Adsefydlu Chwaraeon ac Ymarfer Corff
Drwy gyfuno arbenigedd meddygol gyda’r amgylchedd chwaraeon ac ymarfer corff, mae’r cwrs hwn yn cynnig i’r egin Therapydd Chwaraeon ac Ymarfer Corff, y cyfartaledd perffaith o theori a phrofiad ymarferol.
Sut i wneud cais Archebu lle ar Ddiwrnod Agored Sgwrsio gyda ni
Côd UCAS
Dyddiad Cychwyn
Medi 2027
Lleoliad
Pontypridd
Côd y Campws
A
Côd UCAS
Dyddiad Cychwyn
Medi 2026
Lleoliad
Pontypridd
Côd y Campws
A
Trosolwg o'r Cwrs
Paratowch i weithio yn y diwydiannau meddygol, perfformiad, chwaraeon ac ymarfer corff gyda gradd achrededig yng Nghampws unigryw'r Parc Chwarae. Dysgwch sut i benderfynu a thrin anafiadau, gweithio’n uniongyrchol gydag athletwyr, cyn gadael gyda gwobrau galwedigaethol drwy gydol eich gradd.
Wedi'i hanelu at fyfyrwyr sydd â diddordeb mewn gweithio gydag anafiadau chwaraeon ac ymarfer corff, mae'r radd hon yn cynnig ymagwedd gyfannol at reoli anafiadau cyhyrysgerbydol. Enillwch brofiad ymarferol trwy leoliadau gwaith o fewn y diwydiant i roi'r cychwyn gorau i'ch gyrfa ac i atgyfnerthu eich addysg.
Pam astudio'r cwrs hwn?
Beth fyddwch chi'n ei astudio
Byddwch yn cychwyn eich astudiaethau clinigol gyda chymorth cyntaf wrth ochr y cae a gwybodaeth sylfaenol cymorth cyntaf achub bywydau, anatomeg weithredol, sgrinio a thechnegau meinwe.
Byddwch yn ennill profiad drwy weithio yn nhimau chwaraeon ein prifysgol a thrwy ein clinig tyliniad chwaraeon poblogaidd.
Dysgwch sut i asesu ystod symudiad, profi cryfder cyhyr, archwilio nodweddion anatomegol a datblygu gwybodaeth ymarferol o anatomeg cyhyrysgerbydol a phatholeg.
Dysgwch am theori sgrinio symudiad, atal anafiadau chwaraeon a dulliau adfer. Datblygwch sgiliau cymorth cyntaf sylfaenol a sut i reoli anafiadau meinwe meddal.
Datblygwch iaith anatomeg a dwysewch eich dealltwriaeth o anatomeg cyhyrysgerbydol dynol, rhywbeth sy’n angenrheidiol ar gyfer ffisioleg ymarfer corff a biomecaneg.
Mae’r uned hon ar gael i’w hastudio’n gyfan gwbl drwy gyfrwng y Gymraeg.
Plymiwch yn ddwfn i feysydd mesur, adfer data, dadansoddi a denhongli, asesiad iechyd a ffitrwydd a phresgripsiwn ymarfer corff.
Enillwch yr arbenigedd i ddylunio, cyflawni ac asesu rhaglenni ymarfer corff i boblogaethau iach sy’n seiliedig ar y gampfa. Arweinir yr uned hon at dystysgrifau Hyfforddwr Campfa CIMPSA Lefel 2 a Hyfforddwr Personol Lefel 3.
Ymgyfarwyddwch â safbwynt y claf parthed anafiadau chwaraeon cyhyrysgerbydol, drwy ddatblygu empathi a sgiliau gwaith tîm o fewn lleoliad amlddisgyblaethol.
Ar lefel pump byddwch yn dysgu sut i asesu a phenderfynu ar anafiadau i’r asgwrn cefn a’r cymalau ymylol, byddwch yn defnyddio sawl dull o wella er mwyn lleihau’r boen a gwella ystod y symudiad a'r gweithrediad.
Erbyn diwedd eich ail flwyddyn byddwch yn gymwys mewn adfer o’r cyfnod cynnar i’r cyfnod canolig.
