Gofal Critigol
Pan fydd ymarferwyr gofal iechyd yn fwy gwybodus, gallant herio arfer er mwyn datblygu gofal cleifion. Bydd y cwrs yn galluogi myfyrwyr i dyfu a datblygu fel ymarferwyr ymholgar ac ymreolaethol.
Sut i wneud cais Archebu Lle ar Diwrnod Agored Sgwrsio â Ni
Manylion Cwrs Allweddol
-
Dyddiad Cychwyn
Medi
-
Lleoliad
Pontypridd
-
Côd y Campws
A
Ffioedd
Myfyrwyr cartref
£804*
- Mae'r ffioedd amser llawn fesul blwyddyn. Mae'r ffioedd rhan-amser fesul 20 credyd.
Bydd y cwrs yn rhoi cyfle i weithwyr gofal iechyd proffesiynol fod yn ymarferwyr blaengar sy'n meddu ar y gallu i ddefnyddio arfer cyfredol sy'n seiliedig ar dystiolaeth a datrys problemau mewn modd mwy ymreolaethol.
CYNLLUNIWYD AR GYFER
Datblygu eich gwybodaeth a’ch dealltwriaeth a’ch gallu i ddangos cymhwysiad a chymhwysedd clinigol, a fydd yn cael ei ddangos trwy gymwyseddau Camau Gofal Critigol 2 a chymwyseddau Camau Gofal Critigol 3.
Sgiliau a addysgir
- Hyblygrwydd
- Addasrwydd
- Empathi
- Trefniadaeth a rheoli amser
Trosolwg o’r Modiwl
Bydd cynnwys y cwrs yn cynnwys cymhwyso ystod o enghreifftiau go iawn (senarios) y byddai'r myfyriwr yn debygol o ddod ar eu traws wrth weithio ym maes gofal critigol. Bydd y rhain yn amrywio o syml i gymhleth er mwyn adlewyrchu'r math o senarios y bydd y myfyrwyr yn dod ar eu traws yn ymarferol. Bydd y rhain yn cynnwys materion moesol, cyfreithiol, moesegol a phroffesiynol, yn ogystal â thrafod yr ystodau gwahanol o ymyriadau therapiwtig y gall fod eu hangen ar gyfer prosesau cyflwr/clefyd penodol.
Mae dadansoddi a datrys problemau wedi'u hintegreiddio drwy'r 3 modiwl oherwydd natur ddeinamig gofal critigol. Bydd asesiadau modiwl yn galluogi myfyrwyr i ddewis pynciau sy'n berthnasol i'w maes diddordeb personol eu hunain i'w helpu i ddatblygu eu gwybodaeth a'u dealltwriaeth a'u gallu i ddangos cymhwysiad a chymhwysedd clinigol i'w weld trwy gymwyseddau Camau Gofal Critigol 2 a chymwyseddau Camau Gofal Critigol 3 sydd wedi'u hymgorffori ym Modiwl 1 a 2.
Gwyddoniaeth gymhwysol i asesu claf difrifol wael
Nod y modiwl hwn yw galluogi myfyrwyr i archwilio'r effaith y mae afiechyd yn ei gael ar y claf difrifol wael trwy archwilio a dadansoddi'n feirniadol pathoffisioleg afiechyd. Bydd y modiwl hwn yn defnyddio dull sy'n seiliedig ar systemau i archwilio'r ffisioleg a'r pathoffisioleg sy'n gysylltiedig â phrosesau clefydau.
Hyrwyddo Asesu a Rheoli Pobl Sy'n Ddifrifol Wael
Nod y modiwl hwn yw galluogi myfyrwyr i ddatblygu gwybodaeth ac uwch sgiliau asesu iechyd i danategu rolau ymarfer cyfredol. Mae'r modiwl hwn yn canolbwyntio ar y claf ac mae'n archwilio'r sylfaen dystiolaeth greiddiol ar gyfer technegau asesu a monitro a ddefnyddir i flaenoriaethu darpariaeth gofal cleifion.
Materion Cyfoes mewn Gofal Critigol
Nod y modiwl yw i'r myfyriwr feithrin dealltwriaeth ddamcaniaethol o ystod o themâu i lywio gofal critigol cyfoes. Y nod yw archwilio cydlynu gofal yn effeithiol gyda ffocws ar adsefydlu, moeseg yn ogystal ag agweddau seicogymdeithasol sy'n berthnasol i ofalu am gleifion difrifol wael.
