Sefydlu’ch Cyfrif TG
Cyn i chi allu cael mynediad at wasanaethau allweddol fel e-byst a gwybodaeth am eich amserlen, bydd angen i chi sefydlu’ch cyfrif TG myfyriwr.
Sefydlu’ch Cyfrif
Sut i sefydlu’ch cyfrif TG
Cyn i chi allu cwblhau’ch cofrestriad a chael mynediad at wasanaethau’r brifysgol, mae angen i chi sefydlu’ch cyfrif TG PDC. Mae hwn yn broses un-amser sy’n agor mynediad at systemau allweddol, gan gynnwys eich e-bost, apiau Microsoft, apwyntiadau, a chynnwys y cwrs.
Bydd angen i chi ddefnyddio’ch cyfeiriad e-bost a’r cyfrinair dros dro a roddwyd yn eich e-bost cofrestru. Y tro cyntaf i chi fewngofnodi i’ch cyfrif TG neu unrhyw ap Microsoft (fel Outlook neu Teams), bydd y broses sefydlu un-amser yn cychwyn yn awtomatig. Dilynwch y cyfarwyddiadau ar y sgrin.
Gofynion cyfrinair
I helpu i ddiogelu’ch cyfrif a data’r brifysgol, mae’n rhaid i’ch cyfrinair:
- Fod yn 16 nod o hyd
- Gynnwys llythrennau mawr a bach a bod o leiaf un nod rhifol
- Peidio â bod yn gyfrinair cyfrif prifysgol ddiweddar
Unwaith y bydd y sefydlu wedi’i gwblhau, byddwch yn barod i symud ymlaen i’r broses Cofrestru Ar-lein.
actifadu eich cyfrifAr ôl sefydlu’ch cyfrif TG
Unwaith y byddwch wedi actifadu’ch cyfrif TG yn y brifysgol, defnyddiwch eich manylion cyfrif newydd i fewngofnodi i’ch proffil myfyriwr. O’r fan honno, bydd angen i chi lwytho’ch gwybodaeth bersonol a llun ar gyfer eich cerdyn myfyriwr. Bydd hefyd angen i chi gwblhau holiadur byr a derbyn ein Telerau ac Amodau i orffen y broses sefydlu.
Ar ôl i chi gwblhau’r broses gofrestru, byddwch yn gallu casglu eich cerdyn myfyriwr. Efallai y bydd angen i chi hefyd drefnu eich taliadau ffi dysgu. I sefydlu’ch taliadau ffi dysgu, ewch i’r Canolfan Taliadau am fanylion llawn a chanllawiau.
Cwblhau gofrestruCwestiynau Cyffredin
Rydym wedi casglu atebion i’r cwestiynau y mae myfyrwyr yn eu gofyn yn amlach, fel y gallwch deimlo’n hyderus wrth sefydlu’ch cyfrif Prifysgol.
Ailosodwch eich cyfrinair drwy'r Hunanwasanaeth Ailosod Cyfrinair (SSPR). Bwriedir hwn ar gyfer defnydd staff a myfyrwyr. Sylwch fod yn rhaid i chi fod wedi cwblhau Sefydlu eich Cyfrif er mwyn defnyddio'r broses ailosod hon.
I ailosod eich cyfrinair ewch i: https://passwordreset.microsoftonline.com/?whr=southwales.ac.uk
Wrth ddefnyddio systemau a dyfeisiau'r Brifysgol, chi sy'n gyfrifol am bopeth sy'n digwydd tra byddwch wedi mewngofnodi. Mae hynny'n golygu na ddylech adael cyfrifiadur personol wedi'i fewngofnodi wrth adael y ddesg. Mae hefyd yn golygu bod yn rhaid i chi ddewis cyfrineiriau diogel a'u newid yn rheolaidd.
Dyma ychydig o gyngor da ar y pethau i'w gwneud a'r pethau na ddylid eu gwneud o ran dewis cyfrinair.
