Sbardunwch eich gyrfa gyfreithiol gyda’r cwrs hyblyg hwn sy’n cynnig profiad cyfreithiol go iawn i fyfyrwyr sydd wedi cwblhau blwyddyn o addysg uwch.
Os ydych chi'n angerddol am y system cyfiawnder troseddol neu'n awyddus i archwilio cyfraith droseddol, mae'r cwrs hwn yn ddelfrydol i chi. Yn canolbwyntio ar gyfiawnder troseddol a throseddeg, mae'n cyfuno arbenigedd cyfreithiol gyda ffocws ar gyfraith droseddol a chyfiawnder, gan eich paratoi ar gyfer gyrfa yn y maes cyfreithiol. Gan gynnig gradd LLB gynhwysfawr yn y gyfraith, mae'r rhaglen hon yn pwysleisio Cyfiawnder Troseddol a Throseddeg i roi'r wybodaeth a'r sgiliau arbenigol sydd eu hangen arnoch i lwyddo yn y system gyfreithiol.
Byddwch yn ymgysylltu â themâu cyfreithiol go iawn, o gyfiawnder troseddol i ymarfer proffesiynol, trwy weithgareddau ymarferol a myfyrio. Mae dysgu wedi'i lunio o amgylch trafodaeth, tasgau cymhwysol a gwaith tîm, gan eich helpu i feddwl yn feirniadol, cyfathrebu'n effeithiol a chryfhau eich dealltwriaeth o'r gyfraith. Mae'r sylfaen hon yn eich paratoi ar gyfer yr LLB a chyfleoedd cyfreithiol yn y dyfodol gyda chwilfrydedd a phwrpas.
Lluniwyd y cwrs hwn i roi’r sgiliau i fyfyrwyr er mwyn iddynt allu darparu’r gofal mwyaf effeithiol a’r ymarfer mwyaf cyfredol â phosibl, gan eu galluogi i gymhwyso a gwneud cais i gofrestru fel Ymarferydd Adran Lawdriniaeth gyda Chyngor y Proffesiynau Iechyd a Gofal (HCPC).
LLM a gymeradwywyd gan Awdurdod Rheoleiddio Cyfreithwyr (ARC) sy’n cwmpasu cyfraith busnes ac eiddo, ymgyfreitha, gweithdrefn llys ac ymchwil – sy’n eich arfogi a’r sgiliau a’r wybodaeth i gymhwyso fel cyfreithiwr.
Mae'r cwrs wedi'i gynllunio i roi profiad i chi o ddefnyddio strategaethau asesu ac ymyrryd yn y maes dadansoddi ymddygiad mewn ffordd foesegol ar draws ystod o leoliadau a phoblogaethau.
Datblygwyd y cwrs hwn i adlewyrchu'r lefelau uwch o wybodaeth a sgiliau sydd eu hangen i ddod yn Rhagnodwr Annibynnol. Hanfod y cwrs hwn yw y bydd fferyllwyr, bydwragedd, nyrsys, parafeddygon a ffisiotherapyddion yn cael eu haddysgu ochr yn ochr â'i gilydd a'u hasesu gan ddefnyddio'r un meini prawf asesu.
Mae'r cwrs MSc Ymarfer Proffesiynol yn canolbwyntio ar y datblygiad proffesiynol sy'n angenrheidiol ar gyfer ymarfer a rolau arwain lefel uwch. Ar ôl cwblhau'r cwrs yn llwyddiannus, byddwch wedi ennill cymhwyster a gydnabyddir yn rhyngwladol sydd wedi'i gynllunio i baratoi gweithwyr gofal iechyd proffesiynol, a gweithwyr proffesiynol yn y sector iechyd a gofal cymdeithasol, i ennill swyddi o fewn gwasanaethau cymdeithasol ac iechyd yn fyd-eang.
Mae’r llwybr Ymarfer Proffesiynol LLM gyda’r Arholiad Cymhwyso i Gyfreithwyr (SQE) yn cynnig cyfle i chi baratoi ar gyfer SQE1, cael cyflwyniad i sgiliau cyfreithiol SQE2 a chael rhywfaint o Brofiad Gwaith Cymwys (QWE). Yn ystod y broses hon, byddwch yn ennill cymhwyster LLM a gydnabyddir yn rhyngwladol.
Bydd yr MSc Ymarferydd Clinigol Uwch yn rhoi cyfle i chi ddatblygu eich sgiliau ar lefel uwch, a thrwy hynny fodloni'r gofynion a bennir gan yr Asiantaeth Arweinyddiaeth ac Arloesi Genedlaethol ar gyfer Gofal Iechyd (NLIAH).
Yr unig ffordd o ennill y set sgiliau eang a deinamig sydd ei hangen i ddatrys troseddau yw trwy brofiad ymarferol. Mae ein BSc Ymchwiliad Fforensig yn eich paratoi ar gyfer gweithredu yn y byd archwilio safleoedd troseddau, wrth i chi ymchwilio i safleoedd troseddau efelychiadol, defnyddio offer labordy o safon diwydiant a rhoi tystiolaeth fel tyst arbenigol.
Dewch i ddysgu am ymchwiliadau fforensig yn y byd go iawn trwy ddulliau addysgu ymdrochol ac arbenigol, a phrofiad ymarferol.
Byddwch yn meithrin dealltwriaeth gref o'r system cyfiawnder troseddol a'r cyfreithiau sy'n ei llunio. Byddwch yn dysgu sut mae tystiolaeth yn cael ei harchwilio a'i herio, gan ddatblygu'r sgiliau i feddwl yn glir, cwestiynu rhagdybiaethau, a gwneud penderfyniadau cyfrifol mewn sefyllfaoedd go iawn, gyda gwyddoniaeth yn cael ei defnyddio fel offeryn ymarferol ar hyd y ffordd.
Mae’r radd Meistr mewn Ynni Adnewyddadwy wedi’i lleoli yng Nghanolfan Ymchwil Amgylchedd Cynaliadwy (SERC) PDC - canolfan flaenllaw a gydnabyddir yn rhyngwladol ers dros 30 mlynedd. Mae SERC hefyd yn gartref i Ganolfan Ragoriaeth Cymru ar gyfer Treulio Anaerobig a Chanolfan Ymchwil ac Arddangos Hydrogen Adnewyddadwy Prifysgol De Cymru.