Uchafbwyntiau’r Cwrs
Sut y byddwch chi'n dysgu
Defnyddir ystod o weithgareddau addysgu, asesu a dysgu fel modd o gynnig cyfleoedd dysgu heriol bywyd go iawn priodol, gan ganiatáu hyblygrwydd ac ystod o adnoddau sy'n annog ymgysylltiad. Bydd dysgu'n cael ei sgaffaldio o wythnos i wythnos i adeiladu ar wybodaeth a'i datblygu y gellir ei dangos wedyn mewn ymarfer clinigol. Bydd modiwlau’r cwrs yn cael eu cyflwyno mewn modd hyblyg trwy gymysgedd o leoliadau amgylchedd dysgu rhithwir ar-lein ac ar y campws.
Bydd modiwlau’n ddilyniannol i osgoi clystyru asesiadau a bydd ystod o wahanol fathau o asesu’n cael eu mabwysiadu yn unol â chais clinigwyr ac i fodloni cymwyseddau Cam 2 a Cham 3.
Cyfleusterau
Mae gennym Adran Achosion Brys llawn offer, ambiwlans ac Uned Therapi Dwys (ITU). Bydd defnyddio llawer o'r offer hwn yn gofyn am sgiliau digidol penodol a'r gallu i gywiro diffygion a datrys problemau. Mae’r offer a ddefnyddir gan ein myfyrwyr yn ddatblygedig iawn a byddwn yn gwella eu profiadau a’u gwybodaeth mewn amgylchedd diogel gan gynnwys defnyddio eu rhuglder digidol yn eu rolau fel gweithwyr gofal iechyd proffesiynol.
GOFYNION MYNEDIAD
Gofynion cymhwyster nodweddiadol:
Rhaid i ymgeiswyr fod yn gyflogedig ar hyn o bryd mewn amgylchedd gofal critigol ac aros yn y gyflogaeth honno trwy gydol y cwrs. Bydd Arweinydd y Cwrs yn defnyddio disgresiwn i dderbyn ceisiadau yn seiliedig ar brofiad blaenorol sy'n cyd-fynd â chymwyseddau Cam 1 a Cham 2 a gadarnhawyd gan reolwr llinell neu arweinydd addysg o'r Bwrdd Iechyd a enwyd.
Dim ond gyda chaniatâd a chefnogaeth eu cyflogwyr y gall ymgeiswyr astudio'r cwrs hwn.
Rhaid i ymgeiswyr feddu ar gofrestriad proffesiynol gyda NMC neu HCPC a bod yn weithredol ar y gofrestr honno. Rhaid i ymgeiswyr fod wedi cwblhau cymwyseddau Cam 1 ac fel arfer bydd ganddynt 18 mis o brofiad gofal critigol. Bydd ymgeiswyr sydd ag o leiaf 12 mis o brofiad yn cael eu hystyried os darperir tystiolaeth briodol o ddatblygiad proffesiynol (e.e. cwblhau cymwyseddau Cam 1).
Gofynion ychwanegol
Rhaid i ymgeiswyr fod yn gyflogedig ar hyn o bryd mewn amgylchedd gofal critigol ac aros yn y gyflogaeth honno trwy gydol y cwrs. Rhaid i'w cyflogaeth eu henwebu a'u cefnogi am hyd y cwrs.
Cynigion cyd-destunol
Mae’n bosibl y byddwn yn gwneud cynnig is i chi yn seiliedig ar amrywiaeth o ffactorau, gan gynnwys eich cefndir (ble rydych chi'n byw a'r ysgol neu'r coleg y buoch yn ei mynychu, er enghraifft), eich profiadau a'ch amgylchiadau unigol (fel rhywun sy'n gadael gofal, er enghraifft). Cyfeirir at hyn fel cynnig cyd-destunol ac rydym yn derbyn data gan UCAS i'n cefnogi wrth wneud y penderfyniadau hyn.
Mae PDC yn ymfalchïo yn ei phrofiad myfyrwyr ac rydym yn cefnogi ein myfyrwyr i gyflawni eu nodau a dod yn raddedigion llwyddiannus. Mae'r dull hwn yn ein helpu i gefnogi myfyrwyr sydd â'r potensial i lwyddo ac a allai fod wedi wynebu rhwystrau sy'n ei gwneud hi'n anoddach cael mynediad i brifysgol.