Y pethau i’w gwneud
- Argymhellir eich bod yn defnyddio ymadroddion cofiadwy i'ch helpu i gofio'ch cyfrinair. Er enghraifft, mae “Enw morwynol fy mam yw Zebedee mae hi’n 91” yn cynhyrchu “EmfmyZmh91” (Sylwer: Ni ddylid defnyddio’r enghraifft ddilys hon, mae er gwybodaeth yn unig.)
- Argymhellir defnyddio o leiaf dau rif mewn cyfrinair
- Pan fyddwch yn newid eich cyfrinair cydnabyddir y gall hyn gael ei wneud ar frys a'ch arwain at ddewis cyfrineiriau ansicr. Awgrymir bod defnyddio ymadrodd cofiadwy gyda rhifau yn eich galluogi i newid un elfen e.e. y rhif, gan gadw gweddill y cyfrinair yn gyfan a'i wneud yn symlach i'w gofio. Dylech nodi bod y dull hwn ychydig yn llai sicr na dewis ymadrodd cofiadwy hollol wahanol.
Y pethau na ddylid eu gwneud
- Peidiwch â defnyddio geiriau o’r geiriadur
- Peidiwch â defnyddio amnewidiadau o eiriau a rhifau o’r geiriadur
- Peidiwch â defnyddio enwau sy'n gysylltiedig â'ch amgylchiadau
- Peidiwch byth ag ysgrifennu eich cyfrinair ar bapur
- Peidiwch â dewis ymadroddion adnabyddus ar gyfer eich ymadrodd cofiadwy
Mae Dilysu Aml-Ffactor (MFA) yn cryfhau diogelwch mewngofnodi trwy ofyn am ail ddarn o wybodaeth ar ben eich cyfrinair. Mae hwn fel arfer yn god dros dro a anfonir i'ch dyfais, sy'n cael ei nodi wedyn pan fyddwch yn mewngofnodi i gadarnhau mai chi yw'r person sy'n mewngofnodi.
Mae'r rhan fwyaf o gyfrifon banc, e-bost a chyfryngau cymdeithasol ar-lein bellach yn cynnig Dilysiad Aml-Ffactor fel amddiffyniad ychwanegol ar gyfer eich cyfrifon a diogelwch data.
Mae'r weithdrefn sefydlu yn cynnwys ychwanegu dau o'r canlynol: eich rhif ffôn symudol, cyfeiriad e-bost personol neu gwblhau set o gwestiynau diogelwch.
Gellir cwblhau’r broses sefydlu MFA ar unrhyw ddyfais ond argymhellwn eich bod yn defnyddio naill ai ap Microsoft Authentication neu Google Authenticator, sydd i'w gael yn eich siop apiau symudol.
Gwyliwch y fideo: Diweddaru eich Dilysiad Aml-Ffactor (MFA)
Cyn cael gwared ar eich hen ffôn, bydd angen i chi ei ddefnyddio i ddilysu mynediad i'ch Tudalen diogelwch Microsoft.
Ynghyd â phrifysgolion eraill, rydym wedi sylwi ar fygythiad cynyddol gan ymdrechion gwe-rwydo ac ymosodiadau seiber. Mae cyflwyno MFA yn rhan o fenter i fynd i’r afael â’r materion hyn ac i’ch helpu i ddiogelu mynediad i’ch cyfrifon a data.
Oes, rydym yn eich cynghori i newid eich trefniant MFA a derbyn eich cod drwy ap Microsoft Authenticator, o leiaf am y cyfnod o amser rydych i ffwrdd.
Oes. Dilynwch y broses a argymhellir gennym i sefydlu MFA gan ddefnyddio ap Microsoft Authenticator. Yn lle dewis 'defnyddio cod dilysu’ (use verification code), dewiswch 'derbyn hysbysiadau ar gyfer dilysu’ (receive notifications for verification). Y cyfan sy'n rhaid i chi ei wneud yw tapio 'cymeradwyo' (approve) pan ddaw'r cais dilysu drwodd i'ch ap, yn hytrach na theipio cod.
ANGEN MWY O HELP?
Os ydych chi’n cael trafferth gydag unrhyw gam yn y broses sefydlu, gallwch gysylltu â Gwasanaeth TG y Brifysgol am gyngor pellach.
Cymorth TG