Meistrolwch asesiadau clinigol. Dadansoddwch ddarganfyddiadau drwy ddefnyddio dulliau gwrthrychol a goddrychol, profion cyhyrysgerbydol arbenigol ac asesiadau gweithredol.
Cynyddwch eich gwybodaeth o driniaethau diogel ac effeithiol ar gyfer anafiadau cyhyrysgerbydol. Dysgwch therapi llaw ar gyfer materion sy’n ymwneud â’r cymalau, technegau datblygedig ar gyfer meinwe meddal a thechnegau nerfol.
Datblygwch ddealltwriaeth o dechnegau adfer cynnar a chanolradd ar gyfer anafiadau cyhyrysgerbydol cyffredin. Mae’r pynciau’n cynnwys mecanwaith meinwe, cromlin pwysedd-straen, a dewis/ rhoi presgripsiwn ymarfer corff.
Archwiliwch y cydadwaith rhwng ymarfer corff a’r system gardiofasgwlaidd. Enillwch ddealltwriaeth o fesuriadau ffisioleg gardiofasgwlaidd a medrusrwydd wrth eu perfformio.
Mae’r uned hon ar gael i’w hastudio’n gyfan gwbl drwy gyfrwng y Gymraeg.
Ehangwch eich sgiliau ymchwil drwy ymledu’ch dealltwriaeth o ddulliau ansoddol a meintiol. Dwysewch eich gwerthfawrogiad o amryw ddulliau ymchwil.
Datblygwch ddealltwriaeth o anafiadau chwaraeon ac ymarferol a’r elfennau biomecanyddol i symudiad ar gyfer cinemateg a chineteg esgyrnog.
Dewch i ddeall y materion ffisiolegol a meddygol sy’n effeithio ar ymarfer corff poblogaethau arbennig. Dyluniwch ac aseswch raglenni ymarfer corff personol ar gyfer amrywiol anghenion.
Bydd gofyn eich bod yn cwblhau prosiect ymchwil annibynnol yn ogystal ag ystod o leoliadau gwaith er mwyn ennill profiad gwerthfawr o fewn y diwydiant.
hangwch eich gwybodaeth adfer a datblygwch eich sgiliau rheoli trawma chwaraeon. Byddwch yn cyfuno astudiaeth glinigol gydag unedau sydd wedi eu cymeradwyo gan BASES er mwyn datblygu sgiliau eang a throsglwyddadwy.
Enillwch 250 o oriau o ymarfer clinigol dan oruchwyliaeth. Aseswch gryfderau, cynlluniwch eich gyrfa, paratowch ar gyfer ffurflenni cais a chyfweliadau, datblygwch i fod yn ymarferydd annibynnol.
Dysgwch sut i ymateb i anafiadau chwaraeon sy’n beryg bywyd. Astudiwch gefnogaeth bywyd ar gyfer trawma uwch, symudiadau’r llwybrau anadlu, rheoli gwaedu, asesiadau anafiadau i’r asgwrn cefn a chynllunio sut i weithredu mewn argyfwng.
Rhowch hwb i’ch sgiliau ymarferol o fewn y maes adfer cyfnod hwyrach a dewch i ddeall sut i wneud penderfyniadau gwrthrychol o ran dychwelyd i chwarae. Byddwch yn canolbwyntio ar roi cyfarwyddiadau i unigolion a chwaraewyr tîm ynghylch ymarferion cyflymdra, cyflymiad ac ymarferion plyometrig yn ogystal â strategaethau i atal anafiadau.
Bydd gennych y rhyddid i ddylunio a chynnal astudiaeth annibynnol a gwerthuso’n feirniadol data a thestunau gwyddonol.
Archwiliwch y berthynas rhwng ymarfer corff a’r system gardiofasgwlaidd. Enillwch ddealltwriaeth o fesuriadau ffisioleg gardiofasgwlaidd a medrusrwydd wrth eu perfformio.
Dysgwch sut mae deddfau Newton yn berthnasol i ginemateg a chineteg onglog, mecaneg ac energeteg cerdded a rhedeg. Datblygwch eich sgiliau dadansoddol gan ddefnyddio meddalwedd Biomecaneg Quintic.