Rydym yma i helpu
P'un a oes gennych gwestiwn am eich cwrs, ffioedd a chyllid, y broses ymgeisio neu unrhyw beth arall, mae digon o ffyrdd y gallwch gysylltu, a byddem wrth ein bodd yn siarad â chi. Gallwch gysylltu â'n tîm mynediadau cyfeillgar dros y ffôn, e-bost neu sgwrsio â ni ar-lein.
Ffioedd a Chyllid
£804
fesul blwyddyn*£804
fesul blwyddyn*Costau Ychwanegol
Fel myfyriwr PDC, bydd gennych fynediad at lawer o adnoddau am ddim i gefnogi'ch astudiaethau a'ch dysgu, megis gwerslyfrau, cyhoeddiadau, cyfnodolion ar-lein, gliniaduron, a digon o adnoddau mynediad o bell. Yn y rhan fwyaf o achosion mae'r adnoddau hyn yn fwy na digon i'ch cefnogi i gwblhau eich cwrs. Efallai y bydd costau ychwanegol, yn orfodol ac yn ddewisol, ar gyfer teithio, aelodaeth, diwrnodau profiad, deunydd ysgrifennu, argraffu neu offer ac ati.
Costau argraffu poster academaidd.
Cost: £5 - £10
Sicrwydd Ansawdd Brifysgol
Yn PDC, rydym yn adolygu ein cyrsiau yn rheolaidd ar mwyn ymateb i batrymau newidiol y galw am gyflogaeth a sgiliau i sicrhau ein bod yn cynnig dysgu sydd wedi'i gynllunio i adlewyrchu anghenion myfyrwyr heddiw a gofynion cyflogwyr yfory.
Os bydd cynnwys cwrs yn cael ei newid yn sylweddol yn ystod proses adolygu, byddwn yn ysgrifennu i'ch hysbysu ac yn trafod y newidiadau ar gyfer y flwyddyn i ddod. Ond beth bynnag fydd y canlyniad, ein nod yw arfogi ein myfyrwyr â'r sgiliau a'r meddylfryd i lwyddo beth bynnag a ddaw yfory. Eich dyfodol, mewn dwylo da.
Bywyd yn PDC
Mae neuaddau yn rhan fawr o’ch profiad fel myfyriwr ac mae llety ym mhob un o’n tri lleoliad. Os nad ydych chi eisiau byw yn agos at y campws, mae yna gysylltiadau trafnidiaeth gwych i'ch cadw chi mewn cysylltiad.
Sut i Wneud Cais
Dylid gwneud pob cais am gyrsiau israddedig amser llawn neu raddau sylfaen drwy UCAS. Cymerwch y cam nesaf: Gwnewch gais drwy UCAS. Gallwch wneud cais i ni yn uniongyrchol am bob cwrs israddedig rhan-amser, os ydych yn chwilio am fynediad uwch neu os ydych yn fyfyriwr rhyngwladol. I wneud cais yn uniongyrchol, dewiswch y ffurflen gais isod ar gyfer eich dyddiad cychwyn dewisol a'ch dull astudio (amser llawn neu ran-amser).
Mynediad uwch
Os oes gennych gymhwyster neu brofiad perthnasol eisoes sy'n gysylltiedig â'r cwrs rydych yn gwneud cais amdano, efallai y byddwch yn gymwys i ddechrau ar gam diweddarach o'r cwrs. Er enghraifft, gall myfyrwyr o golegau partner 'ychwanegu ato' eu cymwysterau i radd trwy ymuno â ni ym Mlwyddyn Dau neu Flwyddyn Tri cwrs. Gelwir y broses hon yn 'fynediad uwch', gallwch wneud cais yn uniongyrchol i'r Brifysgol am 'fynediad uwch' gan ddefnyddio'r ffurflenni cais a ddarperir uchod.
Gall ymgeiswyr a dderbynnir drwy fynediad uwch astudio cyfuniad gwahanol o fodiwlau i'r rhai a hysbysebir, gan y byddant yn ymuno â chwrs sydd eisoes ar y gweill. Fe wnawn ni gysylltu â chi a’ch cynghori chi am y modiwlau hyn unwaith y bydd eich cais wedi'i brosesu a chynnig wedi'i wneud.
Derbyniadau rhyngwladol
Gall ymgeiswyr rhyngwladol wneud cais yn uniongyrchol i ni. Os oes gan y Brifysgol dîm mewn gwlad yn eich rhanbarth, bydd eich cais yn cael ei neilltuo iddynt am gymorth.