch i fenthyca llyfrau o'r llyfrgell.

Na, gallwch lawrlwytho llythyr statws myfyriwr ar eich cyfrif Unilife fel prawf o'ch hastudiaethau yn y Brifysgol

Cewch, casglwch eich cerdyn o'r campws lle rydych chi'n byw. Mae lleoliadau dosbarthu'r campws wedi'u rhestru uchod.

Nid yw'r gwasanaeth hwn yn cael ei ddarparu. Mae cardiau adnabod yn cael eu dosbarthu ar y campws i fyfyrwyr sy'n mynychu gweithgaredd addysgu a drefnwyd.

Os ydych wedi colli eich cerdyn adnabod, gallwch archebu derbynneb o siop ar-lein y Brifysgol am £5, a byddwch yn derbyn derbynneb drwy e-bost. Gellir casglu cardiau o'r Ardal Gynghori ar eich campws. Bydd angen i chi fynd â'r rhif derbynneb 4 digid i'r Ardal Gynghori i allu casglu eich cerdyn newydd.

MYFYRWYR SY’N DYCHWELYD

Os ydych yn dychwelyd i’r Brifysgol i barhau â’ch astudiaethau eleni, mae’r cerdyn adnabod a gyhoeddwyd i chi yn y flwyddyn gyntaf o’ch cwrs yn ddilys tan y dyddiad dod i ben sydd wedi’i nodi ar y cerdyn. Os ydych yn credu bod y dyddiad dod i ben yn anghywir neu ei fod angen ei estyn, cysylltwch â’ch Ardal Gynghori.

Cysylltu â’r Ardal Gynghori