Dysgwch y wybodaeth wyddonol hanfodol er mwyn darparu rhaglenni cryfhau a chyflyru effeithiol.
Rydym yn adolygu ein cyrsiau'n rheolaidd i gadw i fyny â sgiliau newidiol ac anghenion cyflogwyr. Os bydd adolygiad yn arwain at newidiadau sylweddol, byddwn yn cysylltu â chi i esbonio beth sy'n newid ar gyfer y flwyddyn nesaf.
Addysgu ac Asesu
Gyda chefnogaeth staff profiadol a Thiwtor Sgiliau Clinigol ymroddedig, byddwch yn gweithio gyda chleifion go iawn, gan eich helpu i ddatblygu a dangos tystiolaeth o'r cymwyseddau sydd eu hangen i ddod yn therapydd chwaraeon graddedig.
Byddwch yn cael eich asesu trwy gyfuniad o ddulliau ymarferol a damcaniaethol a gynlluniwyd i adlewyrchu ymarfer yn y byd go iawn. Mae hyn yn cynnwys arholiadau ymarferol i ddangos sgiliau clinigol, ochr yn ochr ag arholiadau ysgrifenedig, gwaith cwrs, portffolios a chyflwyniadau.
Yn eich blwyddyn olaf, byddwch yn cwblhau 250 awr o leoliad, naill ai'n fewnol neu'n allanol. Drwy gydol y cwrs, bydd gennych gyfleoedd rheolaidd i adeiladu oriau lleoliad trwy glinig tylino chwaraeon ac anafiadau'r brifysgol, yn ogystal â chefnogi ar ochr y cae mewn digwyddiadau allanol.
Mae lleoliadau gwaith yn ganolig i bob lefel o’r cwrs gradd hwn. Ar lefel 4, byddwch yn cefnogi timau chwaraeon y brifysgol fel person cymorth cyntaf ar ochr y cae a byddwch yn ymarfer eich sgiliau newydd yn ein clinigau tylino. Byddwch yn ennill profiad gwerthfawr ar leoliadau gwaith gyda’n partneriaid ar lefel 5 a 6 a bydd therapyddion profiadol yn eich goruchwylio. Mae cyfleoedd ychwanegol wedi cynnwys gweithio mewn digwyddiadau megis taith feicio Llundain i Baris, gyda’r holl gostau wedi eu talu amdanynt. Mae profiad ein staff gyda chwaraeon proffesiynol a lled-broffesiynol a chwaraeon rhyngwladol a chlybiau proffesiynol eraill yn darparu cysylltiadau gwerthfawr o fewn y diwydiant.
Mae gradd Therapi Chwaraeon ac Ymarfer Corff PDC yn cynnwys cyfleusterau o’r radd flaenaf sydd wedi’u cymeradwyo gan BASES, ym Mharc Chwaraeon Trefforest. Mae’r rhain yn cynnwys cae 3G dan do o safon FIFA gyda thracio GPS, mannau addysgu clinigol, offer adsefydlu a phrofi uwch, ynghyd â chaeau chwarae pob tywydd a glaswellt a ddefnyddir gan dimau lleol a phroffesiynol.
Cyngor Derbyn
Rydym yma i helpu. P'un a oes gennych gwestiwn am eich cwrs, ffioedd a chyllid, y broses ymgeisio neu unrhyw beth arall, mae digon o ffyrdd y gallwch gysylltu, a byddem wrth ein bodd yn siarad â chi. Gallwch gysylltu â'n tîm mynediadau cyfeillgar dros y ffôn, e-bost neu sgwrsio â ni ar-lein.
-
Adsefydlu Chwaraeon ac Ymarfer Corff
-
Llawn Amser, 3 blynedd
-
Medi
-
Pontypridd
-
-
Adsefydlu Chwaraeon ac Ymarfer Corff
-
Llawn Amser, 3 blynedd
-
Medi
-
Pontypridd
-
Straeon ac uchafbwyntiau cysylltiedig
Erthygl Newyddion